BSc

Mathemateg Bur ac Ystadegaeth

Mathemateg Bur ac Ystadegaeth Cod GGC3 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd y radd Mathemateg Bur ac Ystadegaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn caniatáu i chi ddarganfod disgyblaeth ddiddorol a heriol sy'n cyfuno adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda choladu a chyfrifo data. Mae mathemateg ac ystadegaeth yn hanfodol bwysig i gymdeithas fodern, ac yn cyfrannu at nifer o agweddau ar fywyd, gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a chyllid. Mae galw mawr am raddedigion Mathemateg Bur ac Ystadegaeth ar draws llawer o ddiwydiannau, am eu sgiliau datrys problemau, eu prosesau meddwl dadansoddol clir, a'u gallu i lunio dadl resymegol.

Trosolwg o'r Cwrs

Fel myfyriwr yn Aberystwyth, byddwch yn dysgu disgyblaethau hanfodol algebra, calcwlws a dadansoddi mathemategol. Wrth i'ch diddordebau ddatblygu, gallwch ddewis dosbarthiadau pellach o blith ystod eang o bynciau o fewn mathemateg ac ystadegau. Rydym yn ceisio creu amgylchedd cyfeillgar, agored a chroesawgar, lle gall myfyrwyr gyflawni eu llawn botensial mathemategol.

Pam astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn datgelu disgyblaeth ddiddorol a heriol, sy'n cyfuno'r gwaith o adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda chasglu data a chyfrifo.
  • Mae Mathemateg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar dros 140 mlynedd o ragoriaeth addysgu, gan gyflogi darlithwyr sy'n athrawon ymroddedig ac yn ymchwilwyr a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol.
  • Bydd gradd mewn Mathemateg yn agor ystod eang o lwybrau gyrfaol i chi, ac mae'r radd hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA), sef cymdeithas broffesiynol a dysgedig gwledydd Prydain ar gyfer mathemateg, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at eich cydnabyddiaeth fel Mathemategydd Siartredig.
  • Mae'r Adran yn cynnig sawl modiwl a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Mathemategol MT10720 20
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Applied Statistics MA26620 20
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Introduction to Numerical Analysis and its applications MA25220 20
Algebra Llinol MT21410 10
Real Analysis MA20110 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Dynamics MA25710 10
Hydrodynameg 1 MT25610 10
Hydrodynamics 1 MA25610 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Comparative Statistical Inference MA36010 10
Graffiau a Rhwydweithiau MT32410 10
Graphs and Networks MA32410 10
Group Theory MA30110 10
Information Theory MA35810 10
Linear Statistical Models MA36510 10
Normau a Hafaliadau Differol MT30210 10
Norms and Differential Equations MA30210 10
Probability and Stochastic Processes MA37410 10
Spectral Theory MA38010 10
Topics in Biological Statistics MA35210 10

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Mathemateg?

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y sectorau canlynol:

  • dadansoddi ystadegol ac ystadegau cyfrifiadol
  • addysgu
  • peirianneg awyrennol
  • cyfrifo a bancio
  • dadansoddi risg a gwaith actiwaraidd
  • rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau
  • technoleg gwybodaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi yn y Brifysgol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu.

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Ar ôl i chi gwblhau'r radd hon, byddwch wedi meithrin sgiliau yn y meysydd canlynol;

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth 
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio pynciau ym meysydd:

  • algebra a chalcwlws
  • geometreg
  • hafaliadau differol
  • tebygolrwydd ac ystadegau
  • dadansoddi mathemategol.

Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn, bydd modd i chi ddewis o blith ystod o fodiwlau ar bynciau a allai gynnwys:

  • dadansoddi a hafaliadau differol rhannol
  • algebra haniaethol a llinol
  • mecaneg a modelu ystadegol 
  • dosrannu ac amcangyfrif
  • dulliau ystadegol 
  • atchweliadau a dadansoddiad amrywiant (ANOVA). 

Mae modiwlau opsiynol yn cynnwys dadansoddi rhifiadol a chymhleth, hydrodynameg, samplu, a ffiseg fathemategol.

Byddwch hefyd yn cyflawni modiwl gorfodol cynllunio gyrfa fel rhan o'ch cwrs, a fydd yn cynyddu eich rhagolygon cyflogadwyedd ac yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon drwy ddarlithoedd, tiwtorialau a dosbarthiadau ymarferol.

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Rhagor o wybodaeth:

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|