BSc

Bioleg Planhigion (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Bioleg Planhigion (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C202 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2023

Mae gan raddedigion Bioleg Planhigion gyfleoedd gyrfaol gwych, ac mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn lle delfrydol ar gyfer cam cyntaf eich gyrfa. Rydym yn gartref i raglenni bridio planhigion a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer gweiriau sy’n uchel o ran siwgr, adnoddau a chronfeydd data geneteg planhigion, gerddi botaneg, a’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion.

Trosolwg o'r Cwrs

Trwy ddilyn y radd hon byddwch yn astudio pob agwedd ar fywyd planhigion, o’r moleciwlaidd i’r ecolegol, ac ar yr un pryd yn archwilio materion byd-eang sy’n ymwneud â phlanhigion. Byddwch yn ystyried sut y gall technoleg sy’n seiliedig ar blanhigion ein cynorthwyo i wynebu her poblogaeth ddynol sy’n tyfu a bygythiadau’r dyfodol, yn cynnwys diogelwch bwyd a newid yn yr hinsawdd. Byddwch hefyd yn elwa yn sgil llu o gyfleoedd am waith maes, gan gynnwys y posibilrwydd o astudio fflora Tymherus, Trofannol ac Arctig-Alpinaidd.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Bioleg Planhigion yn Aberystwyth:

  • cyfleusterau o safon fyd-eang gan gynnwys gerddi botaneg gydag amrywiaeth eang o blanhigion tymherus a throfannol, amrywiaeth eang o ystafelloedd tyfu a thai gwydr, ac amgueddfa o sbesimenau botanegol hanesyddol
  • mynediad at y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol a’r posibilrwydd o ymwneud â’n rhaglenni bridio planhigion sy’n arwain y byd
  • cynefinoedd prydferth, sy’n cynnig amrywiaeth ryfeddol o gyfleoedd gwaith maes a hamdden.


Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2023

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol BG18040 40
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr BG16820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomy and Crop Improvement BR27620 20
Climate Change: Plants, Animals and Ecosystems BR21120 20
Controlled Environment Crop Production and Horticulture BR23520 20
Ecological Surveying BR21420 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Molecular Biology and Bioinformatics BR20620 20
Aquatic Botany BR25820 20
Pynciau llosg yn y Biowyddorau BG21720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Frontiers in Plant Science BR35820 20
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Crop and Grassland Production Science BR37220 20
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol BG36620 20
Terrestrial Ecology Fieldcourse BR36620 20
The Agri-Environment BR30420 20

Gyrfaoedd

Mae’r cyfleoedd gyrfa ar gyfer gwyddonwyr planhigion yn wirioneddol ragorol, gyda llawer o swyddi a dim ond ychydig o wyddonwyr hyfforddedig yn y maes hwn. Mae ein Hathrofa mewn sefyllfa berffaith i’ch helpu i fanteisio ar gysylltiadau yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae ein graddedigion yn gweithio ym maes rheoli cadwraeth, mewn athrofeydd ymchwil planhigion dan nawdd y Llywodraeth a rhai diwydiannol, ac yn y gwasanaeth sifil gwyddonol.

Dysgu ac Addysgu

Y flwyddyn gyntaf:

  • Amrywiaeth Microbau/Microbial Diversity
  • Biochemistry and the Cellular Basis of Life
  • Datblygu a Rheoli Cynefinoedd ym Mhrydain/The Development and Management of British Habitats
  • Ecoleg/Ecology
  • Evolution and the Diversity of Life
  • Exploring Genetics
  • Molecular Laboratory Skills
  • Sgiliau Astudio a Chyfathrebu/Study and Communication Skills
  • Soils and their Management
  • The Biosphere
  • Y Blaned Werdd/The Green Planet.

Yr ail flwyddyn:

  • Agronomy and Crop Improvement
  • Arolygu Ecolegol/Ecological Surveying
  • Climate Change: Plants, Animals and Ecosystems
  • Dulliau Ymchwil/Research Methods.

Y flwyddyn olaf:

  • Frontiers in Plant Science
  • Microbial Pathogenesis
  • Prosiect Ymchwil/Research Project.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|