BA

Gwleidyddiaeth a Hanes Modern

Mae Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn gyfuniad perffaith i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn deall damcaniaeth wleidyddol a'r gorffennol diweddar. Mae'n cyfuno arbenigedd haneswyr a gwyddonwyr gwleidyddol mewn strwythur cwrs integredig, sy'n cynnig rhyddid sylweddol wrth ddewis modiwlau hanes a gwleidyddiaeth. Bydd yr addysgu'n cael ei rannu rhwng yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'r Adran Hanes a Hanes Cymru. Yn rhan o'r cwrs gradd hwn, byddwch yn archwilio themâu allweddol megis pŵer, trais, economeg a chymdeithas yn ogystal â'r modd y mae'r grymoedd hyn wedi siapio ein byd modern. Byddwch hefyd yn dysgu am sut mae meddylfryd ym meysydd gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol wedi effeithio ar y syniadau sydd wedi llunio'r strwythurau gwleidyddol yr ydym yn byw oddi mewn iddynt.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu mewn dwy adran hir-sefydlog ac uchel eu bri. Dysgir Hanes yn Aberystwyth ers 1872, a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth oedd yr adran wleidyddiaeth gyntaf yn y byd pan y sefydlwyd hi yn 1919.
  • Byddwch yn cael eich tywys a'ch mentora gan ddarlithwyr brwdfrydig, sy'n ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu arloesol a dynamig i chi.
  • Mae un o lyfrgelloedd mwya'r byd, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar garreg ein drws. Mae'r sefydliad hawlfraint hwn yn cael copi o bob llyfr a gaiff ei gyhoeddi yn y DU.
  • Cewch gyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol yn ystod eich cwrs gradd. Yn yr adran Hanes, cewch y cyfle i ymuno â Chymdeithas Hanes Prifysgol Aberystwyth a chymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol ac ymweliadau ag amgueddfeydd ac orielau a lleoliadau eraill sy'n gyfoeth o hanes. Yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, cewch y cyfle i fod yn rhan o'n cynllun Lleoliadau Seneddol clodfawr, ochr yn ochr ag Aelod o Senedd Cymru, Caerdydd neu Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan), ac i fod yn gyfranogwyr gweithgar i Interstate', sef y cyfnodolyn hynaf gan fyfyrwyr ar Wleidyddiaeth Ryngwladol yn y DU.
Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Age of Empire: Britain and Ireland, 1850-1914 HY26920 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY28520 20
Culture, Society and the Victorians HY29320 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a’r Fictoriaid HA29320 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY29220 20
Knighthood and Chivalry in high medieval England, 1066-1300 HY20420 20
Modern American History HY28320 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY22020 20
The European Reformation HY26520 20
The Great Divergence: Europe and Asia, c.1300-c.1800 HY26320 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY29420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP27020 20
Contemporary Sub-Saharan Africa: Key Issues Today IP20520 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau GW20120 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
European Security in 21st Century IP23620 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ22920 20
Global Inequality and World Politics IQ24120 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ25520 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
Gwragedd a Datblygiad Byd-eang GW29620 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Politics and the Nuclear Age IP20420 20
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
Language revitalisation in a global context WE20120 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP23320 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
Political Theory IP22220 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The British Army’s Image in Battle, from the Crimea to the Present IQ20920 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Women and Global Development IP29620 20
American History skills module HY25020 20
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Dread and Despair? Living with Disability in the Middle Ages HY23320 20
Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20
History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz' HY23420 20
Image Wars in Southeast Asia: Studying 20th Century Propaganda HY23720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP38820 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti GW39920 20
Climate Change Politics IP31420 20
Contemporary Sub-Saharan Africa IP30520 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW35820 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ34320 20
European Security in the 21st Century IP33620 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ32920 20
Global Inequality and World Politics IQ34120 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ35520 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ33820 20
Gwragedd a Datblygiad Byd-eang GW39620 20
International Politics and the Nuclear Age IP30420 20
Language revitalisation in a global context WE30220 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP33320 20
Nationalism in Theory and Practice IP39920 20
Political Theory IP32220 20
The Arab Israeli Wars IP31320 20
The British Army’s Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ30920 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ33820 20
Women and Global Development IP39620 20
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40
Dissertation HY30340 40
Traethawd Estynedig HA30340 40
An Age of Empire: Britain and Ireland, 1850-1914 HY36920 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY38520 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cymru a'r Tuduriaid HC33520 20
Diwylliant, Cymdeithas a’r Fictoriaid HA39320 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY39220 20
Knighthood and Chivalry in high medieval England, 1066-1300 HY30420 20
Modern American History HY38820 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY30120 20
The European Reformation HY36520 20
The Great Divergence: Europe and Asia, c.1300-c.1800 HY36320 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY39420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Wales under the Tudors WH33520 20

Cyflogadwyedd

Beth mae ein graddedigion yn ei wneud erbyn hyn? 

Mae graddedigion o'n hadran wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol: 

  • y Gwasanaeth Sifil
  • gwasanaethau diogelwch
  • adrannau ymchwil y llywodraeth
  • Materion Cyhoeddus
  • addysg
  • ymchwil gymdeithasol.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi wrth astudio yn y Brifysgol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu. Rydym yn addysgu ein myfyrwyr i anelu am yr yrfa maen nhw'n dymuno ei chael, ac nid y swydd y gallan nhw ei chael.

