BSc

Economeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Economeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Cod 21LL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae gradd BSc Economeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig profiad gwerthfawr gyda heriau deallusol cyffrous gan ddwy adran sydd ag enw da am eu haddysg a’u hymchwil. Trwy gyfuno Economeg â Chysylltiadau Rhyngwladol cewch ddatblygu dealltwriaeth gadarn am farchnadoedd byd-eang a systemau gwleidyddol. Byddwch yn archwilio llawer o faterion sy'n berthnasol i'r byd sydd ohoni heddiw a'r heriau y mae angen ymdrin â hwy.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Economeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Cewch eich dysgu gan ymchwilwyr blaenllaw’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Ysgol Fusnes yn Aberystwyth.
  • Prifysgol Aberystwyth oedd y brifysgol gyntaf yn y byd i sefydlu adran Gwleidyddiaeth. Fe’i sefydlwyd ym 1919 ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf i helpu'r byd i ddeall y byd.
  •  Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn ymwneud â sut rydyn ni'n mynd ati i ymdrin â heriau byd-eang. Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn sefyll wrth groesfan hanesyddol hynod ddiddorol ond anodd, sefyllfa y mae angen i ni i gyd ei deall, ei hegluro ac - fel bodau gwleidyddol - chwarae ein rhan ni yn ei dyfodol. Wrth i’r 'Gorllewin' ddirywio i sefyllfa gymharol wannach, mae grymoedd a gweithredwyr newydd wedi codi, ac wrth i natur y problemau lleol, cenedlaethol, rhanbarthol, rhyngwladol a byd-eang fynd yn fwyfwy cymhleth a chydgysylltiedig, mae oes newydd yn dechrau ym myd gwleidyddiaeth.
  • Mae’r elfen o’r radd hon sy’n ymwneud â Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig cyfle i astudio'r cysyniadau, yr arferion, y polisïau, yr hanesion a’r rhanbarthau sy'n rhoi ffurf i wleidyddiaeth fel disgyblaeth, ac i archwilio sut mae'r holl ffactorau hyn yn cael eu gweddnewid yn helaeth yn yr unfed ganrif ar hugain.
  • Yn yr agweddau ar y radd sy’n canolbwyntio ar Economeg, byddwch yn astudio sut mae unigolion, cwmnïau, marchnadoedd, llywodraethau a sefydliadau eraill yn cyfuno i gynhyrchu a dosbarthu nwyddau a gwasanaethau er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir i’r gymdeithas, a pha mor effeithiol ydynt yn hynny o beth. Mae’r ffordd o gymhwyso damcaniaeth economaidd hefyd wedi esblygu i ystyried materion cyfoes megis: y ffactorau a achosodd yr argyfwng ariannol, ei effeithiau, a'r atebion sydd wedi’u cynnig i’w ddatrys; effeithiau masnach, globaleiddio, anonestrwydd, a newid yn yr hinsawdd ar ddatblygu economaidd.
  • Fe ddatblygwch sgiliau gwerthfawr o ran dadansoddi, rhifau, dadansoddi data a datrys problemau, a fydd yn eich galluogi i ddeall sut mae pobl, busnesau, sefydliadau a llywodraethau yn gwneud penderfyniadau, ac effeithiau penderfyniadau o'r fath ar unigolion a’r gymdeithas.
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau GW20120 20
Macroeconomics: Theory and Policy Applications AB23220 20
Microeconomics Theory and Policy Applications AB23120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
EU Simulation IP24020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ22920 20
From Mincemeat to Cyberwars: A Global Perspective on Covert Operations since 1945 IQ20520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
International Politics and Global Development IP29220 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Justice, Order, Human Rights IQ21720 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ24420 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP23320 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Past and Present of US Intelligence IP26020 20
The Second World War in Europe IP26420 20
The Strategy and Politics of Nuclear Weapons IP20420 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
War Crimes IQ25720 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Women and Global Development IP29620 20
Women and Military Service IP21620 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20
Econometrics AB23420 20
Managerial Economics AB23320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Issues in Economics and Policy AB33120 20
Growth, Development and Sustainability AB33420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Environmental Economics AB33220 20
History of Economic Thought AB33320 20
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP38320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP38820 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti GW39920 20
Climate Change Politics IP31420 20
Contemporary Latin America IP38720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW35820 20
Datganoli a Chymru GW35020 20
Devolution and Wales IP35020 20
Dissertation IP30040 40
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40
EU Simulation IP34020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ34320 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ32920 20
From Mincemeat to Cyberwars: A Global Perspective on Covert Operations since 1945 IQ30520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ33720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ33820 20
Intervention and Humanitarianism IQ30220 20
Justice, Order, Human Rights IQ31720 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ34420 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP30820 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP33320 20
Nationalism in Theory and Practice IP39920 20
Political Theory IP32220 20
Politics in Diverse Societies IQ33720 20
Questions of International Politics IP36820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ34920 20
Science, Technology, and International Relations IP33020 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP34520 20
The Arab-Israeli Wars IP31320 20
The BRICS in World Politics IQ30320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP33820 20
The Past and Present of US Intelligence IP36020 20
The Second World War in Europe IP36420 20
The Strategy and Politics of Nuclear Weapons IP30420 20
Total War, Total Peace IQ33420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ31620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ33820 20
War Crimes IQ35720 20
Women and Global Development IP39620 20
Women and Military Service IP31620 20
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920 20

Gyrfaoedd

Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ill dwy yn cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr i feithrin cyswllt â chyflogwyr ac ymgymryd â phrofiad gwaith perthnasol, â thâl neu’n ddi-dâl, yn ystod y cwrs.

