BA

Cysylltiadau Rhyngwladol / Hanes

BA Cysylltiadau Rhyngwladol / Hanes Cod 1FVL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae ein cynllun gradd Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Hanes yn gyfuniad perffaith os ydych chi'n awyddus i ddeall esblygiad y byd gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd rydym yn byw ynddo heddiw. Mae'n cyfuno arbenigedd dwy adran, sef ein hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'n hadran Hanes a Hanes Cymru, a gallwch ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau a meysydd astudio. 

Ar y modiwlau Cysylltiadau Rhyngwladol, byddwch yn ystyried cwestiynau allweddol megis: sut yr esblygodd y strwythurau gwleidyddol rhyngwladol sy'n ein llywodraethu a pham eu bod wedi datblygu fel y gwnaethant; sut mae cysylltiadau rhwng gwladwriaethau, cymdeithasau, a phobloedd wedi newid dros amser; a beth oedd y ffactorau canolog a lywiodd y datblygiadau hynny. Ar y modiwlau hanes, byddwch yn astudio hanes o’r oesoedd canol hyd at y cyfnod cyfoes, ac ystod eang o themâu megis pŵer, trais, mudo, rhywedd a syniadau. 

Drwy ddewis astudio’r radd hon, byddwch hefyd yn dysgu am esblygiad syniadau a chysyniadau allweddol ym meysydd gwleidyddiaeth, hanes, cysylltiadau rhyngwladol a hanesyddiaeth. Yn hollbwysig, byddwch yn rhan o gymuned addysgol ac ymchwil egnïol a bywiog mewn Adrannau sy'n adnabyddus am eu rhagoriaeth mewn addysgu ac agendâu ymchwil arloesol. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cysylltiadau Rhyngwladol / Hanes yn Aberystwyth? 

  • Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, cewch eich arwain a'ch mentora gan ddarlithwyr brwdfrydig mewn dwy adran sydd wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu rhagorol a deinamig i chi. 
  • Ein hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw’r adran gyntaf o’i bath yn y byd, a sefydlwyd ym 1919 ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf i helpu’r byd i ddeall y byd. 
  • Ein hadran Hanes a Hanes Cymru yw'r adran hanes fwyaf sefydledig yng Nghymru ac un o'r rhai mwyaf blaenllaw ym Mhrydain. Mae'r Adran wedi ymrwymo i addysgu mewn grwpiau bach a rhoi cymorth un-wrth-un. 
  • Mae gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gynllun uchel ei barch, Cynllun Lleoliadau Seneddol, sy'n golygu y gallwch gael profiad gwaith gwerthfawr yn gweithio gydag Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod o’r Senedd (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnodau rhwng 4 a 6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod yr amser hwnnw byddwch yn ysgrifennu adroddiadau ac areithiau, yn gwneud prosiectau ymchwil ac yn ymateb i faterion sy'n codi yn yr etholaeth. Efallai y bydd cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan mewn etholiadau ac amryw faterion rhyngwladol. 
  • Mae hefyd yn gartref i Interstate, sef y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf ym Mhrydain i gael ei redeg gan fyfyrwyr, sy'n rhoi cyfle unigryw i chi gyhoeddi'ch gwaith (sydd yn enwedig o fanteisiol os hoffech fynd ymlaen i astudiaethau uwchraddedig) neu i gael profiad gwerthfawr o weithio’n rhan o'r tîm golygyddol. Mae cymdeithasau myfyrwyr yn cynnig ysbrydoliaeth ac yn meithrin ymdeimlad cymunedol cryf yn yr adran, gyda rhaglenni o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ynghyd â llawer o weithgareddau cymdeithasol megis y ddawns flynyddol. 
  • Mae gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru Bwyllgor Ymgynghori Staff a Myfyrwyr sy’n cynrychioli’ch buddiannau chi, ac mae hefyd Cymdeithas Hanes fywiog sy'n trefnu darlithoedd gwadd, ymweliadau â lleoedd diddorol, a digwyddiadau cymdeithasol. 
  • Mae'r Adran hefyd yn cynnal cynhadledd staff a myfyrwyr flynyddol yng Ngregynog - plasty gwledig hardd sy’n lleoliad addysgol hanesyddol yng Nghanolbarth Cymru. 
  • Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg yr enwog 'Gemau Argyfwng' - ymarferion chwarae rôl dros dri diwrnod sy'n ymdrin ag ymarferion gwleidyddol, economaidd a diplomyddol a fydd yn datlygu'ch sgiliau trafodaeth a chyfathrebu, meddwl yn feirniadol, gweithio'n rhan o dîm, a datrys problemau. 
  • Fel myfyriwr yn ein hadran Hanes a Hanes Cymru, bydd gennych fynediad at rai o lyfrgelloedd a sefydliadau treftadaeth mwyaf blaenllaw'r wlad, megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru - un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y DU - sydd ychydig islaw campws y brifysgol, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac Archifau Ceredigion. Mae'r sefydliadau hyn yn darparu adnoddau ardderchog i fyfyrwyr hanes.


Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
Llunio Hanes HA20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
EU Simulation IP24020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ22920 20
From Mincemeat to Cyberwars: A Global Perspective on Covert Operations since 1945 IQ20520 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
International Politics and Global Development IP29220 20
Justice, Order, Human Rights IQ21720 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ24420 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP23320 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Past and Present of US Intelligence IP26020 20
The Strategy and Politics of Nuclear Weapons IP20420 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Women and Global Development IP29620 20
Women and Military Service IP21620 20
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Culture, Society and the Victorians HY29320 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA29320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY29120 20
Famine in Medieval England HY25520 20
From the Second Empire to the Third Reich: Weimar Germany 1914-1933 HY28420 20
Kingship and political culture in high medieval England and Norway, 1066-1263 HY22120 20
Modern Japan: From Samurai to Salary Men HY29820 20
Reforging the Union: The Reconstruction Era in US History, 1863-1896 HY27720 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
The European Reformation HY26520 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Image Wars in Southeast Asia: Studying 20th Century Propaganda HY23720 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
The Sound of History: the Civil Rights Movement in Post-War America HY24720 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP38820 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti GW39920 20
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA31820 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW35820 20
Cymru a'r Tuduriaid HC33520 20
Dissertation IP30040 40
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA39320 20
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40
EU Simulation IP34020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ34320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY39120 20
Famine in Medieval England HY35520 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ32920 20
From Mincemeat to Cyberwars: A Global Perspective on Covert Operations since 1945 IQ30520 20
From the Second Empire to the Third Reich: Weimar Germany 1914-1933 HY38420 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ33820 20
Justice, Order, Human Rights IQ31720 20
Kingship and political culture in high medieval England and Norway, 1066-1263 HY32120 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ34420 20
Modern Japan: From Samurai to Salary Men HY39820 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP33320 20
Nationalism in Theory and Practice IP39920 20
Reforging the Union: The Reconstruction Era in US History, 1863-1896 HY37720 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
The Arab-Israeli Wars IP31320 20
The European Reformation HY36520 20
The Past and Present of US Intelligence IP36020 20
The Strategy and Politics of Nuclear Weapons IP30420 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ33820 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Wales under the Tudors WH33520 20
Women and Global Development IP39620 20
Women and Military Service IP31620 20

Gyrfaoedd

Beth mae ein graddedigion yn ei wneud nawr? 

Mae graddedigion o'r ddwy adran sy'n cynnig y cwrs gradd hwn yn dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol: 

  • addysg 
  • ymchwil ac ysgolheictod academaidd 
  • curadu a rheoli archifau 
  • ⁠y gyfraith 
  • cyhoeddi 
  • gwleidyddiaeth genedlaethol, ranbarthol a lleol 
  • y Gwasanaeth Sifil 
  • yr Heddlu 
  • y Lluoedd Arfog 
  • y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol 
  • busnes ac entrepreneuriaeth 
  • gwasanaethau diogelwch 
  • adrannau ymchwil y llywodraeth 
  • materion cyhoeddus 
  • ymchwil cymdeithasol 

Pa gyfleoedd fydd ar gael i mi tra byddaf yn astudio? 

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ar draws ein dysgu. Byddwn yn eich dysgu i anelu am yr yrfa rydych yn ei dymuno, ac nid y swydd y gallech ei gael. 

  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg Cynllun Lleoliad Gwaith Seneddol uchel ei barch, sy'n gyfle ichi ennill profiad hynod werthfawr ochr yn ochr ag Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y lleoliad gwaith hwn, byddwch yn ysgrifennu adroddiadau ac areithiau, yn ymgymryd â phrosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion etholaethol. Mae’n bosib y bydd cyfleoedd pellach i gymryd rhan mewn etholiadau a rhai materion rhyngwladol. 
  • Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd yn gartref i Interstate – y cyfnodolyn myfyrwyr gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf yn y DU, a chyfle unigryw i gyhoeddi eich gwaith (sy’n fuddiol iawn os ydych chi’n dymuno symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig) neu i ennill profiad gwerthfawr yn gweithio fel rhan o’r tîm golygu. Yn ogystal, mae’r cymdeithasau ysgogol i fyfyrwyr yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned o fewn yr adran, gan gynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ynghyd â gweithgareddau cymdeithasol megis y ddawns flynyddol. 

