Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Dan arweiniad ymarferwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, mae'r cynllun gradd hwn yn defnyddio ymagwedd ffres a radicalaidd tuag at ddylunio ym maes perfformio, gan edrych y tu hwnt i ffiniau sefydledig dylunio sain, setiau, gwisgoedd a goleuo, er mwyn cael golwg gyffredinol o ofod perfformio fel maes artistig mynegiannol ynddo'i hun. Nid gradd am 'sut mae gwneud' yw hon, ond ymchwil i sut gellid gwneud.
Drwy gyfuno archwiliadau ymarferol a damcaniaethol, byddwch yn archwilio'n feirniadol ac yn ymgysylltu ag ystod eang o arferion cyfoes, o theatr chwaraedy i berfformiadau penodol i safle, ac o theatr amgylcheddol i osodwaith perfformiadau. Wrth i'r cynllun ddatblygu, mae'r astudio'n canolbwyntio'n fwy ar eich ymarfer chi fel artist annibynnol, gan gymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch chi wedi'u meithrin i greu gwaith sy'n ffres, yn radicalaidd, ac yn fynegiannol i chi, o fewn neu'r tu hwnt i gyd-destun theatr a pherfformio.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
90% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Celfyddydau Creadigol a Dylunio yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Senograffeg a Dylunio Theatr yn Aberystwyth?
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i archwilio ymagwedd radicalaidd ac arloesol tuag at ddylunio perfformiadau a theatr
Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan dîm o ddylunwyr ac arbenigwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol
Rydyn ni'n adran fywiog a chreadigol, lle mae drama a theatr, ffilm a'r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn dod ynghyd
Mae pob myfyriwr yn elwa ar ein profiadau dysgu ategol, lle mae damcaniaeth ac arfer wedi'u dylunio i fwydo'i gilydd
Fel adran, bydd myfyrwyr yn elwa ar ein cysylltiadau gyda phartneriaid allweddol yn y diwydiant, fel Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Music Theatre Wales a Chwmni Theatr Quarantine. Mae'r partneriaid creadigol hyn yn cynnig cyfle ardderchog i rwydweithio a chysylltu gyda phobl yn y diwydiant cyn graddio
Mae gan fyfyrwyr yr adran fynediad at ein cyfleusterau a'n hadnoddau ardderchog ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer gyda chyfleusterau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer proffesiynol, gyda rigiau goleuo digidol wedi'u rheoli drwy gonsolau Strand Lighting ac ETC Congo, Systemau Sain Yamaha a Soundcraft, Systemau Clyweledol Sanyo a goleuo Strand, a dau NXAMP; a chyfleusterau gwisgoedd
Ar ein campws mae un o ganolfannau celfyddydau mwyaf Cymru, sy'n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am fod â nifer fawr o glybiau a chymdeithasau, felly gallwch fod yn sicr y byddwch yn llenwi'ch amser rhwng eich astudiaethau a chymryd rhan yng ngweithgareddau eich clwb/cymdeithas o ddewis
Os ydych chi'n chwilio am brofiad y tu hwnt i Aberystwyth, bydd gan bob myfyriwr gyfle i gymryd rhan mewn lleoliad astudio dramor gydag un o'n prifysgolion partner yn Ewrop drwy raglen Erasmus+ a rhai lleoliadau pellach gyda'n rhaglen Cyfnewid Rhyngwladol. Darganfyddwch lle gallai eich antur fynd â chi!
Ein Staff
Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Beth alla i wneud gyda gradd mewn Senograffeg a Dylunio Theatr / Drama ac Astudiaethau Theatr?
Mae llawer o'n myfyrwyr wedi llwyddo i gael swyddi yn y meysydd canlynol:
Dylunio Gwisgoedd, Setiau a Goleuo
Dylunio Cynyrchiadau a Chyfarwyddo Celf
Rheoli Llwyfan
Addysgu a Maes Addysg
Gweinyddu yn y celfyddydau
Marchnata;
Rheoli a Chydlynu Prosiectau
Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus
Pa sgiliau bydda i'n eu cael o'r radd?
