BSc

Seicoleg ac Addysg

Mae ein rhaglen gyd-anrhydedd mewn Seicoleg ac Addysg yn dod â dwy ddisgyblaeth gyffrous sy'n ategu ei gilydd ynghyd, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd y byddwch yn dysgu ar y cynllun hwn. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o ddatblygiad gwybyddol a chymdeithasol plant, a byddwch yn cael cyfle i astudio a gwerthuso sut y caiff y rhain eu cefnogi drwy bolisi ac ymarfer addysgol.

Gyda'r addysgu'n cael ei ddarparu gan arbenigwyr pwnc o'r Adran Seicoleg a'r Ysgol Addysg, ein hethos cyfunol yw creu cymuned ddysgu sy'n eich hwyluso i ddatblygu eich gwybodaeth gysyniadol a damcaniaethol ond sydd hefyd yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy sy'n canolbwyntio ar yrfa a fydd yn cefnogi eich datblygiad parhaus ar ôl graddio.

Hefyd, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwch yn sicr o gael cyfweliad ar gyfer astudio TAR Cynradd yn Aberystwyth.

Trosolwg o'r Cwrs

Yn ystod y radd hon byddwch yn datblygu dealltwriaeth fwy trylwyr o ddatblygiad gwybyddol a chymdeithasol mewn pobl, o blentyndod ymlaen. Fe gewch gyfle i astudio ac ystyried yr amgylcheddau dysgu lle mae’r datblygiad hwn yn digwydd, yn ogystal ag ymdrin â’r ffordd y mae polisi ac ymarfer addysgol yn ategu’r rhain.

Ein Staff

Mae holl staff dysgu'r Adran Seicoleg yn gwneud gwaith ymchwil ac mae gan bob un o’r staff parhaol gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf TUAAU neu maent yn gymrodyr/cymrodyr uwch o'r academi addysg uwch. Mae gan dros hanner y staff hefyd gymhwyster CPsychol, sy'n dynodi safon uchaf y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig o ran gwybodaeth ac arbenigedd mewn seicoleg.

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Gyrfaoedd

Bydd y radd Seicoleg ac Addysg o Brifysgol Aberystwyth yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd, ac yn rhoi ichi ystod eang o gyfleoedd i astudio ymhellach, yn cynnwys seicoleg glinigol, addysgol, alwedigaethol, chwaraeon ac ymarfer corff; seicotherapi a chwnsela; gwaith cymdeithasol; gofal iechyd; adnoddau dynol; gwasanaeth cyngor gyrfaol; marchnata, cyhoeddi a hysbysebu.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae ein rhaglen gyd-anrhydedd mewn Seicoleg ac Addysg yn dod â dwy ddisgyblaeth gyffrous sy'n ategu ei gilydd ynghyd, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd y byddwch yn dysgu ar y cynllun hwn. Gyda'r addysgu'n cael ei ddarparu gan arbenigwyr pwnc o'r Adran Seicoleg ac Addysg, ein hethos cyfunol yw datblygu cymuned ddysgu sy'n eich hwyluso i ddatblygu eich gwybodaeth gysyniadol a damcaniaethol ond sydd hefyd yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy sy'n canolbwyntio ar yrfa a fydd yn cefnogi eich datblygiad parhaus ar ôl graddio. 

Mae'r elfen Addysg yn cynnig dewis eang o fodiwlau opsiynol arbenigol, sy'n golygu y gallwch deilwra'ch gradd i'ch diddordebau datblygol a'ch uchelgeisiau gyrfaol ar gyfer y dyfodol. Mae traethawd hir yn y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle i chi ddatblygu prosiect rhyngddisgyblaethol sy'n tynnu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth y byddwch wedi eu datblygu ym mhob un o'ch disgyblaethau.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch:

  • yn darganfod y ddamcaniaeth a'r egwyddorion sy'n ymwneud â'r dysgwr a'r amgylchedd dysgu, ac yn gwneud lleoliad gwaith;
  • yn archwilio damcaniaethau datblygiad plant a'u heffaith ar ymarfer proffesiynol;
  • yn datblygu gwybodaeth seicolegol graidd mewn meysydd fel ymddygiad cymdeithasol ac unigol, yr ymennydd, ymddygiad a gwybyddiaeth;
  • yn defnyddio technegau a dulliau ymchwil, a ffurfiau dadansoddi a fydd yn eich galluogi i gynnal ymchwiliadau empirig.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch:

