Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae'r radd gyd-anrhydedd mewn Senograffeg a Dylunio Theatr / Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwythyn rhaglen gyffrous, amrywiol a heriol, sy'n cyfuno ymagweddau ymarferol a damcaniaethol tuag at astudio sbectrwm eang o gyfryngau a chelfyddydau perfformio. Byddwch yn edrych y tu hwnt i ffiniau sefydledig dylunio setiau, gwisgoedd, goleuo a sain er mwyn cael safbwynt llawn o'r gofod perfformio. Byddwch hefyd yn dod ar draws ystod eang o fodiwlau ymarferol a damcaniaethol ffilm a theledu, sy'n cynnwys popeth o ffuglen i ddogfen, ac o'r prif ffrwd i'r arbrofol. Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr blaengar ac ymarferwyr profiadol mewn adran sy'n rhoi pwyslais ar ddatblygiad deallusol, hyfedredd technegol, a phartneriaethau yn y diwydiant. Yn ystod y tair blynedd o astudio, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi chi ar gyfer ystod o yrfaoedd yn y cyfryngau creadigol, y celfyddydau creadigol a'r tu hwnt.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
90% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Celfyddydau Creadigol a Dylunio yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Senograffeg a Dylunio Theatr / Astudiaethau Ffilm a Theledu yn Aberystwyth?
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i archwilio ymagwedd radicalaidd ac arloesol tuag at ddylunio perfformiadau a theatr.
Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan dîm o ddylunwyr ac arbenigwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol.
Rydyn ni'n adran fywiog a chreadigol, lle mae drama a theatr, ffilm a'r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn dod ynghyd.
Mae pob myfyriwr yn elwa ar ein profiadau dysgu ategol, lle mae damcaniaeth ac arfer wedi'u dylunio i fwydo'r naill a'r llall.
Fel adran, bydd myfyrwyr yn elwa ar ein cysylltiadau gyda phartneriaid allweddol yn y diwydiant, fel Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Music Theatre Wales a Chwmni Theatr Quarantine. Mae'r partneriaid creadigol hyn yn cynnig cyfle ardderchog i rwydweithio a chysylltu gyda phobl yn y diwydiant cyn graddio.
Mae gan fyfyrwyr yr adran fynediad at ein cyfleusterau ac adnoddau ardderchog ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer gyda chyfleusterau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer proffesiynol, gyda rigiau goleuo digidol wedi'u rheoli drwy gonsolau Strand Lighting ac ETC Congo, Systemau Sain Yamaha a Soundcraft, Systemau AV Sanyo a goleuo Strand, a dau NXAMP; a chyfleusterau gwisgoedd.
Ar ein campws, a drws nesaf i Ganolfan y Celfyddydau, mae un o ganolfannau celfyddydau mwyaf Cymru, sy'n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am fod â nifer fawr o glybiau a chymdeithasau, felly gallwch fod yn sicr y byddwch yn llenwi'ch amser rhwng eich astudiaethau a chymryd rhan yng ngweithgareddau eich clwb/cymdeithas o ddewis. Mae gan y Brifysgol gymdeithas ddrama fawr ac egnïol - dewch i ddweud helo wrth ymweld ag Aberystwyth.
Ein Staff
Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:
Modiwlau cyflwyniadol craidd yn hanes, theori a dadansoddiad o gynnyrch ffilm a theledu
Sgiliau ymarferol drwy ymgysylltu â phob cam o broses gynhyrchu'r cyfryngau
Ymagweddau cyfoes tuag at ddylunio senograffeg yn y stiwdio
Cysyniadau, methodolegau a dulliau allweddol senograffeg.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:
Pedair elfen sylfaenol senograffeg, sef gofod, goleuo, sain a chorff
Damcaniaethau ac arferion archwilio senograffig
Teclynnau a dulliau ar gyfer cyfansoddiad senograffig
Sgiliau cynhyrchu mewn stiwdio, creu ffilmiau dogfennol, ac ysgrifennu ar gyfer ffilm, teledu a pherfformio
Modiwlau opsiynol sydd ar hyn o bryd yn cynnwys sinema Hollywood, creu ffilmiau dogfennol, sinema gelf, materion cyfoes mewn diwylliant digidol, perfformio ar gyfryngau newydd a dylunio ar gyfer cynhyrchiad theatr graddfa lawn.
Yn ystod y flwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gyflawni'r canlynol:
Creu gwaith creadigol annibynnol uwch, sy'n eich paratoi ar gyfer arfer proffesiynol
Arbenigo mewn cynhyrchu dogfennol, ffilmiau ffuglennol, cyfryngau arbrofol neu sgriptio, a meithrin sgiliau uwch yn y maes hwn
Cyflawni prosiect ymchwil sylweddol a chyflawni astudiaeth ddamcaniaethol uwch
Astudio pynciau arbenigol sy'n ymdrin â hanes technoleg, ffilm arbrofol, sinema gwlt, teledu a chymdeithas yn yr ugeinfed ganrif, enwogrwydd, lle, gofod a thirlun, perfformio a gwleidyddiaeth, theatr, rhywedd a rhywioldeb, theatr ddogfennol a drama gyfoes ym Mhrydain.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy weithdai ymarferol, seminarau mewn grwpiau bach, darlithoedd, dangosiadau, arddangosiadau technegol a gwaith prosiect grŵp. Mae'r amrywiaeth hon yn y gweithgarwch yn rhan hanfodol o'n hathroniaeth, ac mae'n creu amgylchedd dysgu sy'n gyffrous a chynhyrchiol mewn modd unigryw.
