BA

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor)

BA Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor) Cod L249 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

BA Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i wahanol systemau gwleidyddol a sefydliadau byd-eang. Byddwch yn dysgu am y grymoedd sy’n gyrru newidiadau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol-gymdeithasol ledled y byd, ac yn archwilio’r heriau sy’n wynebu’r system ryngwladol megis globaleiddio, diogelwch rhyngwladol, yr amgylchedd, anghydraddoldeb, iechyd byd-eang, gwrthdaro a rhyfela.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn trafod gwahanol ddadleuon, damcaniaethau ac esboniadau amgen ac yn datblygu sgiliau dadansoddol sydd mor bwysig yn y farchnad waith.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Rydym yn cynnig addysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr ar ystod eang o fodiwlau (tua ugain i ddewis ohonynt ym mlynyddoedd 2 a 3), amgylchedd sy'n ysgogol yn ddeallusol ond yn gyfeillgar, ac ymdeimlad gwirioneddol o gymuned.
  • Byddwch yn dysgu am gysyniadau gwleidyddol allweddol megis pŵer, diogelwch, democratiaeth, datblygiad, rhyddid a sofraniaeth, a sut mae'r rhain yn cael eu herio mewn gwleidyddiaeth gyfoes o fewn gwledydd ac ar raddfa fyd-eang.
  • Byddwch yn trin a thrafod gwahanol systemau gwleidyddol a sefydliadau byd-eang ac yn dysgu am y grymoedd y tu ôl i newidiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol ledled y byd.
  • Byddwch yn astudio'r heriau craidd sy'n wynebu gwleidyddiaeth fyd-eang heddiw, megis poblyddiaeth wleidyddol a thensiynau niwclear, yr argyfwng hinsawdd, gwaddolion trefedigaethol, gwrthdaro cynyddol a chyfyng-gyngor mudo.
  • Byddwch hefyd yn dysgu am wahanol ranbarthau a gwledydd, megis cyfandiroedd America a Rwsia, Ewrop, Affrica a'r Dwyrain Canol.
  • Yn ogystal â mireinio eich sgiliau academaidd, bydd ein modiwlau yn rhoi ichi'r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer bywyd ar ôl y Brifysgol, megis ysgrifennu blogiau a briffiau polisi, rhoi cyflwyniadau a defnyddio eich creadigrwydd i ddatrys problemau.
  • Rydym hyd yn oed yn cynnal modiwlau efelychu chwarae rôl bob blwyddyn sy'n datblygu sgiliau negodi, perswadio, cydweithredu a gweithio mewn tîm - yr union sgiliau sydd eu hangen yn y byd gwleidyddol.
  • Mae gan ein graddedigion yrfaoedd mewn ystod eang o feysydd, megis diplomyddiaeth, newyddiaduraeth, gwasanaeth sifil neu weithio i bleidiau gwleidyddol, cyrff anllywodraethol neu sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â dilyn llwybrau i raddedigion ym maes busnes, diwydiant, addysg a'r sector cyhoeddus.   

Cyfleoedd - Gall myfyrwyr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth wneud y canlynol:

  • Ymuno â'n 'Gemau Argyfwng' enwog – ymarfer chwarae rôl mewn symudiadau gwleidyddol a diplomyddol a gynhelir dros 3 diwrnod, ac un o uchafbwyntiau’r cwrs.
  • Gwneud cais am le ar ein Cynllun Lleoliadau Seneddol, interniaeth chwe wythnos o hyd ar gyfer myfyrwyr yn yr ail flwyddyn i weithio ochr yn ochr ag Aelod Seneddol yn San Steffan neu Aelod o’r Senedd yng Nghaerdydd.
  • Cymryd rhan yng ngweithgareddau'r Adran, fel y trafodaethau 'Bwrdd Crwn' rheolaidd ar ddigwyddiadau allweddol ledled y byd, gweithgareddau'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y cyfnodolyn myfyrwyr Interstate a'n nosweithiau cwis a phitsa poblogaidd.


Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau GW20120 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
International Politics and Global Development IP29220 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Second World War in Europe IP26420 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
War Crimes IQ25720 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi’i wreiddio yn ein holl gyrsiau. Mae ein graddau’n darparu sylfaen gadarn i amrywiaeth fawr o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau.

Mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu dibynnu ar set o sgiliau trosglwyddadwy mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, sy’n sicrhau bod galw mawr amdanynt.

Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael gwaith yn:

  • y sector datblygu
  • gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol
  • y Gwasanaeth Sifil
  • y Trydydd Sector, ee cyrff anllywodraethol
  • sefydliadau rhyngwladol
  • newyddiaduraeth.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i'r:

  • cysyniadau a'r themâu sy'n ganolog i astudiaeth o wleidyddiaeth ryngwladol, gan gynnwys safbwyntiau damcaniaethol allweddol, ac fe gei dy annog i'w dadansoddi a'u cloriannu
  • prif nodweddion sy'n sail i wleidyddiaeth yn yr unfed ganrif ar hugain, gan astudio systemau gwleidyddol a thrafod syniadau a phynciau gwleidyddol pwysig
  • datblygiadau ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol mewn amser go iawn, gyda'r pwyslais ar newyddion a safbwyntiau sy’n dod i'r amlwg o wythnos i wythnos yn ystod y semester a chyfle i adfyfyrio'n feirniadol ar ddigwyddiadau.

Byddwch hefyd yn astudio modiwlau dewisol sy'n cynnwys pynciau megis rhyfel, heddwch a chwyldro ers 1789; globaleiddio a datblygu byd-eang; a rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth.

Yn eich ail flwyddyn, cewch archwilio:

  • gwreiddiau'r disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, datblygiad meddylfryd damcaniaethol, rôl edrych ar bethau mewn modd ddamcaniaethol wrth ffurfio ein dealltwriaeth o'r byd, ac amrywiaeth o wahanol ddulliau damcaniaethol fel sail i ddeall prosesau gwleidyddiaeth ryngwladol
  • ystod o gysyniadau a dadleuon allweddol ynghylch gwahanol bwerau gwleidyddol, a chanfod sut y mae'r rhain yn berthnasol i esiamplau o wleidyddiaeth ymarferol mewn gwahanol rannau o'r byd, gydag anghydraddoldeb gwleidyddol yn thema amlwg.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â blwyddyn o astudio dramor.

Yn y flwyddyn olaf, cewch eich cyflwyno i:

  • egwyddorion cyffredinol dulliau ymchwil, methodolegau a fframweithiau damcaniaethol i dy alluogi i ymgymryd ag ymchwil annibynnol ac i ysgrifennu dy draethawd estynedig.

Cewch hefyd astudio amrywiaeth o fodiwlau dewisol gan gynnwys pynciau megis datblygu byd-eang, rhyfeloedd masnach a'r drefn ryddfrydol, America Ladin gyfoes, cyfiawnder, trefn ac hawliau dynol, yr UE, y Dwyrain Canol yn yr ugeinfed ganrif, hanes milwrol UDA, cenedlaetholdeb, cudd-wybodaeth Rwsieg, Cynghrair y Cenhedloedd a'i etifeddiaeth, a therfysgaeth a gwrthderfysgaeth yn y byd modern.

Gweithgareddau allgyrsiol

Rydym yn eich annog i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng, sef cwrs preswyl a gynhelir yn flynyddol y tu allan i Aberystwyth. Mae'r Gemau Argyfwng wedi canolbwyntio ar argyfyngau dyngarol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, uchelgais niwclear Iran, yr etholiad i benodi arlywydd UDA, trychinebau amgylcheddol yn yr Arctig, a'r rhyfel rhwng Rwsia a Georgia.

Bydd y Gemau Argyfwng yn gyfle ichi ddysgu am yr agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu dysgu mewn darlithoedd a seminarau - yn enwedig y cyfyngiadau a wynebir gan arweinyddion gwleidyddol wrth ymateb i wahanol argyfyngau. I lawer o'n myfyrwyr, y Gemau Argyfwng yw pinacl y cwrs.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn cyflwyno'r radd hon drwy gyfrwng darlithoedd a seminarau.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Cewch eich asesu ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfr, logiau dysgu a chyflwyniadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|