BSc

Seicoleg gyda Chwnsela

Gydag achrediad gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), mae ein gradd BSc Seicoleg gyda Chwnsela ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyfuno astudio gwybodaeth seicolegol graidd gyda sylfeini academaidd cwnsela. Ar y cwrs, cewch eich cyflwyno i ystod o ddulliau a thechnegau therapiwtig, gan gynnwys dulliau cwnsela person-ganolog, ymddygiad gwybyddol a seico-deinamig. Fel myfyriwr ar y cwrs, byddwch yn mabwysiadu ymagwedd ymarferol, fyfyriol at eich dysgu a’ch datblygiad. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio ymarferol gan gynnwys casglu a dadansoddi data ansoddol a meintiol, a sgiliau arbenigol yn gysylltiedig â chwnsela, y byddwch yn eu datblygu drwy sesiynau ymarferol, chwarae rôl a goruchwylio un i un ar draws y cynllun.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cognitive Psychology PS21820 20
Foundations of Counselling II: Further Skills and Theory PS22120 20
Qualitative Research Methods PS20310 10
Dulliau Ymchwil Meintiol SC21310 10
Social Psychology PS20220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Evolutionary Psychology PS21020 20
Forensic Psychology PS21220 20
Health Psychology PS20720 20
Issues in Clinical Psychology PS21720 20
Psychology in Practice PS20620 20
Seicoleg Iechyd SC20720 20
The Psychology of Language PS20420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behavioural Neuroscience PS32120 20
Prosiect Ymchwil Cwnsella SC33240 40
Developmental Psychology PS34320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
21st Century Self: Critical and Constructionist Approaches to Contemporary Personhood PS31720 20
Child Language: Development and Assessment PS31820 20
Drugs and Behaviour PS30820 20
Psychology Critical Review PS31520 20
Psychology in Practice PS30620 20
Psychology of Humour PS32620 20
Sex and relationships in psychotherapeutic practice PS32320 20

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Ein hethos yw addysgu mewn ffordd sy’n eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth gysyniadol a damcaniaethol i ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd posibl yn y byd real. Yn ystod y cwrs tair blynedd, byddwch yn archwilio ac yn dysgu am ddatblygiad dynol a chymhlethdod yr hyn sy’n gwneud i ni fodau dynol weithio a sut rydym ni’n llywio drwy’r amgylchedd mewnol ac allanol cymhleth yn ogystal â sylfeini a hanfodion cwnsela.

Yn Aberystwyth, rydym ni’n cynnig ystod eang o fodiwlau sy’n gadael i chi fynd ar drywydd amrywiol agweddau ar Seicoleg a chwnsela. Gall myfyrwyr ar ein gradd Seicoleg a Chwnsela fanteisio ar offer ymchwil cyffrous i ddeall gweithgaredd yr ymennydd a gwybyddol yn ogystal ag offer mesuriadau ymddygiadol.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs Seicoleg a Chwnsela yn ymuno ag un o’r adrannau mwyaf yn y brifysgol. Mae’r Adran Seicoleg yn rheolaidd yn cael ei gosod ymhlith y 10 gorau yn y DU am foddhad myfyrwyr ac ansawdd yr addysgu. Mae’r Adran yn ymfalchïo yn lefel uchel y cymorth academaidd a bugeiliol a arweinir gan y tîm academaidd sy’n sicrhau eich bod yn llwyddo yn eich astudiaethau ac yn cael y profiad prifysgol gorau.

Gyrfaoedd

Mae’r BSc Seicoleg gyda Chwnsela yn sylfaen ragorol os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y proffesiynau gofal cymdeithasol neu gymorth. Bydd achrediad BPS yn galluogi mynediad at hyfforddiant uwchraddedig a phroffesiynol mewn seicoleg glinigol a chwnsela.

Rydym ni wedi gwreiddio cyflogadwyedd drwy’r cwrs cyfan, ac mae gennym nifer fawr o gyfleoedd sy’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i lunio CV ar gyfer gyrfa mewn lleoliad seicoleg neu’r tu allan i seicoleg.

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddaf i'n ei astudio?

Byddwch yn astudio meysydd craidd gwybodaeth seicoleg sydd eu hangen ar gyfer achrediad BPS. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau ymchwil, gwybyddol, cymdeithasol, biolegol, datblygiadol a gwahaniaethau unigol. Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil yn gysylltiedig â chwnsela yn y drydedd flwyddyn.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i gysyniadau, themâu a dulliau craidd o fewn Seicoleg a Chwnsela sy’n cynnwys: unigolion, grwpiau ac ymddygiadau; datblygu proffesiynol ac ymddygiad sefydliadol; yr ymennydd, ymddygiad a gwybyddiaeth; cwnsela a pherthnasoedd cwnsela; cyflwyniad i ddulliau seico-therapiwtig; sgiliau cwnsela; ymarfer moesegol a myfyriol i gwnselwyr.

Yn ystod eich ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf, byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth a’ch defnydd o ddulliau ymchwil a thechnegau dadansoddi ansoddol a meintiol; dwysáu eich dealltwriaeth o barthau craidd Seicoleg, gan gynnwys gwybyddol, Niwrowyddoniaeth, seicoleg ddatblygiadol, gwahaniaethau unigol, a seicoleg gymdeithasol; lleoli gwybodaeth seicolegol allweddol a’i chymhwyso i barthau fel seicoleg glinigol ac iechyd; ymarfer myfyriol beirniadol mewn cwnsela; ymagweddau integreiddiol at gwnsela; gan ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yn gysylltiedig â chwnsela.

Sut fyddaf i’n cael fy addysgu?

Mae eich datblygiad academaidd a deallusol wrth graidd y profiad Seicoleg yn Aberystwyth. Mae ein staff yn ymrwymo i ddull addysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gan olygu bod eich anghenion dysgu’n flaenoriaeth o ran yr hyn a addysgwn a sut rydym ni’n eich addysgu. Pan fyddwch chi’n ymuno â ni, cewch eich neilltuo i diwtor personol fydd yn eich cefnogi drwy gydol eich gradd ac a fydd yna i’ch cynghori a’ch arwain ar amrywiol faterion academaidd a phersonol.

O ddarlithoedd traddodiadol i waith mewn grwpiau bach, rydym ni’n cyflwyno addysgu ysbrydoledig drwy amrywiaeth eang o fformatau gwahanol. Cewch gyfle hefyd i gymhwyso eich gwybodaeth mewn gweithdai a sesiynau ymarferol yn y labordy, lle cewch elwa ar amrywiaeth eang o offer a chyfleusterau ymchwil arbenigol. Caiff eich datblygiad ei asesu mewn nifer o wahanol ffyrdd gan gynnwys: arholiadau traddodiadol, traethodau, wikis, blogiau, arsylwadau a chyflwyniadau.

Yn Aberystwyth gallwch fod yn hyderus y byddwch yn derbyn y profiad dysgu gorau ar reng flaen y ddisgyblaeth.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|