BSc

Seicoleg a Throseddeg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Seicoleg a Throseddeg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod A1C6 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd y BSc Seicoleg a Throseddeg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r chyfle i chi gyfuno dau o feysydd mwyaf diddorol a phoblogaidd y gwyddorau cymdeithasol. Ar y cwrs hwn, fe gewch chi gipolwg ar safbwyntiau cymdeithasol a seicolegol troseddu. Byddwch yn astudio'r ymennydd, y meddwl ac ymddygiad i ddarganfod cymhelliant pobl i gyflawni trosedd, ôl-effeithiau cymdeithasol-ddiwylliannol eu gweithredoedd, a'r ffactorau sy'n debyg o'u gwneud yn fwy tebygol o aildroseddu. Yn ystod y cwrs gradd pedair blynedd hwn, byddwch yn meithrin llawer o'r sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, ac fe fydd y flwyddyn mewn diwydiant yn rhoi i chi’r ddealltwriaeth, y wybodaeth a'r profiad ychwanegol y maent yn chwilio amdanynt.  

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn union yr un fath â'i chwaer gwrs (CM89), ond bydd gennych flwyddyn ychwanegol o gyllid i ymgymryd â'ch blwyddyn mewn diwydiant. Os nad ydych yn gallu cael lleoliad gwaith, gallwch drosglwyddo i'r chwaer-raglen tair blynedd yn lle hynny. Bydd myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r flwyddyn mewn diwydiant yn talu ffioedd dysgu gostyngedig. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalenFfioedd Dysgu.

Trwy astudiaethau gwyddonol a chael eich addysgu gan staff sydd ag arbenigedd yn y ddwy ddisgyblaeth, byddwch yn astudio troseddu, dioddefwyr, strwythurau cymdeithasol a'r system cyfiawnder troseddol. Er enghraifft, byddwch yn archwilio cymhelliant mewnol, datblygiad, a phrosesau meddyliol pobl. 

Byddwch yn archwilio dadleuon cyfredol ac yn dysgu sut i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i broblemau ymarferol a phynciau llosg yn y byd go iawn. Yn Aberystwyth, rydym yn gweithio gyda chi i’ch helpu i fod yn wybodus ac yn feddylwyr chwilfrydig. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi i’ch galluogi i gynnal eich ymchwil eich hun. Rydym yn defnyddio ein profiad addysgu ac ymchwil i’ch ysbrydoli ac i roi’r sgiliau a’r hyder i chi wneud beth bynnag yr ydych yn dymuno ei wneud yn y dyfodol. 

Mae ein holl gynlluniau gradd wedi’u cynllunio gyda chyflogadwyedd mewn golwg ac mae rhannau Seicoleg y radd hon wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Byddwch yn datblygu sgiliau beirniadol, dadansoddol a chyfathrebu uwch, ac yn datblygu ymhellach eich sgiliau deallusol a’ch sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy, megis meddwl yn feirniadol, cyfathrebu, gwaith tîm, a datrys problemau. Bydd hyn yn gwella eich cyfleoedd cyflogaeth mewn meysydd galwedigaethol, megis y system cyfiawnder troseddol a meysydd amrywiol o fewn y gwasanaethau cymdeithasol. 

Credwn ei bod yn bwysig eich bod yn astudio mewn amgylchedd cefnogol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, ac mae ein cyfleusterau ymchwil modern a'n mannau dysgu rhagorol i fyfyrwyr ar gyfer Seicoleg a Throseddeg yn ychwanegol at gyfleusterau canolog rhagorol y brifysgol. Mae’r adnoddau hyn yn ein galluogi i ddarparu dull arloesol o ddysgu ac addysgu. 



Ein Staff

Mae holl staff dysgu'r Adran Seicoleg yn gwneud gwaith ymchwil ac mae gan bob un o’r staff parhaol gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf TUAAU neu maent yn gymrodyr/cymrodyr uwch o'r academi addysg uwch. Mae gan dros hanner y staff hefyd gymhwyster CPsychol, sy'n dynodi safon uchaf y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig o ran gwybodaeth ac arbenigedd mewn seicoleg.

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cognitive Psychology PS21820 20
Qualitative Research Methods PS20310 10
Dulliau Ymchwil Meintiol SC21310 10
Social Psychology PS20220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Climate Change and Environmental Law LC27720 20
Community Justice LC20320 20
Contemporary Issues in Criminology LC24220 20
Criminal Justice Placement LC22520 20
Cyfraith Troseddol CT20520 20
Cyfraith Troseddol CT20520 20
Dioddefoleg CT20320 20
Drugs and Crime LC28220 20
Family and Child Law LC26420 20
Human Rights LC25220 20
Lleoliad Gwaith Cyfiawnder Troseddol CT22520 20
Medicine Ethics and the Law LC26720 20
Police, Policing and Society LC21020 20
Psychological Explanations of Criminal Behaviour LC28120 20
Psychopathology LC29220 20
Trosedd yn y Gymru Gyfoes CT20220 20
Troseddau & Chyfiawnder Ieuenctid CT26120 20
Victimology LC20820 20
Youth Crime and Justice LC26120 20
Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas CT21020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Work Placement PSS0260 60

Gyrfaoedd

Bydd gradd mewn Seicoleg a Throseddeg o Brifysgol Aberystwyth yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd, a mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi pellach. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • seicoleg glinigol, addysgol, alwedigaethol, chwaraeon ac ymarfer corff 
  • seicotherapi a chwnsela 
  • gwaith cymdeithasol 
  • gofal iechyd 
  • adnoddau dynol 
  • gwasanaeth cynghori ar yrfaoedd 
  • marchnata, cyhoeddi, hysbysebu. 

