Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Os ydych chi'n chwilio am ymagwedd radicalaidd ac arloesol tuag at ddylunio a theatr dechnegol yng nghyd-destun theatr a pherfformio, yna ein cynllun Cyd-anrhydedd Senograffeg a Dylunio Theatr / Drama ac Astudiaethau Theatr yw'r radd i chi. Gyda chefnogaeth staff a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol ac sydd ag ystod eang o arbenigedd, byddwch yn edrych y tu hwnt i ffiniau dylunio sain, set, gwisgoedd, a goleuo, ac yn cael safbwynt cyffredinol o ddigwyddiadau perfformio. Mae'r radd hon wedi'i dylunio i'ch grymuso chi i ddatblygu eich sgiliau a'ch gallu fel dylunydd a gwneuthurwr theatr, gan fynd ati i archwilio beth all drama, theatr a pherfformio fod heddiw ac yn y dyfodol. Yn ystod tair blynedd y radd, byddwch yn cymryd rhan mewn proses o ymchwilio a chwestiynu a fydd yn ymestyn eich gallu beirniadol a chreadigol, ac yn meithrin eich sgiliau ymarferol. Byddwch yn profi ac yn archwilio ystod eang o arferion dylunio a theatr gyfoes, o theatr chwaraedy i osod perfformiadau, o ddrama wedi'i sgriptio i berfformiadau penodol i safle, ac o Shakespeare i arbrofion yn y cyfryngau newydd.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
90% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Celfyddydau Creadigol a Dylunio yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Senograffeg a Dylunio Theatr / Drama ac Astudiaethau Theatr yn Aberystwyth?
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i archwilio ymagwedd radicalaidd ac arloesol tuag at ddylunio perfformiadau a theatr.
Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan dîm o ddylunwyr ac arbenigwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol.
Rydyn ni'n adran fywiog a chreadigol, lle mae drama a theatr, ffilm a'r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn dod ynghyd.
Mae pob myfyriwr yn elwa ar ein profiadau dysgu ategol, lle mae damcaniaeth ac arfer wedi'u dylunio i fwydo'i gilydd.
Fel adran, bydd myfyrwyr yn elwa ar ein cysylltiadau gyda phartneriaid allweddol yn y diwydiant, fel Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Music Theatre Wales a Chwmni Theatr Quarantine. Mae'r partneriaid creadigol hyn yn cynnig cyfle ardderchog i rwydweithio a chysylltu gyda phobl yn y diwydiant cyn graddio.
Mae gan fyfyrwyr yr adran fynediad at ein cyfleusterau a'n hadnoddau ardderchog ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer gyda chyfleusterau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer proffesiynol, gyda rigiau goleuo digidol wedi'u rheoli drwy gonsolau Strand Lighting ac ETC Congo, Systemau Sain Yamaha a Soundcraft, Systemau Clyweledol Sanyo a goleuo Strand, a dau NXAMP; a chyfleusterau gwisgoedd
Ar ein campws, a drws nesaf i Ganolfan y Celfyddydau, mae un o ganolfannau celfyddydau mwyaf Cymru, sy'n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am fod â nifer fawr o glybiau a chymdeithasau, felly gallwch fod yn sicr y byddwch yn llenwi'ch amser rhwng eich astudiaethau a chymryd rhan yng ngweithgareddau eich clwb/cymdeithas o ddewis. Mae gan y Brifysgol gymdeithas ddrama fawr ac egnïol - dewch i ddweud helo wrth ymweld ag Aberystwyth.
Os ydych chi'n chwilio am brofiad y tu hwnt i Aberystwyth, bydd gan bob myfyriwr gyfle i gymryd rhan mewn lleoliad astudio dramor gydag un o'n prifysgolion partner yn Ewrop drwy raglen Erasmus+ a rhai lleoliadau pellach gyda'n rhaglen Cyfnewid Rhyngwladol. Darganfyddwch lle gallai eich antur fynd â chi!
Ein Staff
Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Beth alla i wneud gyda gradd mewn Senograffeg a Dylunio Theatr / Drama ac Astudiaethau Theatr?
Mae llawer o'n myfyrwyr wedi llwyddo i gael swyddi yn y meysydd canlynol:
Dylunio Gwisgoedd, Setiau a Goleuo
Dylunio Cynyrchiadau a Chyfarwyddo Celf
Actio a Pherfformio
Cyfarwyddo
Rheoli Llwyfan;
Sgriptio
Addysgu a Maes Addysg
Gweinyddu yn y Celfyddydau
Marchnata
Rheoli a Chydlynu Prosiectau
Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus.
Pa sgiliau bydda i'n eu cael o'r radd?
