Seicoleg 

BSc (Anrh) - gyda blwyddyn sylfaen integredig

Wedi’i gynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd ddigonol neu berthnasol, mae’r cwrs gyda blwyddyn sylfaen integredig yn ddewis perffaith i gael mynediad at y cyllun gradd hynod boblogaidd hwn. Bydd y flwyddyn sylfaen yn rhoi ichi sail gadarn i allu mynd ymlaen i fwynhau’r radd israddedig lawn yn eich ail flwyddyn.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd Seicoleg gyda blwyddyn sylfaen integredig wedi ei chynllunio i feithrin a llunio dealltwriaeth o’r maes, a datblygu sgiliau a fydd o gymorth ichi wrth edrych am waith ar ôl graddio neu ar gyfer mynd ymlaen i astudio ymhellach. Byddwch yn gweithio’n agos â darlithwyr sy’n defnyddio’u profiad helaeth a’u hymchwil i greu amgylchedd addysgu ysbrydoledig, ac un sy’n ddiogel ac yn gefnogol i’ch galluogi i ddatblygu ym mhob ffordd.

Mae gan yr adran gyfleusterau addysgu ac ymchwil rhagorol, yn cynnwys labordai gydag amrywiaeth o gyfarpar ac offer. Gyda’r adnoddau hyn cewch ddatblygu’ch diddordebau a defnyddio technegau creadigol i ddatrys problemau trwy gydol eich gradd.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Seicoleg (gyda blwyddyn sylfaen integredig) yn Aberystwyth:

  • amrywiaeth eang o arbenigedd ymhlith ein staff sy’n weithgar o ran ymchwil
  • cyfarpar tracio llygaid, electroenceffalogram (EEG), Biopac ac offer mesur ymddygiadol
  • ffocws ar gymhwyso seicoleg
  • gradd wedi’i hachredu’n llawn gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
  • cyfle i astudio dramor neu weithio mewn diwydiant ar leoliad yn rhan o’ch gradd
  • astudio mewn adran sydd â hanes eithriadol o ran cyflogadwyedd myfyrwyr.


Ein Staff

Mae holl staff dysgu'r Adran Seicoleg yn gwneud gwaith ymchwil ac mae gan bob un o’r staff parhaol gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf TUAAU neu maent yn gymrodyr/cymrodyr uwch o'r academi addysg uwch. Mae gan dros hanner y staff hefyd gymhwyster CPsychol, sy'n dynodi safon uchaf y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig o ran gwybodaeth ac arbenigedd mewn seicoleg.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
How to be a Student 1 GS09520 20
How to be a Student 2 GS09320 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Introduction to Social Science GS09720 20
Understanding Change - Environment, People, Places GS00820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Representing the Other: Cultures and Clashes GS09820 20
The "Othered" Migrant: Social Science Perspectives GS09620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cognitive Psychology PS21820 20
Qualitative Research Methods PS20310 10
Dulliau Ymchwil Meintiol SC21310 10
Social Psychology PS20220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Evolutionary Psychology PS21020 20
Forensic Psychology PS21220 20
Health Psychology PS20720 20
Issues in Clinical Psychology PS21720 20
Psychology in Practice PS20620 20
Seicoleg Iechyd SC20720 20
The Psychology of Language PS20420 20

Gyrfaoedd

Bydd gradd mewn Seicoleg o Brifysgol Aberystwyth yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd neu i fynd ymlaen i astudio mewn meysydd sy’n cynnwys: seicoleg glinigol, addysgol, alwedigaethol, chwaraeon ac ymarfer corff; seicotherapi a chwnsela; gwaith cymdeithasol; gofal iechyd; adnoddau dynol; gwasanaeth cyngor gyrfaol; marchnata, cyhoeddi a hysbysebu.

Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Sylfaen Sgiliau Academaidd 1 a 2/Academic Skills Foundation 1 & 2
  • Critical Thinking And Research Skills
  • Foundation - Dialogue
  • Foundation in Liberal Arts
  • Learning Experience.

Yr ail flwyddyn:

  • Applications of Psychology
  • Brain, Behaviour and Cognition
  • Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil mewn Seicoleg/Introduction to Research Methods in Psychology
  • Introduction to Core Topics in Social and Individual Behaviour
  • Personal Development and Organisational Behaviour.

Y drydedd flwyddyn:

  • Cognitive Psychology
  • Qualitative Research Methods
  • Quantitative Research Methods
  • Social Psychology.

Y flwyddyn olaf:

  • Behavioural Neuroscience
  • Developmental Psychology and Individual Differences
  • Prosiect Ymchwil Seicoleg/Psychology Research Project.

Dyma rai o’r modiwlau dewisol y gallwch eu hastudio i ddatblygu eich diddordebau arbenigol:

  • Forensic Psychology
  • Gender and the Media
  • Psychology of Humour
  • Psychology of Language.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|