BA

Cymdeithaseg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

BA Cymdeithaseg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod L303 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd y radd BA mewn Cymdeithaseg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich hyfforddi i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o'r byd cymdeithasol, a byddwch hefyd yn dysgu sut i ymwneud â'r byd hwnnw. Trwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn datblygu gwybodaeth drwyadl am y dulliau cysyniadol a damcaniaethol y mae cymdeithasegwyr wedi'u defnyddio i astudio'r byd o'n cwmpas. Bydd y flwyddyn integredig mewn diwydiant a gynhelir rhwng eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf o astudio yn gysylltiedig â'r cynllun gradd hwn, bydd hefyd yn rhoi mwy o hyder a gwybodaeth i chi wrth i chi agosáu at eich blwyddyn olaf o astudio. Byddwch hefyd yn datblygu eich gallu i ddadansoddi ffenomenau cymdeithasol trwy gyfrwng hyfforddiant mewn casglu, dadansoddi a chyflwyno data cymdeithasegol.

Mae rhai o'r agweddau neilltuol ar ddull Aberystwyth o ymdrin â Chymdeithaseg yn cynnwys: 

  • pwysleisio gwerth ac arwyddocâd astudio Cymdeithaseg â'r pwyslais ar weithio yn y maes, gydag ymarferion maes yn cael eu cynnwys mewn modiwlau darlith, a modiwl Cymdeithaseg penodol yn y maes;
  • dysgu sut i gymhwyso'r cysyniadau allweddol sy'n gysylltiedig â chymdeithaseg mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn a datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd
  • dysgu o'n cryfderau ymchwil i sicrhau eich bod yn elwa o ddirnadaethau damcaniaethol ac empirig arloesol a ddadansoddir o safbwynt cymdeithasegol.

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd gradd BA mewn Cymdeithaseg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) yn Aberystwyth yn eich galluogi i:

  • werthuso syniadau, cysyniadau a dulliau yn feirniadol ar draws y pwnc cyfan ac o fewn canghennau penodol Cymdeithaseg; 
  • gynnal ymchwil annibynnol, gan gymhwyso ystod o sgiliau o ran casglu, dadansoddi a chyflwyno data; byddwch yn datblygu ystod o sgiliau ac yn gallu eu cymhwyso i amrywiaeth o faterion Cymdeithasegol; 
  • gydnabod bod eich profiad dysgu wedi cael ei atgyfnerthu'n gadarnhaol drwy gael cyswllt ag ymchwil; 
  • werthuso eich perfformiad eich hun mewn amrywiaeth o gyd-destunau dysgu ac o dan wahanol ddulliau asesu; 
  • weithio'n annibynnol, mewn tîm a chydag ymwybyddiaeth gymdeithasol o'r cyfraniad a wnaed gan ysgolheictod ac ymchwil gymhwysol yn eu disgyblaeth at bolisi cymdeithasol; 
  • feddu ar y sgiliau a'r ymwybyddiaeth angenrheidiol i chwilio am waith mewn amrywiaeth o yrfaoedd proffesiynol neu i ddechrau ymchwil ac astudiaethau ôl-raddedig.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Introducing Sociological Research GS17120 20
Key Concepts in Sociology GS16120 20
Place and Identity GS14220 20
Thinking Sociologically GS15120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Byw mewn Byd Peryglus DA10020 20
Conceptual and Historical Issues in Psychology PS11820 20
Conflict and Change: the making of urban and rural spaces GS10220 20
Globalization and Global Development IP12520 20
Living in a Dangerous World GS10020 20
Newid a gwrthdaro: Cynhyrchu gofodau gwledig a threfol DA10520 20
Studying Media FM10620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cementing Sociological Research GS20620 20
Genders and Sexualities GS20220 20
Graduate Career and Professional Development CD20220 20
Sociological Research in the 'Field' GS21220 20
Sociological Theory GS25020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advertising FM21920 20
Lleoli Gwleidyddiaeth DA23020 20
Placing Politics GS23020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Work Placement GSS0260 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Everyday Social Worlds GS33320 20
Traethawd Estynedig Cymdeithaseg DA31240 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cenedlaetholdeb a chymdeithas DA32220 20
Gender and the Media FM38320 20
Memory Cultures: heritage, identity and power GS37920 20
Modern British Landscapes GS36220 20
Nation, Society, & Space GS33520 20
The Global Countryside: Geographical and Sociological Perspectives GS36820 20
The psychosocial century GS30020 20
Urban Risk and Environmental Resilience GS37520 20