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd yn cynnal y rhaglenni canlynol ar gyfer pob myfyriwr:

  1. Cynllun Lleoliadau Gwaith Seneddol - sy'n golygu y cewch brofiad gwerthfawr o weithio ochr yn ochr ag Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod o’r Senedd (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod yr amser hwnnw fe fyddwch yn ysgrifennu adroddiadau ac areithiau, yn gwneud prosiectau ymchwil ac yn ymateb i faterion sy'n codi yn yr etholaeth. Efallai y bydd cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan mewn etholiadau ac amryw faterion rhyngwladol.
  2. Interstate - sef y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf ym Mhrydain i gael ei redeg gan fyfyrwyr, sy'n rhoi cyfle unigryw i chi i gyhoeddi'ch gwaith (sydd yn enwedig o fanteisiol os hoffech fynd ymlaen i astudiaethau uwchraddedig) neu i gael profiad gwerthfawr o weithio’n rhan o'r tîm golygyddol. Mae cymdeithasau myfyrwyr yn cynnig ysbrydoliaeth ac yn meithrin ymdeimlad cymunedol cryf yn yr adran, gyda rhaglenni o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ynghyd â llawer o weithgareddau cymdeithasol megis y ddawns flynyddol.

Ar ôl cwblhau'r radd Economeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, byddwch wedi meithrin y sgiliau canlynol:

  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadau; 
  • Gwell sgiliau rhifedd a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol;
  • Dealltwriaeth ddofn o’r hyn sy’n achosi newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill, ac o’u heffeithiau;
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • Datrys problemau’n effeithiol;
  • Sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol;
  • Gwneud penderfyniadau;
  • Gallu gweithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm; 
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu;
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun.

Dysgu ac Addysgu

Yn eich blwyddyn gyntaf, efallai y byddwch yn dysgu am:

  • egwyddorion economaidd
  • mathemateg ac ystadegaeth economaidd
  • damcaniaeth wleidyddol a syniadau gwleidyddol allweddol
  • y gwahanol fethodolegau ar gyfer dadansoddi materion amserol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a domestig
  • amrywiaeth o wahanol safbwyntiau a ymagweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol
  • problemau gwleidyddol cyfoes a sut maent yn cael eu portreadu
  • y materion allweddol sy'n wynebu'r Byd Cymdeithasol
  • sut mae cysylltiadau rhyngwladol wedi datblygu a thyfu yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Fe ddewiswch hefyd o ddetholiad o fodiwlau dewisol (gan gynnwys ystadegaeth ar gyfer economegwyr, rheoli cyllid a chyflwyniad i reolaeth).

Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, efallai y byddwch yn edrych ar:

  • goblygiadau damcaniaeth economaidd o ran polisi
  • dehongli economaidd
  • cyflwyniad i econometreg
  • ymddygiad a systemau macro-economaidd;
  • economeg datblygu
  • damcaniaethau gwleidyddol
  • amrywiaeth o wleidyddiaeth genedlaethol a rhanbarthol, megis Gwleidyddiaeth Prydain, Gwleidyddiaeth yn Rwsia, yr UE
  • materion fel cenedlaetholdeb, datganoli, anghydraddoldeb byd-eang, amlddiwylliannaeth
  • traethawd hir i ddangos eich gwybodaeth annibynnol yn eich maes pwnc dewisol (gorfodol mewn rhai modiwlau).
  • dealltwriaeth greiddiol am ficro-economeg a macro-economeg
  • buddsoddiadau ac Offerynnau Ariannol
  • treth
  • datblygiad Economeg
  • Economeg llafur a chysylltiadau diwydiannol
  • polisi masnach a masnach ryngwladol.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

  • Byddwch yn cael eich dysgu drwy ddarlithoedd, seminarau a sesiynau tiwtora mewn grwpiau bach. Ar rai modiwlau bydd gofyn i chi roi cyflwyniadau, gweithio'n effeithiol yn rhan o grŵp a gwneud unrhyw draethodau sy'n ofynnol.
  • Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae ein holl fodiwlau yn cael eu rhoi ar-lein fel y gallwch eu hastudio ymhellach yng nghysur eich ystafell eich hun. Mae gennym hefyd gyfoeth o destunau printiedig sydd ar gael yn ein llyfrgell a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae'r cwrs yn cael ei asesu trwy:

  • ⁠Arholiadau;
  • Traethodau wedi'u hasesu;
  • Prosiectau;
  • Cyflwyniadau;
  • Traethawd Hir (rhai modiwlau).

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi ar gyfer eich holl gyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|