BA

Almaeneg / Cysylltiadau Rhyngwladol

BA Almaeneg / Cysylltiadau Rhyngwladol Cod 22LR Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Heddiw, mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn ymwneud â deall a mynd i'r afael â heriau byd-eang. Yn fyfyriwr ar y cynllun gradd Almaeneg / Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch mewn sefyllfa berffaith i ddod i ddeall yn drylwyr yr heriau hynny a sut mae cyfleoedd a rhwystrau yn siapio'r ffordd yr ydym yn eu rheoli. Bydd cydran Almaeneg y cwrs hwn yn eich galluogi i ddarganfod iaith, diwylliant, llenyddiaeth a chelf ac ar yr un pryd yn datblygu eich cymwyseddau ieithyddol yn yr Almaeneg. Mae'r cynllun gradd hwn yn cynnig cyfuniad delfrydol o hyfforddiant iaith dwys ac ar yr un pryd yn archwilio cwestiynau a chysyniadau mawr ein hamser - megis grym, gwrthdaro, democratiaeth, diogelwch, anghydraddoldeb, moeseg, hawliau, cyfiawnder, rhywedd, datblygiad a chyfranogiad gwleidyddol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Almaeneg / Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae ystod eang o arbenigedd ar gael yn ein Hadran Ieithoedd Modern, ac mae hyn i'w weld yn y dewis o fodiwlau rydym yn eu cynnig. Gallai myfyrwyr ddewis modiwlau ar ieithyddiaeth (modern a hanesyddol); dialecteg (astudiaeth o wahanol ffurfiau ar Almaeneg, o'r gorffennol a'r presennol); llenyddiaeth; llenyddiaeth a materion cyfoes.
  • Bydd pob myfyriwr ar y cwrs hwn yn treulio eu trydedd flwyddyn yn byw'n annibynnol mewn gwlad lle siaredir Almaeneg. Gallech ddewis astudio mewn Prifysgol, gweithio fel cynorthwyydd iaith, neu ffurfiau eraill ar leoliadau gwaith.
  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig cyfle i chi archwilio modiwlau sy'n cynnwys Heriau Byd-eang, Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain, Rhyfel, Strategaeth a Chudd-wybodaeth, Cyfalafiaeth, Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol i enwi dim ond rhai.
  • Yn fyfyriwr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, byddwch yn astudio yn adran gwleidyddiaeth ryngwladol gyntaf y byd, a sefydlwyd ar ôl y Rhyfel Mawr i helpu'r byd i ddeall y byd.
  • Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyflwyniad cynhwysfawr i astudiaethau Almaeneg a sgiliau ymchwil cysylltiedig.
  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig llawer o gyfleoedd i wneud gweithgareddau allgyrsiol yn ystod cyfnod y cwrs. Uchafbwynt y cwrs i lawer o fyfyrwyr yw'r 'Gemau Argyfwng' enwog, sef tridiau o ymarferiad chwarae rôl lle mae gofyn cynnal trafodaethau gwleidyddol, economaidd a diplomyddol sy'n datblygu sgiliau trafod a chyfathrebu, meddwl yn feirniadol, gweithio mewn tîm, a datrys problemau.
  • Mae'r radd hon ar gael i ddechreuwyr a myfyrwyr lefel uwch. Bydd dechreuwyr yn cyflawni cwrs dwys yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Gyrfaoedd

Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd Almaeneg / Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu. Rydym yn addysgu ein myfyrwyr i anelu am yr yrfa maen nhw'n dymuno ei chael, ac nid y swydd y gallan nhw ei chael.

  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gweithredu cynllun Lleoliadau Seneddol clodfawr, sy'n eich galluogi i gael profiad gwaith gwerthfawr gydag Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) neu Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn llunio adroddiadau ac areithiau, yn cyflawni prosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion yn yr etholaeth. Mae'n bosib y bydd cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan mewn etholiadau a materion rhyngwladol amrywiol.
  • Mae'r Adran hefyd yn gartref i Interstate, sef y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr yng ngwledydd Prydain, sy'n cynnig cyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith (yn arbennig o fanteisiol os ydych yn dymuno symud ymlaen i astudiaeth uwchraddedig) neu ennill profiad gwerthfawr wrth weithio fel rhan o'r tîm golygyddol. Mae cymdeithasau myfyrwyr cyffrous yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran, gan gynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ochr yn ochr â gweithgareddau cymdeithasol niferus fel y ddawns flynyddol.