  • yn ystyried pwysigrwydd diogelu ac ymarfer proffesiynol;
  • Yn adeiladu ar wybodaeth seicolegol graidd drwy archwilio agweddau gwybyddol a chymdeithasol ymddygiad;
  • yn dechrau llunio eich cwrs gradd drwy ddewis o blith ystod o fodiwlau addysg opsiynol megis anghenion addysgol arbennig, amrywiaeth ddiwylliannol, dwyieithrwydd;
  • yn datblygu gwybodaeth uwch am ddulliau ymchwil drwy astudio dulliau meintiol ac ansoddol.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch:

  • yn ystyried rôl asesu mewn addysg;
  • yn dewis o blith amrywiaeth o fodiwlau opsiynol arbennig ym maes Addysg fel addysg wyddoniaeth, addysg fathemateg, iechyd ac addysg, hawliau plant;
  • yn ymestyn gwybodaeth seicolegol graidd drwy astudio niwrowyddoniaeth ymddygiadol, seicoleg ddatblygiadol a gwahaniaethau unigol;
  • yn ymgymryd â thraethawd ymchwil ar thema o'ch dewis.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Mae eich datblygiad academaidd a deallusol wrth wraidd eich profiad yn Aberystwyth. Mae ein staff wedi ymrwymo i ddull addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, gan wneud eich anghenion dysgu yn flaenoriaeth o ran yr hyn a addysgir a sut rydym yn eich addysgu. Pan fyddwch yn ymuno â ni, bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn eich cefnogi drwy gydol eich cwrs gradd ac fydd yno i'ch cynghori a'ch arwain ar ystod o faterion academaidd a phersonol.

Rydym yn darparu addysgu ysbrydoledig drwy amrywiaeth eang o fformatau gwahanol, o ddarlithoedd traddodiadol i waith mewn grwpiau bach. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymhwyso'ch gwybodaeth mewn gweithdai ac ymarferion labordy, lle byddwch yn gallu manteisio ar ein hamrywiaeth eang o offer a chyfleusterau ymchwil arbenigol. Bydd eich datblygiad yn cael ei asesu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd gan gynnwys: arholiadau traddodiadol, traethodau, wicis, blogiau, arsylwadau a chyflwyniadau.

Yn Aberystwyth, gallwch fod yn hyderus y byddwch yn cael y profiad dysgu gorau sydd ar flaen y gad yn eich disgyblaeth o ddewis.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rwy'n caru fy nhiwtoriaid - maen nhw'n anhygoel, yn angerddol am eu meysydd seicoleg penodol ac yn garedig iawn, iawn! Rydw i hefyd yn caru fy adran - newydd, modern a hygyrch! Rydw i'n caru sut gwnaeth y cwrs i mi feddwl yn ddyfnach, edrych ar ddamcaniaethau newydd a meddwl am syniadau newydd. Mae'r cwrs C800 hefyd yn agored iawn i bobl ddwyieithog o wledydd eraill! Maryna Chwaszczewska, yr Adran Seicoleg.

Rydw i wrth fy modd gyda fy nghwrs oherwydd mae'r pynciau rydyn ni'n eu trafod yn ddiddorol ac yn berthnasol i fyd plentyndod. Mae'r darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc, sy'n cael ei adlewyrchu hefyd yn y ffyrdd amrywiol rydyn ni'n cael ein hasesu - cawson ni gyfle i ddylunio ein gêm ein hunain hyd yn oed! Mae hyn gymaint yn fwy ymarferol a realistig wrth weithio gyda phlant yn hytrach nag arholiad sych! Ar y cyfan, mae fy hyder mewn amrywiaeth o bynciau a fy ngalluoedd fy hun wedi cael eu cryfhau, sydd bob amser yn beth da mewn unrhyw yrfa. Byddwn yn sicr yn argymell y cwrs i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant, a gallaf eich sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth dda iawn gan staff mewn unrhyw fath o sefyllfa academaidd! Caroline Korell, Ysgol Addysg.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|