  • Cynllun Lleoliadau Seneddol - Mae'r cynllun clodfawr hwn sy'n cael ei redeg gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn eich galluogi i gael profiad gwaith gwerthfawr gydag Aelod o Senedd Cymru (Caerdydd) neu Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn llunio adroddiadau ac areithiau, yn cyflawni prosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion yn yr etholaeth. Mae'n bosib y bydd cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan mewn etholiadau a materion rhyngwladol amrywiol.
  • Lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn y sector treftadaeth - Mae gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru gysylltiadau cryf gyda'r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn y Llyfrgell Genedlaethol (gan gynnwys cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Llundain. Mae'r lleoliadau hyn yn rhoi cyfle i gael profiad ymarferol a chipolwg o'r sector treftadaeth, ac maent yn werthfawr iawn ar gyfer y CV!
  • Interstate - Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gartref i'r cyfnodolyn hynaf gan fyfyrwyr ar wleidyddiaeth ryngwladol yn y DU, sy'n rhoi cyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith (sy'n arbennig o fanteisiol os byddwch yn dymuno cyflawni astudiaeth ôl-raddedig) neu i gael profiad gwerthfawr yn gweithio fel rhan o'r tîm golygyddol. Mae cymdeithasau myfyrwyr cyffrous yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran, gan gynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ochr yn ochr â gweithgareddau cymdeithasol niferus fel y ddawns flynyddol.

Pa sgiliau fydda i'n eu cael os bydda i'n astudio Gwleidyddiaeth a Hanes Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Bydd astudio am radd mewn Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau effeithiol mewn datrys problemau a meddwl yn greadigol
  • gwneud cyflwyniadau effeithiol
  • sgiliau ymchwil
  • y gallu i lunio dadleuon gwybodus o dan gyfyngiadau amser
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • defnyddio'r adnoddau a'r platfformau digidol diweddaraf.

Cyfleoedd rhyngwladol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau. Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa. Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol. Canfod ble gallwch chi fynd.

Sgyrsiau graddedig a mentora gan gyn-fyfyrwyr

Mae’r cynllun e-Fentora yn gyfle i chi gysylltu â chyn-fyfyrwyr o amrywiaeth o yrfaoedd, a hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi ganfod beth oedd eu llwybr nhw i’w swyddi presennol a pha wybodaeth y gallant ei rhannu wrth i chi feddwl am eich camau nesaf. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru’n cydweithio â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd gyda’r bwriad o drefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd, megis y sgwrs lwyddiannus: ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’, a gyflwynwyd gan un o’n graddedigion diweddar a lwyddodd i gael lle ar raglen uchel ei bri i hyfforddai yn Oriel y Tate.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Cyfleoedd Rhyngwladol

Ceir gwybodaeth am gyfleoedd i dreulio amser dramor yn ystod eich gradd o dan 'Astudio dramor' yn y brif fwydlen ochr-chwith ar dudalen gartref y ddwy adran.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • Sgiliau hanesyddol
  • Dulliau a chyfnodau newydd
  • Gwaith gwleidyddol a hanesyddol diweddar a chyffrous
  • Datblygiad a hynt cysylltiadau rhyngwladol yn ystod yr ugeinfed ganrif
  • Ystod o safbwyntiau ac ymagweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.

Yn ystod eich ail a'ch trydedd flwyddyn, byddwch yn archwilio pynciau fel:

  • Dull hanesyddol
  • Damcaniaeth wleidyddol
  • Modernedd Cynnar yn Ewrop
  • Rhyfel a Chymdeithas mewn Hanes
  • Esblygiad rhyfela ers Napoleon
  • Cymru Ramantaidd
  • Rhywedd mewn Hanes
  • Cymdeithas Prydain a'r Chwyldro Ffrengig
  • Napoleon
  • Prydain yn Rhyfela
  • Y Drydedd Reich
  • Rhyfel Fietnam
  • Defod, Brenhiniaeth a Grym yn Lloegr Normanaidd ac Angevin
  • Agweddau gwleidyddol a hanesyddol ar y Rhyfel Oer
  • Cudd-wybodaeth a diogelwch yn yr ugeinfed ganrif
  • Rôl rhyfela yn hanes gwladwriaethau a rhanbarthau allweddol (fel yr UDA, Rwsia, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, a'r Dwyrain Canol).

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon ar ffurf darlithoedd a seminarau.

Byddwn yn dynodi tiwtor personol i chi a fydd gyda chi drwy gydol eich gradd. Bydd yn eich helpu gydag unrhyw broblemau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfr, logiau dysgu a chyflwyniadau.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng, sef gweithgaredd preswyl blynyddol i ffwrdd o Aberystwyth. Mae'r Gemau Argyfwng wedi bod yn seiliedig ar argyfyngau dyngarol ac amgylcheddol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, rhyfel rhwng Rwsia a Georgia, rhaglen niwclear Iran, a Brecsit. Bydd y Gemau Argyfwng yn caniatáu i chi ddysgu am agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu haddysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig y cyfyngiadau mae arweinwyr gwleidyddol yn eu hwynebu wrth ymateb i argyfyngau amrywiol. Yn ddi-os, dyma uchafbwynt y flwyddyn. 

Barn ein Myfyrwyr

Rhoddodd y cwrs Gwleidyddiaeth a Hanes Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth gyfle ardderchog i fi brofi arbenigedd dwy adran wych. Mae cwrs V135 wedi'i deilwra'n arbennig i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn sut mae'r byd wedi newid dros amser, ac elfennau gwleidyddol pwysig y newid hwnnw. Gan ein bod ni'n gallu dewis o blith rhestr hir o fodiwlau yn y ddwy adran, rydw i wedi gallu canolbwyntio ar yr agweddau ar newid hanesyddol a gwleidyddol rwy'n ymddiddori ynddyn nhw fwyaf. Hefyd, mae'r staff a'u harbenigedd wedi rhoi profiad dysgu eithriadol a chefnogaeth ragorol i fi.

Alan Donaldson

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk

Yn ôl i'r brig

|