Mae myfyrwyr ar y radd hon yn meithrin sgiliau gwerthfawr y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
Casglu, dosbarthu a dehongli deunydd esthetig a deallusol yn annibynnol ac yn feirniadol
Strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithlon ac yn greadigol ar lafar, yn ysgrifenedig, yn weledol ac yn berfformiadol i ystod o gynulleidfaoedd
Cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
Gweithio'n effeithiol mewn grŵp i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu digwyddiadau byw
Cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
Ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
Strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
Gweithio'n annibynnol a gydag eraill
Trefnu amser yn effeithiol a defnyddio sgiliau
Gwrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol
Ysgogi a disgyblu eu hunain
Defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
Bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio
Ymagweddau tuag at ddylunio senograffeg yn y stiwdio ac ar safle
Cysyniadau, methodolegau a dulliau senograffig allweddol
Swyddogaeth dylunio mewn digwyddiad theatraidd ehangach.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:
Y pedair elfen senograffig sylfaenol, sef gofod, goleuo, sain a chorff
Damcaniaethau ac arferion archwilio senograffig
Teclynnau a dulliau ar gyfer cyfansoddiad senograffig
Sut i lunio, datblygu a chyflawni prosiect dylunio theatr cydlynol
Sut i lunio, datblygu a gwireddu dyluniad ar y cyd ar gyfer cynhyrchiad adrannol
Dadansoddi, gwerthuso a deall senograffeg a dylunio theatr
Datblygu sgiliau arbenigol sy'n angenrheidiol ar gyfer cynrychioli a chyfathrebu cysyniadau senograffig
Modiwlau dewisol sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Theatr y Cyfarwyddwr: Llwyfannu Drama Fodern: Perfformio Shakespeare a Pherfformio yn y Cyfryngau Newydd.
Yn ystod flwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gyflawni'r canlynol:
Creu gwaith creadigol annibynnol uwch, sy'n eich paratoi ar gyfer arfer proffesiynol
Datblygu arbenigedd mewn un elfen o senograffeg
Creu portffolio personol electronig sy'n dogfennu eich gwaith
Cynnal prosiect ymchwil sylweddol
Astudio modiwlau arbenigol dewisol sydd ar hyn o bryd yn cynnwys: Gofod, Lle a Thirlun; Perfformio a Phensaernïaeth; Dramayddiaeth Theatr Gerdd; a Theatr, Rhywedd a Rhywioldeb
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu yn bennaf ar ffurf gweithdai ymarferol mewn grwpiau bach, tiwtorialau, gwaith prosiect grŵp, a phrosiectau cynhyrchu
Rydyn ni'n addysgu â dull cymysg yn aml, gan archwilio damcaniaeth drwy arfer ac ymchwil ymarferol, drwy lygad safbwyntiau damcaniaethol amrywiol
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf prosiectau perfformio senograffig, cyflwyniadau grŵp, prosiectau cysyniadol, prosiectau dylunio, traethodau ffurfiol, arholiadau ymarferol, portffolios beirniadol a chreadigol, cynyrchiadau ymarferol, a chyflwyniadau seminar
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cynllun gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblem neu ymholiad, boed yn academaidd neu'n bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Barn ein Myfyrwyr
Mae Senograffeg a Dylunio Theatr yn galluogi dylunwyr newydd, ifanc a brwdfrydig i gymryd eu camau cyntaf tuag at newid sut rydyn ni'n edrych ar y dyfodol. Mae myfyrwyr yn cael cyfleoedd di-ben-draw i greu ac i herio ideolegau dylunio sy'n bodoli, sy'n eu galluogi nhw nid yn unig i ddod o hyd i'r canlyniad gorau, ond i ddarganfod arddull y dylunydd maen nhw am fod. Mae dylunio bobman. Boed chi am fynd i'r diwydiant digwyddiadau, teledu, pensaernïaeth neu farchnata, dylunio yw'r elfen ofynnol gryfaf.
Tabitha Thomas
Ers graddio, dw i wedi bod yn byw yn Llundain. Rydw i wedi gweithio i Wicked!, sioe gerdd sydd wedi ennill sawl gwobr, yn Theatr Apollo fel Cynorthwyydd Gwisgoedd ac fel Gwisgwr. Heblaw am fy ngwaith ar Wicked!, rydw i'n gweithio'n llawrydd fel Cynorthwyydd Gwisgoedd ar ystod o gynyrchiadau theatr, gan gynnwys The Railway Children (Waterloo Station), gan weithio'n agos gyda dylunwyr a goruchwylwyr gwisgoedd i wireddu eu gwaith ar y llwyfan. Mae hyblygrwydd a strwythur y radd Senograffeg a Dylunio Theatr, wedi'u cyfuno ag arbenigedd y tiwtoriaid, yn golygu eich bod chi nid yn unig yn teimlo fel eich bod chi'n cael gradd ystyrlon wedi'i chrefftio'n bwrpasol, ond cwrs sy'n addysgu'r sgiliau a'r fethodoleg angenrheidiol i weithio yn y diwydiant. Mae Prifysgol Aberystwyth yn lle heintus i astudio (ac i chwarae!), gyda staff anhygoel, ardal ysbrydoledig, cyfleoedd di-ben-draw, a ffrindiau oes. Bydden i'n ei argymell yn sicr.