BEng

Roboteg a Pheirianneg Systemau Mewnosodedig

Roboteg a Pheirianneg Systemau Mewnosodedig Cod 132A Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Roboteg a Pheirianneg Systemau Mewnosodedig 

BEng (Anrh)

Bydd ein staff sy’n weithgar ym maes ymchwil yn darparu cymorth ymarferol i’ch helpu i adeiladu a chynnal systemau deallus a sicrhau dibynadwyedd mewn sefyllfaoedd anodd eu darogan yn y byd go iawn. Er mwyn gweithio yn y maes hwn mae’n rhaid wrth ddealltwriaeth ddofn o feddalwedd, ond dealltwriaeth hefyd o sut i weithredu hynny yn y byd ffisegol a’r fathemateg sylfaenol sy’n disgrifio hynny.


Trosolwg o'r Cwrs

Yn ogystal â meithrin sylfaen gadarn o ran sgiliau cyfrifiadureg, yn y radd hon byddwch hefyd yn datblygu sgiliau arbenigol ym maes deallusrwydd artiffisial, roboteg a pheirianneg systemau. Mae ein blwyddyn mewn diwydiant (dewisol) yn ffordd allweddol o ennill profiad ymarferol o’r sgiliau a gafodd eu meithrin yn ystod dwy flynedd gyntaf y cwrs, a bydd hyn yn eich helpu chi i ddisgleirio ymhlith ymgeiswyr eraill wrth wneud cais am swyddi.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Roboteg a Pheirianneg Systemau Mewnosodedig yn Aberystwyth:

  • labordy penodedig ar gyfer roboteg
  • gweithdy roboteg
  • ystod o offer ymchwil arbenigol gan gynnwys ceir trydan, crwydrwyr robotig, robotiaid hwylio, breichiau robotig, llwyfannau hedfan robotig.


Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra a Hafaliadau Differol FG16210 10
Calcwlws MT10610 10
Information security CS11110 10
Cyflwyniad i Raglennu CC12020 20
Problems and Solutions CS10720 20
Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol CC12320 20
Sgiliau Astudio ar gyfer Cyfrifiadureg CC18120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algorithm Design and Data Structures CS21120 20
Artificial Intelligence CS26520 20
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Robotics and Embedded Systems CS26020 20
Sensors, Electronics & Instrumentation PH24520 20
Peirianneg Meddalwedd CC22120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Engineering Control Theory PH33310 10
Prosiect Hir CC39440 40
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20
Space Robotics CS36510 10
Systems Engineering CS33020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agile Development and Testing CS31310 10
Computer Vision CS34110 10
Fundamentals of Machine Learning CS36110 10
Robotic Applications CS36010 10
Semiconductor Technology PH33610 10

Gyrfaoedd

Bydd gan ein graddedigion gefndir cryf mewn cyfrifiadureg a ddylai eu paratoi ar gyfer llawer o swyddi yn y diwydiant cyfrifiadurol. Ar ben hynny, mae’r sgiliau penodol a ddysgir ar y cwrs gradd hwn yn rhoi sylfaen ddelfrydol ar gyfer gweithio yn y diwydiannau aerofod a modurol ac ym maes newydd Rhyngrwyd y Pethau.


Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Algebra a Hafaliadau Differol/Algebra and Differential Equations
  • Calcwlws/Calculus
  • Cyflwyniad i Raglennu/Introduction to Programming
  • Datblygiad Proffesiynol a Phersonol/Professional and Personal Development
  • Dynameg Glasurol/Classical Dynamics
  • Grymoedd ac Egni/Forces and Energy
  • Problems and Solutions
  • Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol/Programming Using an Object-Oriented Language.

Yr ail flwyddyn:

  • Artificial Intelligence
  • Dylunio Algorithmau a Strwythurau Data/Algorithm Design and Data Structures
  • Ffiseg Mathemategol/Mathematical Physics
  • Peirianneg Meddalwedd/Software
  • Engineering
  • Robots and Embedded Systems
  • Sensors, Electronics and Instrumentation.

Y flwyddyn olaf:

  • Engineering Control Theory
  • Professional Issues in the Computing Industry
  • Prosiect Hir/Major Project
  • Robotics Applications
  • Space Robotics
  • Systems Engineering.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|