BA

Cysylltiadau Rhyngwladol / Sbaeneg

BA Cysylltiadau Rhyngwladol / Sbaeneg Cod 4FRL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Heddiw, mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn ymwneud â deall a mynd i'r afael â heriau byd-eang. Yn fyfyriwr ar y cynllun gradd Cysylltiadau Rhyngwladol / Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch mewn sefyllfa berffaith i ddod i ddeall yn drylwyr yr heriau hynny a sut mae cyfleoedd a rhwystrau yn siapio'r ffordd yr ydym yn eu rheoli. Bydd cydran Sbaeneg y cwrs hwn yn eich galluogi i ddarganfod iaith, diwylliant, llenyddiaeth a chelf ac ar yr un pryd yn datblygu eich cymwyseddau ieithyddol yn y Sbaeneg. Mae'r cynllun gradd hwn yn cynnig cyfuniad delfrydol o hyfforddiant iaith dwys ac ar yr un pryd yn archwilio cwestiynau a chysyniadau mawr ein hamser - megis grym, gwrthdaro, democratiaeth, diogelwch, anghydraddoldeb, moeseg, hawliau, cyfiawnder, rhywedd, datblygiad a chyfranogiad gwleidyddol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cysylltiadau Rhyngwladol / Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae ystod eang o arbenigedd ar gael yn ein Hadran Ieithoedd Modern, ac mae hyn i'w weld yn y dewis o fodiwlau rydym yn eu cynnig. Gallai myfyrwyr ddewis modiwlau ar ieithyddiaeth (modern a hanesyddol); Diwylliant, Ffilm a Llenyddiaeth Ewropeaidd; Ieithyddiaeth Ewropeaidd; Iaith Busnes a Materion Cyfoes.
  • Bydd pob myfyriwr ar y cwrs hwn yn treulio eu trydedd flwyddyn yn byw'n annibynnol mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg. Gallech ddewis astudio yn y Brifysgol, gweithio fel cynorthwyydd iaith, neu ffurfiau eraill ar leoliadau gwaith.
  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig cyfle i chi archwilio modiwlau sy'n cynnwys Heriau Byd-eang, Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain, Rhyfel, Strategaeth a Chudd-wybodaeth, Cyfalafiaeth, Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol i enwi dim ond rhai.
  • Yn fyfyriwr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, byddwch yn astudio yn adran gwleidyddiaeth ryngwladol gyntaf y byd, a sefydlwyd ar ôl y Rhyfel Mawr i helpu'r byd i ddeall y byd.
  • Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyflwyniad cynhwysfawr i astudiaethau Sbaeneg a sgiliau ymchwil perthnasol ar ffurf tiwtorialau.
  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig llawer o gyfleoedd allgyrsiol yn ystod cyfnod y cwrs. Uchafbwynt y cwrs i lawer o fyfyrwyr yw'r 'Gemau Argyfwng' enwog, sef tridiau o ymarferiad chwarae rôl lle mae gofyn cynnal trafodaethau gwleidyddol, economaidd a diplomyddol sy'n datblygu sgiliau trafod a chyfathrebu, meddwl yn feirniadol, gweithio mewn tîm, a datrys problemau.
  • Mae'r radd hon ar gael i ddechreuwyr a myfyrwyr lefel uwch. Bydd dechreuwyr yn cyflawni cwrs dwys yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd Cysylltiadau Rhyngwladol / Sbaeneg yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd am brofiad gwaith sydd ar gael i mi wrth astudio yn y Brifysgol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu. Rydym yn addysgu ein myfyrwyr i anelu am yr yrfa maen nhw'n dymuno ei chael, ac nid y swydd y gallan nhw ei chael.

  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gweithredu cynllun Lleoliadau Seneddol clodfawr, sy'n eich galluogi i gael profiad gwaith gwerthfawr gydag Aelod o Senedd Cymru (Caerdydd) neu Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn llunio adroddiadau ac areithiau, yn cyflawni prosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion yn yr etholaeth. Mae'n bosib y bydd cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan mewn etholiadau a materion rhyngwladol amrywiol.
  • Mae'r Adran hefyd yn gartref i Interstate, sef y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr yng ngwledydd Prydain, sy'n cynnig cyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith (yn arbennig o fanteisiol os ydych yn dymuno symud ymlaen i astudiaeth uwchraddedig) neu ennill profiad gwerthfawr wrth weithio fel rhan o'r tîm golygyddol. Mae cymdeithasau myfyrwyr cyffrous yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran, gan gynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ochr yn ochr â gweithgareddau cymdeithasol niferus fel y ddawns flynyddol.

Pa gyfleoedd am brofiad gwaith fydd ar gael i mi wrth astudio?