Mae galw mawr gan gyflogwyr am y sgiliau y byddwch yn eu dysgu wrth astudio yma, ac maent yn cynnwys: 

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data 
  • sgiliau datrys problemau effeithiol 
  • y gallu i weithio'n annibynnol a chyflwyno deunydd yn glir ac effeithiol 
  • sgiliau rheoli amser a threfnu 
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus 
  • y gallu i wthio eich hunan a bod yn annibynnol 
  • sgiliau rheoli prosiectau a gweithio mewn tîm 
  • sgiliau technoleg gwybodaeth. 

Dysgu ac Addysgu

Beth y byddaf fi'n ei ddysgu? 

Mae natur ryngddisgyblaethol Seicoleg a Throseddeg yn cydweithio i roi ichi bersbectif damcaniaethol o droseddeg gyda seicoleg ac athroniaeth, yn ogystal ag egwyddorion angenrheidiol seicoleg. Byddwch yn archwilio i’r rhesymau y mae pobl yn troseddu a’r ôl-effeithiau cymdeithasol a diwylliannol, ac yn cyfeirio’n agos at y meddwl seicolegol, er mwyn meithrin a datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer dechrau ar yrfa yn y maes hwn. Mae’r radd hon, a achredir gan y BPS, wedi ei llunio ar bynciau craidd seicoleg, sy’n gweithio law yn llaw gyda’ch modiwlau Troseddeg arbenigol. 

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch: yn dechrau troi’n Seicolegydd drwy ddatblygu gwybodaeth graidd mewn meysydd fel ymddygiad cymdeithasol ac unigol, yr Ymennydd a gwybyddiaeth a materion hanesyddol ym maes seicoleg. Byddwch hefyd yn dechrau datblygu ystod eang o sgiliau drwy ddefnyddio dulliau a thechnegau a fydd yn eich galluogi i ymchwilio i ffenomenau seicolegol tra’n ystyried theori allweddol y byd troseddeg sy’n sail i lawer o bolisïau cosbi cyfredol. 

Yn eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf byddwch: yn siapio eich cwrs gradd drwy ddewis o’n hystod unigryw o fodiwlau dewisol mewn troseddeg. Lluniwyd y modiwlau hyn i ddatblygu’r sgil o feddwl yn feirniadol, gan roi sylw manwl i achosion ymddygiad gwyrdröedig, opsiynau o ran triniaeth, a pholisi cymdeithasol sydd â’r nod o leihau’r achosion o droseddu. Byddwch hefyd yn cymhwyso sgiliau a ddysgir drwy gydol eich gradd drwy lunio eich traethawd ymchwil eich hun, yn seiliedig ar eich syniadau a’ch diddordebau personol mewn cyd-destun seicolegol. 

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn dechrau ar eich Blwyddyn mewn Diwydiant ac yn cael profiad amhrisiadwy i ategu eich blwyddyn olaf a'ch paratoi ar gyfer gyrfa ar ôl i chi raddio. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Mae eich datblygiad academaidd a deallusol wrth wraidd eich profiad Seicoleg a Throseddeg yn Aberystwyth. Mae ein staff wedi ymrwymo i ddull addysgu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, gan wneud eich anghenion dysgu yn flaenoriaeth o ran yr hyn a addysgir a sut rydym yn eich addysgu. Pan fyddwch yn ymuno â ni, bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn eich cefnogi drwy gydol eich cwrs gradd ac a fydd yno i’ch cynghori a’ch arwain ar ystod o faterion academaidd a phersonol. 

Rydym yn darparu addysgu ysbrydoledig drwy amrywiaeth eang o fformatau gwahanol, o ddarlithoedd traddodiadol i waith mewn grwpiau bach. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymhwyso’ch gwybodaeth mewn gweithdai ac ymarferion labordy, lle byddwch yn gallu manteisio ar ein hamrywiaeth eang o offer a chyfleusterau ymchwil arbenigol. 

Yn Aberystwyth gallwch fod yn hyderus y byddwch yn cael y profiad dysgu gorau mewn adran sydd ar flaen y gad yn y maes. 

Sut y caf fy asesu? 

Bydd eich datblygiad yn cael ei asesu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd gan gynnwys: arholiadau traddodiadol, traethodau, wicis, blogiau, arsylwadau a chyflwyniadau. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|