NQUG

Dychwelyd i Ymarfer (Oedolion)

NQUG Dychwelyd i Ymarfer (Oedolion) Cod Y146 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Chwefror 2024

Mae Dychwelyd i Ymarfer yn rhaglen ran-amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe fydd yn rhoi profiad dysgu cynhwysol sydd (yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) yn cyflawni Safonau Dychwelyd i Ymarfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth [CN&B] (2019). O’i chwblhau’n llwyddiannus gallwch wneud cais i gael eich derbyn yn ôl ar y gofrestr broffesiynol yn ymarferydd gofal iechyd cofrestredig annibynnol, a bod yn hyderus yn eich gallu i ateb anghenion gofal cyfannol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer yr amrywiaeth hynod o bobl y byddwch yn eu cyfarfod wrth weithio.

Mae'r rhaglen yn addas hefyd i nyrsys nad ydynt yn gallu cyflawni gofynion y Cyngor N&B am nifer oriau ymarfer ar gyfer ail-ddilysu i aros ar y gofrestr broffesiynol.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae hwn yn fodiwl 60 credyd, lefel 6, rhan-amser a’i nod yw darparu'r wybodaeth, yr oriau ymarfer a’r cymwyseddau i gyflawni Safonau Dychwelyd i Ymarfer y Cyngor N&B 2019 a bod yn gymwys i gael eich derbyn yn ôl ar gofrestr y Cyngor. Trwy astudio’r modiwl gallwch adennill hyder a gloywi eich sgiliau a'ch gwybodaeth mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.

Bydd hanfodion ymarfer nyrsio cyfannol yn cael eu hategu gan fodelau ar gyfer darparu gofal nyrsio deinamig, sy'n cael eu llywio gan ofal iechyd seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y tîm Addysg Gofal Iechyd yn eich cynorthwyo i ailddysgu sgiliau a rhinweddau nyrs gofrestredig, a bydd hynny’n eich rhoi mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a lles emosiynol a chorfforol pobl eraill. Gallwch ddisgwyl cael eich herio, byddwch yn dysgu pethau newydd amdanoch chi'ch hun a chanfod cryfderau mewnol na wyddech oedd gennych. Bydd eich taith yn frith o emosiynau a phrofiadau, ond bydd yn gwbl werth chweil.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Fel myfyriwr Dychwelyd i Ymarfer rhan-amser, byddwch yn cael profiad mewn lleoliadau clinigol dan oruchwyliaeth a dysgu gwybodaeth ddamcaniaethol i sicrhau eich bod yn gymwys i’ch derbyn yn ôl ar gofrestr y Cyngor N&B trwy gyflawni 450 awr o ymarfer. Os teimlwch fod gennych rai profiadau clinigol eisoes a all gyfrannu tuag at gyflawni gofynion y Cyngor N&B, gellir cytuno ar y rhain yn unigol yn unol â'n prosesau APel/RPL.

Mae'r rhaglen yn cynnwys dau fodiwl craidd, modiwl theori (20 credyd ar lefel 6) a modiwl lleoliad ymarfer (40 credyd ar lefel 6). Bydd y ddau fodiwl yn cydredeg, a bydd angen cwblhau'r ddau yn llwyddiannus i basio'r rhaglen Dychwelyd i Ymarfer.

Mae'r rhaglen yn para 20 wythnos i gyd, sef 22.5 awr yr wythnos. Bydd y pythefnos cyntaf yn seiliedig ar theori, i sicrhau eich bod wedi cwblhau'r hyfforddiant sylfaenol sy’n angenrheidiol ar gyfer ymarfer clinigol. Bydd y 18 wythnos ddilynol yn cynnwys un diwrnod dysgu cyfunol a dau ddiwrnod lleoliad ymarfer yr wythnos. Bydd eich shifftiau clinigol yn cael eu trefnu’n lleol gyda darparwr eich lleoliad. Bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i gwrdd â phatrymau shifft, anghenion myfyrwyr ac amgylchiadau personol. Bydd yr holl oriau ymarfer yn cael eu cofnodi a'u gwirio.