Pa gyfleoedd am brofiad gwaith fydd ar gael i mi wrth astudio?

Ewch i dudalen ein Gwasanaeth Gyrfaoedd i ganfod beth sydd ar gael.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd hwn.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyfle i archwilio:

  • ystod o safbwyntiau ac ymagweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol
  • datblygiad a hynt cysylltiadau rhyngwladol yn ystod yr ugeinfed ganrif
  • methodolegau amrywiol ar gyfer dadansoddi materion amserol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a domestig
  • damcaniaeth wleidyddol a materion gwleidyddol allweddol
  • yr ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau Almaeneg, a chyflwyno eich ymchwil annibynnol cyntaf
  • digwyddiadau sefydlol diwylliant Almaeneg
  • yr iaith Almaeneg drwy ffilm, iaith a hunaniaeth
  • problemau gwleidyddol cyfoes a sut y cânt eu portreadu
  • materion allweddol ym meysydd Rhyfel, Strategaeth a Chudd-wybodaeth.

Yn ystod yr ail a'r bedwaredd flwyddyn, cewch gyfle i:

  • astudio damcaniaethau, ymagweddau a safbwyntiau ym maes cysylltiadau rhyngwladol
  • archwilio ystod o heriau sy'n wynebu'r system ryngwladol, fel globaleiddio, diogelwch rhyngwladol, yr amgylchedd, anghydraddoldeb, iechyd y byd, gwrthdaro ac amgylcheddau ar ôl gwrthdaro
  • datblygu eich cymwyseddau iaith ymhellach ar ôl i chi dreulio blwyddyn yn Yr Almaen
  • dewis o blith ystod o fodiwlau yn amrywio o Lenyddiaeth, Ffilm, Diwylliant, Busnes
  • creu penllanw eich blynyddoedd israddedig, sef eich Traethawd Hir, yn seiliedig ar waith ymchwil gwreiddiol helaeth, wedi'i ysgrifennu yn Almaeneg
  • astudio amrywiaeth o systemau gwleidyddol rhanbarthol a gwladol, gan gynnwys y systemau yn America Ladin, Rwsia, Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd, gwledydd BRIC, y Dwyrain Canol, a'r Deyrnas Unedig
  • astudio hanes rhyngwladol yr ugeinfed ganrif a'r Rhyfel Oer.

Almaeneg - Yn ystod eich pedair blynedd, byddwch yn treulio pedair awr yr wythnos yn datblygu sgiliau iaith, gan gynnwys gwaith siarad, gwrando, ysgrifennu a chyfieithu. Yn eich trydedd blwyddyn, byddwch yn mynd ar eich Blwyddyn Dramor i astudio neu wneud profiad gwaith.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon ar ffurf darlithoedd a seminarau.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfr, logiau dysgu a chyflwyniadau.

Byddwn yn eich annog i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng, sef digwyddiad preswyl blynyddol i ffwrdd o Aberystwyth. Mae themâu'r Gemau Argyfwng yn ddiweddar wedi canolbwyntio ar argyfyngau dyngarol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, uchelgais niwclear Iran, etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, a thrychineb amgylcheddol yn yr Arctig. Bydd y Gemau Argyfwng yn caniatáu i chi ddysgu am agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu haddysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig y cyfyngiadau mae arweinwyr gwleidyddol yn eu hwynebu wrth ymateb i argyfyngau amrywiol. Yn ddi-os, dyma uchafbwynt y flwyddyn.

Tiwtor Personol

Byddwn yn dynodi tiwtor personol i chi a fydd gyda chi drwy gydol eich gradd. Bydd yn eich helpu gydag unrhyw broblemau, boed yn faterion academaidd neu bersonol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BBC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|