Gyrfaoedd

Mae astudio Cymdeithaseg yn sylfaen gadarn ar gyfer ystod eang o yrfaoedd gan gynnwys y cyfryngau, gwaith cymdeithasol, datblygiad rhyngwladol, cyswllt cymunedol, a'r gwasanaeth sifil ymhlith llawer mwy. Y dyddiau hyn, mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion a chanddynt sgiliau amrywiol, yn cynnwys y gallu i feddwl yn ddadansoddol ac yn ddargyfeiriol. Bydd y radd hon yn rhoi ichi amrywiaeth o sgiliau hyblyg, a dyna pam mae graddedigion Cymdeithaseg yn apelio at gyflogwyr yn genedlaethol. 

Mae graddedigion wedi symud ymlaen i: 

  • Troseddeg, yr Heddlu; 
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol; 
  • Gwaith cymdeithasol; 
  • Polisi Cymdeithasol (gan gynnwys tai cyhoeddus, gwaith cymdeithasol, gweinyddiaeth llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol); 
  • Rheolaeth; 
  • Newyddiaduraeth; 
  • Cysylltiadau Cyhoeddus; 
  • Dysgu; 
  • ⁠Ymchwil.

Profiad Gwaith / Blwyddyn mewn Diwydiant 

Cynhelir eich Blwyddyn mewn Diwydiant rhwng eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf o astudio. Gall eich lleoliad gwaith dewisol fod yn gyflogedig neu’n ddi-dâl, ond fe'ch cefnogir i chwilio am waith gan ein staff yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a Gyrfaoedd a Chymorth i Fyfyrwyr.

Cyfleoedd Rhyngwladol 

Mae'r Adran hefyd wedi sefydlu Rhaglenni Cyfleoedd Byd-eang gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi profiad unigryw i fyfyrwyr o astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall myfyrwyr fynd i gwblhau eu hail flwyddyn astudio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein cydlynydd Cyfnewid wedi goruchwylio lleoliadau ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.

Dysgu ac Addysgu

Yn ystod blwyddyn gyntaf eich cwrs, cewch eich cyflwyno i brif gysyniadau, themâu a safbwyntiau Cymdeithaseg sy'n cynnwys: 

  • Cysyniadau allweddol a dulliau damcaniaethol sydd wedi datblygu, ac sy’n parhau i ddatblygu o fewn Cymdeithaseg; 
  • Y berthynas rhwng unigolion, grwpiau a strwythurau cymdeithasol; 
  • Amrywioldeb ac anghydraddoldebau cymdeithasol; 
  • Rôl prosesau a drefnir yn ddiwylliannol mewn bywyd; 
  • Prosesau sy'n sail i newid cymdeithasol; 
  • Cymeriad nodedig Cymdeithaseg mewn perthynas â ffurfiau eraill o ddealltwriaeth, megis ei pherthynas â disgyblaethau eraill ac ag esboniadau bob dydd; 
  • Y berthynas rhwng dadansoddi tystiolaeth a dadleuon cymdeithasegol; 

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar eich lleoliad gwaith mewn diwydiant.

Yn ystod yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf, bydd yr addysgu yn ystyried: 

  • Modiwlau gwybodaeth a dealltwriaeth graidd i ddatblygu eich medrau o ran modiwlau eich blwyddyn gyntaf; 
  • Amrywiaeth o ffynonellau data ansoddol, meintiol a digidol, strategaethau ymchwil a dulliau casglu a dadansoddi data; 
  • Pwysigrwydd materion moesegol wrth gasglu, dadansoddi a dadlau pob math o ddata cymdeithasegol; 
  • Dosbarthiadau ymarferol ac ymarferion gwaith maes.

Yn ystod y cwrs hwn, cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol a gwaith maes. Bydd eich asesiadau'n dibynnu ar y modiwlau yr ydych chi’n eu dewis, ond efallai y cewch eich asesu drwy gyfrwng y canlynol: Arholiadau; Dosbarthiadau ymarferol; Gwaith maes; Gwaith cwrs; Traethawd hir.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|