Mae myfyrwyr ar y radd hon yn meithrin sgiliau gwerthfawr y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
Casglu, dosbarthu a dehongli deunydd esthetig a deallusol yn annibynnol ac yn feirniadol
Strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithlon ac yn greadigol ar lafar, yn ysgrifenedig, yn weledol ac yn berfformiadol i ystod o gynulleidfaoedd
Cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
Gweithio'n effeithiol mewn grŵp i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu digwyddiadau byw
Cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
Ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
Strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
Gweithio'n annibynnol a gydag eraill
Trefnu amser yn effeithiol a defnyddio sgiliau
Gwrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol
Ysgogi a disgyblu eu hunain
Defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
Bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:
Ymagweddau cyfoes tuag at greu theatr yn y stiwdio ac ar safle a dylunio senograffig;
Cysyniadau, methodolegau a dulliau senograffig allweddol
Cyfnodau, arferion a dulliau hanesyddol allweddol ym maes drama a theatr
Dadansoddi drama, theatr a pherfformio
Swyddogaeth dylunio mewn digwyddiad theatraidd.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:
Y pedair elfen senograffig sylfaenol, sef gofod, goleuo, sain a chorff
Creu theatr gyfoes drwy ddulliau ymarferol, hanesyddol a damcaniaethol
Damcaniaethau ac arferion archwilio senograffig
Teclynnau a dulliau ar gyfer cyfansoddiad senograffig
Modiwlau dewisol sy'n cynnwys ar hyn o bryd dechnegau actio ar gyfer y llwyfan a sgrin, theatr y Cyfarwyddwr a drama Ewropeaidd, perfformio Shakespeare, perfformio yn y cyfryngau newydd, a chynhyrchu theatr graddfa lawn.
Yn ystod flwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gyflawni'r canlynol:
Creu gwaith creadigol annibynnol uwch, sy'n eich paratoi ar gyfer arfer proffesiynol;
Cyflawni prosiect ymchwil sylweddol a chyflawni astudiaeth ddamcaniaethol uwch;
Sgriptio drama
Astudio modiwlau arbenigol sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Gofod, Lle a Tirlun
Perfformio, Gwleidyddiaeth a Phrotest; Theatr, Rhywedd a Rhywioldeb; Perfformio a Phensaernïaeth; a Drama Gyfoes ym Mhrydain ac Iwerddon.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy weithdai ymarferol, seminarau grwpiau bach, darlithoedd, prosiectau cynhyrchu, a gwaith prosiect mewn grŵp.
Rydyn ni'n addysgu â dull cymysg yn aml, gan archwilio damcaniaeth drwy ymchwil ac arfer ymarferol, drwy lygad safbwyntiau damcaniaethol amrywiol.
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf prosiectau perfformio, traethodau ffurfiol ac wedi'u perfformio, arholiadau ymarferol ac ysgrifenedig, portffolios beirniadol a chreadigol, cynyrchiadau ymarferol, cyflwyniadau seminar a gweithgareddau grŵp.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cynllun gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblem neu ymholiad, boed yn academaidd neu'n bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Barn ein Myfyrwyr
Mae'r ystod eang o fodiwlau, ynghyd â'r amrywiaeth eang o gymdeithasau drama, yn golygu ei bod hi'n hawdd paratoi ar gyfer unrhyw faes ymarfer drama a theatr. Mae'r elfennau academaidd ac ymarferol yn wych, ac yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar un neu'r llall, a/neu gael sylfaen yn y ddamcaniaeth er mwyn gwella ein gwaith archwilio ymarferol. Mae'r staff yn gyfeillgar ac yn frwdfrydig bob amser, ac maen nhw wastad yn ein hannog ni i wneud mwy ac i archwilio ymhellach.
Jemma Rowlston
Ers graddio, dw i wedi bod yn byw yn Llundain. Rydw i wedi gweithio i Wicked!, sioe gerdd sydd wedi ennill sawl gwobr, yn Theatr Apollo, fel Cynorthwyydd Gwisgoedd ac fel Gwisgwr. Heblaw am fy ngwaith ar Wicked!, rydw i'n gweithio'n llawrydd fel Cynorthwyydd Gwisgoedd ar ystod o gynyrchiadau theatr, gan gynnwys The Railway Children (Waterloo Station), yn gweithio'n agos gyda dylunwyr a goruchwylwyr gwisgoedd i wireddu eu gwaith ar y llwyfan. Mae hyblygrwydd a strwythur y radd Senograffeg a Dylunio Theatr, wedi'u cyfuno ag arbenigedd y tiwtoriaid, yn golygu eich bod chi nid yn unig yn teimlo fel eich bod chi'n cael gradd ystyrlon wedi'i chrefftio'n bwrpasol, ond cwrs sy'n addysgu'r sgiliau a'r fethodoleg angenrheidiol i weithio yn y diwydiant. Mae Prifysgol Aberystwyth yn lle heintus i astudio (ac i chwarae!), gyda staff anhygoel, ardal ysbrydoledig, cyfleoedd di-ben-draw, a ffrindiau oes. Bydden i'n ei argymell yn sicr.