Rydyn ni'n addysgu â dull cymysg yn aml, gan archwilio damcaniaeth drwy ymchwil ac arfer ymarferol, drwy lygad safbwyntiau damcaniaethol amrywiol.
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf prosiectau perfformio, prosiectau ffilm a fideo unigol, traethodau ysgrifenedig, arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, portffolios beirniadol a chreadigol, cynyrchiadau ymarferol, dyddiaduron cynhyrchu a sgriptio creadigol, cofnodion myfyriol, cyflwyniadau seminar a gweithgareddau grŵp.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cynllun gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblem neu ymholiad, boed yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Barn ein Myfyrwyr
Mae Senograffeg a Dylunio Theatr yn galluogi dylunwyr newydd, ifanc a brwdfrydig i gymryd eu camau cyntaf tuag at newid sut rydyn ni'n edrych ar y dyfodol. Mae myfyrwyr yn cael cyfleoedd di-ben-draw i greu ac i herio ideolegau dylunio sy'n bodoli, sy'n eu galluogi nhw nid yn unig i ddod o hyd i'r canlyniad gorau, ond i ddarganfod arddull y dylunydd maen nhw am fod. Mae dylunio bobman. Boed chi'n fyfyriwr sydd am fynd i'r diwydiant digwyddiadau, teledu, pensaernïaeth neu farchnata, dylunio yw'r elfen ofynnol gryfaf.
Tabitha Thomas
Mae Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn anhygoel. Mae gan y cwrs awyrgylch gwych, sy'n dangos mor dda yw'r cysylltiad rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr. Mae ochr academaidd y cwrs yn ddadlennol; mae'n cyffwrdd ag ystod eang o bynciau ac yn ymdrin â phob un o'r rhain yn fanwl, ac mae hyn yn gweithio'n dda hyd yn oed ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n dymuno canolbwyntio mwy ar y modiwlau ymarferol. Yn ogystal, mae'r adran yn cynnig digonedd o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, ynghyd â chyfleoedd i fyfyrwyr fireinio'u sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth gydag offer yr adran. Mae yna hefyd gymdeithas ffilm boblogaidd.
Joe Williams
Ers graddio, dw i wedi bod yn byw yn Llundain. Rydw i wedi gweithio i Wicked!, sioe gerdd sydd wedi ennill sawl gwobr, yn Theatr Apollo fel Cynorthwyydd Gwisgoedd ac fel Gwisgwr. Heblaw am fy ngwaith ar Wicked!, rydw i'n gweithio'n llawrydd fel Cynorthwyydd Gwisgoedd ar ystod o gynyrchiadau theatr, gan gynnwys The Railway Children (Waterloo Station), gan weithio'n agos gyda dylunwyr a goruchwylwyr gwisgoedd i wireddu eu gwaith ar y llwyfan. Mae hyblygrwydd a strwythur y radd Senograffeg a Dylunio Theatr, wedi'u cyfuno ag arbenigedd y tiwtoriaid, yn golygu eich bod chi nid yn unig yn teimlo fel eich bod chi'n cael gradd ystyrlon wedi'i chrefftio'n bwrpasol, ond cwrs sy'n addysgu'r sgiliau a'r fethodoleg angenrheidiol i weithio yn y diwydiant. Mae Prifysgol Aberystwyth yn lle heintus i astudio (ac i chwarae!), gyda staff anhygoel, ardal ysbrydoledig, cyfleoedd di-ben-draw, a ffrindiau oes. Bydden i'n sicr o'i argymell.
Ed Parry
Yr hyn dw i'n ei fwynhau ynghylch Astudiaethau Ffilm a Theledu yw'r amrywiaeth o feysydd dw i wedi cael cyfle i fod yn rhan ohonyn nhw. Llynedd, fydden i byth wedi bod â'r hyder na'r ddealltwriaeth i drefnu tîm cynhyrchu, i greu a marchnata ffilmiau byrion ac i weithio mewn stiwdio tri chamera. Yr hyn ro'n i'n chwilio amdano gan Brifysgol Aberystwyth oedd y sgiliau i ddod yn wneuthurwr ffilm; a'r hyn ges i oedd sgiliau ymarferol, dealltwriaeth o drafodaethau academaidd, a chysylltiadau sydd wedi rhoi dealltwriaeth o'r diwydiant ffilm a theledu i fi.