Pa sgiliau bydda i'n eu meithrin wrth astudio Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Bydd astudio am y radd Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Hanes yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir gan gyflogwyr ichi. Ymhlith rhain mae:

  • y gallu i fynegi syniadau ac i gyfathrebu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • datrys problemau'n effeithiol a sgiliau meddwl yn greadigol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth
  • gweithio mewn tîm, gyda'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan wrando ar syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio?

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyflwyniad i’r canlynol: 

  • ystod o sgiliau, technegau ac ymarferion ymarferol gyda'r bwriad o ymdrin ag elfennau sylfaenol ymarfer haneswyr 
  • y deunyddiau y mae haneswyr wedi'u defnyddio i ddeall y gorffennol 
  • ffynonellau gwreiddiol a sut i ymwneud yn feirniadol â nhw  
  • sut mae cysylltiadau rhyngwladol wedi datblygu a thyfu yn ystod yr ugeinfed ganrif 
  • dulliau canolog o astudio cysylltiadau rhyngwladol 
  • y gwahanol fethodolegau wrth ddadansoddi materion cyfoes yng ngwleidyddiaeth y byd 
  • rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth. 

Yn eich ail a’ch trydedd flwyddyn byddwch yn astudio: 

  • damcaniaethau a chysyniadau gwleidyddol 
  • cudd-wybodaeth a diogelwch 
  • y Rhyfel Oer a hanes yr ugeinfed ganrif 
  • hanes Ewrop 
  • hanes milwrol ers 1800 
  • rhyfela'r 20fed a'r 21ain ganrif 
  • hanes Cymru 
  • gwrthdaro ac ailadeiladu ar ôl gwrthdaro 
  • hanes Asia 
  • hanes a gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol 
  • datblygiadau gwleidyddol a hanesyddol allweddol yn yr Unol Daleithiau a Rwsia. 

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu? 

Ar y cwrs hwn byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. 

Sut fydda i’n cael fy asesu? 

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfrau, logiau dysgu a chyflwyniadau. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi I chi am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu’ch helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. 

Rydym yn eich annog i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng sy'n weithgaredd preswyl a gynhelir i ffwrdd o Aberystwyth. Yn y blynyddoedd diweddar, mae'r Gemau Argyfwng wedi trafod argyfyngau dyngarol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, etholiad arlywyddol UDA, a'r rhyfel rhwng Rwsia a Georgia. Bydd y Gemau Argyfwng yn eich galluogi i ddysgu am agweddau ar gysylltiadau rhyngwladol na ellir eu dysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig felly'r cyfyngiadau y mae arweinyddion gwleidyddol yn eu hwynebu wrth ymateb i wahanol argyfyngau. Hwn yw uchafbwynt y flwyddyn, heb os. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rwyf wrth fy modd gyda'r cwrs Gwleidyddiaeth Ryngwladol gan ei fod yn bwnc sy'n denu amrywiaeth eang o bobl o'r DU a thramor. Golyga hyn bod cyfle i gwrdd ag amrywiaeth fawr o bobl a safbwyntiau. Mae'r seminarau'n galluogi trafodaethau a dysgu gwych, ac mae'r darlithoedd a'r darlithwyr yn ddiddorol iawn. Roxy Taylor

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi rhoi'r cyfle i mi ddeall y byd o'r newydd, a hynny drwy gyfrwng modiwlau ar faterion sydd ymghlwm wrth gysyniadau globaleiddio a sut mae'r rhain yn effeithio ar fywydau menywod yn y Trydydd Byd. Gydag arbenigwyr mewn nifer o feysydd, mae'n wych ein bod yn gallu mynd i weld ein tiwtoriaid ar unrhyw adeg. Mae'r tair blynedd yma yn Aberystwyth wedi bod yn addysgiadol yn ogystal ag yn bleser, a byddwn yn argymell i unrhyw un i ddod i astudio yma. Hannah Mitchell

Darlithwyr gwych, adeilad gwych, pobl gwych ar y cwrs! Matthew David Bold

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|