BEng

Peirianneg Meddalwedd (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Peirianneg Meddalwedd (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod G600 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r cwrs Peirianneg Meddalwedd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i achredu gan y Sefydliad Siartredig Technoleg Gwybodaeth (BCS) ac mae'n ymwneud â chynhyrchu systemau meddalwedd mawr, o ansawdd uchel, sydd yn aml yn hirhoedlog.

Mewn cwrs fydd yn gwella'ch gyrfa, mae'r gwaith yn y maes hwn yn gofyn nid yn unig am ddealltwriaeth ddofn o feddalwedd a thechnolegau cysylltiedig, ond hefyd dealltwriaeth o'r materion rheoli a phroffesiynol sy'n gysylltiedig â datblygu systemau mawr.

Bydd cael eich addysgu gan staff sy'n cael eu harwain gan ymchwil, mewn amgylchedd dysgu cefnogol, hefyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr a throsglwyddadwy ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Gall myfyrwyr sy'n dechrau ar y cynllun gradd hwn ac sy'n gwneud yn ddigon da gael eu trosglwyddo i'r Cynllun MEng os ydynt am gael y fantais ychwanegol o ennill cymhwyster Meistr.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio BEng Peirianneg Meddalwedd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Rhaglennu mewn nifer o ieithoedd gwahanol gyda phwyslais ar gynhyrchu cod sefydlog a diogel sy'n seiliedig ar egwyddorion dylunio a datblygu cadarn
  • Datblygu meddalwedd ar raddfa fawr
  • Technolegau telathrebu a systemau gwasgaredig
  • Systemau rheolaeth cronfeydd data a thrin data'n ddiogel
  • Materion rheoli a phroffesiynol ym maes peirianneg meddalwedd
Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algorithm Design and Data Structures CS21120 20
C and C++ CS23820 20
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Peirianneg Meddalwedd CC22120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Artificial Intelligence CS26520 20
Python Gwyddonol CC24520 20
Robotics and Embedded Systems CS26020 20
Scientific Python CS24520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sandwich Year CSS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Hir CC39440 40
Mobile Development with Android CS31620 20
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20
Agile Development and Testing CS31310 10

Gyrfaoedd

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:

  • dylunio meddalwedd
  • cyfathrebu a rhwydweithio
  • rhaglenni cyfrifiadurol
  • datblygu'r we
  • rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
  • dadansoddi a datblygu systemau
  • gwerthu a marchnata cyfrifiaduron
  • addysg

Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?

Sgiliau cyflogadwyedd yw gwerthoedd craidd ein gradd.

Fel rhan o'ch gradd, bydd angen i chi gymryd rhan mewn penwythnos preswyl yn y flwyddyn gyntaf lle y byddwch chi a myfyrwyr eraill yn gweithio mewn timau i ddatrys problemau.

Bydd y gweithgaredd hwn yn annog ac yn gwella'r canlynol:

  • sgiliau cyfathrebu
  • sgiliau dadansoddol
  • rheoli amser
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu
  • sgiliau gweithredu
  • sgiliau ymchwil
  • sgiliau technegol

Mae cyfle gan fyfyrwyr sy'n gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant i ymuno â phenwythnos preswyl ail flwyddyn sy'n canolbwyntio ar sgiliau i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith gwych. Mae hyn yn cynnwys:

  • sgiliau CV
  • ymarfer ar gyfer cyfweliad
  • rhwydweithio gyda chyflogwyr
  • presenoldeb ar-lein 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • rhaglennu
  • isadeiledd cyfrifiaduron
  • datblygu'r we
  • problemau ac atebion

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • C/C ++
  • cronfeydd data
  • cylch oes datblygu meddalwedd (Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i gymryd rôl sy'n bodoli yn y diwydiant hy rheolwr prosiect, dylunydd ac ati, a bydd gofyn i chi gynhyrchu darn o feddalwedd sy'n gweithio, gan ddilyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant ar bob cam.)
  • strwythurau data ac algorithmau
  • modiwlau dewisol cyffrous eraill

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch lleoliad gwaith, gyda chymorth yr adran. Erbyn diwedd y lleoliad hwn, bydd gennych yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud cyfraniad sylweddol yn y gweithle, a byddwch hefyd yn dychwelyd i'r Brifysgol gydag ymdeimlad cryfach o gymhelliant.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • astudio technolegau, technegau a phrosesau datblygu ar gyfer adeiladu meddalwedd gweithredol go iawn
  • prosiect unigol, lle byddwch yn datblygu darn o feddalwedd mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi
  • astudio amrywiaeth o bynciau dewisol pellach i arbenigo mewn meysydd o'ch dewis.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Bydd ein staff brwdfrydig yn eich addysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, ymarferion a gwaith prosiect unigol/grŵp.
  • Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, ymarferion, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Dw i wrth fy modd fy mod i'n dysgu'r arferion a'r methodolegau gorau, sef pethau sy'n fy mharatoi i weithio yn fy rôl ddelfrydol fel peiriannydd meddalwedd, ac sy'n gallu cael eu cymhwyso'n uniongyrchol i hynny. Mae cael cyfle i roi cynnig ar beth rydw i wedi'i ddysgu wrth wneud blwyddyn mewn diwydiant wedi bod yn hollol anhygoel, ac wedi profi faint dw i wedi'i ddysgu ers bod yn Aberystwyth! Christopher Michael King

Mae Peirianneg Meddalwedd yn wych! Mae llawer o bobl anhygoel i ddysgu ganddyn nhw, i fod yn ffrindiau gyda nhw ac i weithio gyda nhw. Mae'r adran yn eich helpu gyda phopeth, o aseiniadau i brosiectau personol; a byddan nhw hyd yn oed yn eich helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith am flwyddyn ac i ysgrifennu'r CV perffaith hollbwysig yna. Will Molyneux

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|