Ewch i dudalen ein Gwasanaeth Gyrfaoedd

i ganfod beth sydd ar gael.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu

rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyfle i archwilio:

  • ystod o safbwyntiau ac ymagweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol
  • datblygiad a hynt cysylltiadau rhyngwladol yn ystod yr ugeinfed ganrif
  • methodolegau amrywiol ar gyfer dadansoddi materion amserol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a domestig
  • damcaniaeth wleidyddol a materion gwleidyddol allweddol
  • yr ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau Sbaeneg, a chyflwyno eich ymchwil annibynnol cyntaf
  • gwareiddiad Sbaenaidd
  • darganfod yr iaith drwy ffilm, iaith a hunaniaeth
  • problemau gwleidyddol cyfoes a sut y cânt eu portreadu
  • materion allweddol ym meysydd Rhyfel, Strategaeth a Chudd-wybodaeth.

Yn ystod yr ail a'r bedwaredd flwyddyn, cewch gyfle i archwilio:

  • damcaniaethau, ymagweddau a safbwyntiau ym maes cysylltiadau rhyngwladol
  • ystod o heriau sy'n wynebu'r system ryngwladol, fel globaleiddio, diogelwch rhyngwladol, yr amgylchedd, anghydraddoldeb, iechyd y byd, gwrthdaro ac amgylcheddau ar ôl gwrthdaro
  • a datblygu eich cymwyseddau iaith ymhellach ar ôl i chi dreulio blwyddyn yn Sbaen
  • ystod o fodiwlau amrywiol ar Lenyddiaeth, Ffilm, Diwylliant, Busnes
  • Ieithyddiaeth Romáwns
  • Sinema Sbaenaidd Americanaidd
  • Sinema Sbaenaidd ii: Tueddiadau Newydd
  • amrywiaeth o wleidyddiaeth ranbarthol a gwladol, gan gynnwys America Ladin, Rwsia, Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd, gwledydd BRIC, y Dwyrain Canol, a'r Deyrnas Unedig
  • Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL)
  • a chynnal eich ymchwil annibynnol, gyda goruchwyliaeth tiwtorial
  • hanes rhyngwladol yr ugeinfed ganrif a'r Rhyfel Oer
  • ac ysgrifennu traethawd hir gorfodol i ddangos eich dealltwriaeth sylweddol yn eich dewis faes.

Sbaeneg - Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr wythnosol o waith iaith, sy'n cynnwys gwaith siarad, gwrando, ysgrifennu a chyfieithu. Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch Blwyddyn Dramor, ac yn astudio neu'n gweithio yn eich dewis leoliad.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon ar ffurf darlithoedd a seminarau.

Byddwn yn dynodi tiwtor personol i chi a fydd gyda chi drwy gydol eich gradd. Bydd yn eich helpu gydag unrhyw broblemau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfr, logiau dysgu a chyflwyniadau.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng, sef digwyddiad preswyl blynyddol i ffwrdd o Aberystwyth. Mae'r Gemau Argyfwng wedi bod yn seiliedig ar argyfyngau dyngarol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, uchelgais niwclear Iran, etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, trychineb amgylcheddol yn yr Arctig, a rhyfel rhwng Rwsia a Georgia. Bydd y Gemau Argyfwng yn caniatáu i chi ddysgu am agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu haddysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig y cyfyngiadau mae arweinwyr gwleidyddol yn eu hwynebu wrth ymateb i argyfyngau amrywiol. Yn ddi-os, dyma uchafbwynt y flwyddyn.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rydw i wrth fy modd â'r cwrs Gwleidyddiaeth Ryngwladol gan ei fod yn bwnc sy'n denu ystod eang o bobl o bob rhan o wledydd Prydain ac yn rhyngwladol, sy'n golygu eich bod yn cwrdd ag ystod eang o bobl a safbwyntiau. Mae'r seminarau'n caniatáu ar gyfer trafodaeth a dysgu gwych, ac mae'r darlithoedd eu hunain yn ddiddorol, gyda darlithwyr sydd bron yr un mor ddiddorol!

Roxy Taylor

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi rhoi dealltwriaeth newydd i fi o'r byd o fodiwlau ar faterion yn ymwneud â chysyniadau globaleiddio i fywydau menywod yn y Trydydd Byd. Gydag arbenigwyr mewn cymaint o feysydd, mae'n wych cael criw o diwtoriaid sydd mor gyfeillgar. Mae fy nhair blynedd yma yn Aberystwyth wedi bod yn addysgiadol ac yn bleserus, bydden i'n argymell astudio yma i unrhyw un.

Hannah Mitchell

Darlithwyr gwych, adeilad gwych, a phobl wych ar y cwrs!

Matthew David Bold

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|