Ffrangeg / Cysylltiadau Rhyngwladol
BA Ffrangeg / Cysylltiadau Rhyngwladol Cod 1FRL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio – 0800 121 40 80
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
1FRL-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
49%
Ar gael ar gyfer
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrHeddiw, mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn ymwneud â deall a mynd i'r afael â heriau byd-eang. Yn fyfyriwr ar y cynllun gradd Ffrangeg / Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch mewn sefyllfa berffaith i ddod i ddeall yn drylwyr yr heriau hynny a sut mae cyfleoedd a rhwystrau yn siapio'r ffordd yr ydym yn eu rheoli. Bydd cydran Ffrangeg y cwrs hwn yn eich galluogi i ddarganfod iaith, diwylliant, llenyddiaeth a chelf ac ar yr un pryd yn datblygu eich cymwyseddau ieithyddol yn y Ffrangeg. Mae'r cynllun gradd hwn yn cynnig cyfuniad delfrydol o hyfforddiant iaith dwys ac ar yr un pryd yn archwilio cwestiynau a chysyniadau mawr ein hamser - megis grym, gwrthdaro, democratiaeth, diogelwch, anghydraddoldeb, moeseg, hawliau, cyfiawnder, rhywedd, datblygiad a chyfranogiad gwleidyddol.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Tystiolaeth Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|