Er bod y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros gyfnod o 20 wythnos, caniateir uchafswm o 27 wythnos i chi gwblhau'r rhaglen gyfan. Bydd hyn yn caniatáu am unrhyw wyliau a salwch/absenoldebau a gymerir yn ystod y rhaglen.

Gyrfaoedd

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch yn gymwys i ailymgeisio am statws Nyrs Gofrestredig (maes oedolion) y Cyngor N&B. Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £27,055, a allai godi'n unol â'r raddfa Agenda Newid Cyflog os byddwch yn dewis dilyn cyfleoedd gyrfa gwahanol. Mae Nyrsys Cofrestredig bellach yn gweithio mewn amrywiaeth o sectorau, a gallwch ddewis symud ymlaen â'ch gyrfa ar nifer o lwybrau.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r cwricwlwm Dychwelyd i Ymarfer yn gyfoes, a bydd yn diweddaru eich sgiliau rhifedd, llythrennedd, digidol a thechnolegol. Yn ogystal â hyn, bydd yn cynnwys:

  • Dysgu Gweithredol
  • Ail-ddilysu
  • Myfyrio
  • Paratoi ar gyfer y Goruchwyliwr Ymarfer a’r Asesydd Ymarfer
  • Diogelu
  • Y Gyfraith, Moeseg, Polisi a Llywodraethu
  • Ffarmacoleg
  • Rheoli Meddyginiaethau/SafeMedicate
  • Ymarfer Proffesiynol.

Nod y rhaglen Dychwelyd i Ymarfer yw’r canlynol: 

  • Gwella eich gwybodaeth a'ch sgiliau i gyrraedd Safonau Dychwelyd i Ymarfer (Cyngor N&B 2019) a bod yn gymwys i gael eich rhoi yn ôl ar gofrestr y Cyngor.
  • Dangos cwmpas personol eich ymarfer, nodi rhwystrau a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.
  • Gwerthuso’r fframweithiau cyfreithiol a moesegol sy'n sail i ymarfer clinigol.
  • Esbonio gweithredoedd ffarmacolegol cyffuriau cyffredin.
  • Dangos gwybodaeth fanwl sy'n sail i weinyddu meddyginiaethau yn ddiogel a ffactorau sy'n effeithio ar gydymffurfiaeth cleifion.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ddarparu'r rhaglen Dychwelyd i Ymarfer.

Bydd elfen sylweddol o'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddysgu seiliedig ar ymarfer, er mwyn eich rhoi mewn sefyllfaoedd clinigol go iawn lle gallwch ail-hogi eich sgiliau nyrsio mewn amgylchedd dan oruchwyliaeth. Yn ystod y cyfnod hwn, rhaid i chi gwblhau Dogfen Asesu Dychwelyd i Ymarfer, er mwyn dangos tystiolaeth o'ch cyflawniadau a’ch cymhwysedd o ran dysgu clinigol. Yn y lleoliad ymarfer cewch gymorth gan Oruchwylwyr Ymarfer ac Aseswyr Ymarfer.

Bydd yr elfen ddamcaniaethol yn cael ei chyflwyno trwy fabwysiadu dull dysgu cyfunol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn elwa ar amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu, gan gynnwys darlithoedd arweiniol, gwaith mewn grwpiau bach, astudio hunan-gyfeiriedig, seminarau, a sesiynau sgiliau clinigol. Mae efelychu wedi'i ymgorffori yn y cwricwlwm, a bydd cyfle i chi ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn amgylchedd diogel, sy'n adlewyrchu profiad y nyrs/claf.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):

Diploma Cenedlaethol BTEC:

Bagloriaeth Ryngwladol:

Bagloriaeth Ewropeaidd:

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|