BA

Sbaeneg / Drama a Theatr

BA Sbaeneg / Drama a Theatr Cod RW44 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Os ydych chi’n chwilio am raglen gyffrous, amrywiol a heriol sy’n cyfuno astudio iaith a diwylliant Sbaeneg â chyfuniad o ddamcaniaeth ac ymarfer astudiaethau Drama a Theatr, mae’r radd hon yn ddelfrydol i chi. Mae astudiaethau Sbaeneg/Drama a Theatr wedi’u cynllunio i’ch ymrymuso i ddatblygu eich sgiliau a’ch galluoedd fel gwneuthurwr theatr a meddyliwr creadigol gyda’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog yn Sbaeneg, gyda chefnogaeth staff a gydnabyddir yn rhyngwladol gydag ystod eang o arbenigedd. Yn ystod eich gradd pedair blynedd, cewch gyfle i astudio neu weithio dramor yn unrhyw un o’r gwledydd sy’n siarad Sbaeneg ledled y byd. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Sbaeneg/ Astudiaethau Drama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Fel myfyriwr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu byddwch yn ymuno ag adran fywiog a chreadigol lle mae drama a theatr, ffilm a'r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn gwrthdaro. Mae elfen Drama a Theatr y radd hon yn un heriol a chreadigol lle byddwch yn agored i gyfuniad unigryw o ddulliau creadigol a beirniadol. Rydym hefyd yn cynnig modiwlau amrywiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch ar dab y modiwl am fwy o wybodaeth. 

  • Yn yr Adran Ieithoedd Modern, cewch gyfle i astudio Sbaeneg ar lefel dechreuwr neu lefel uwch. 
  • Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch gennych ddosbarthiadau ieithyddol dwys wedi’u hamserlennu yn ystod eich blwyddyn gyntaf, lle byddwch yn canolbwyntio ar yr egwyddorion canlynol: gwrando, darllen/ysgrifennu, llafar a chyfieithu. Wedi'r flwyddyn gyntaf, byddwch yn ymuno â myfyrwyr sydd wedi dechrau’r cwrs ar lefel uwch. 
  • Os ydych yn dechrau elfen Sbaeneg y cwrs hwn ar lefel uwch, bydd hyn yn barhad o'ch datblygiad gramadegol ac ieithyddol o Safon Uwch (neu gyfwerth) hefyd yn yr egwyddorion canlynol: gwrando, darllen/ysgrifennu, llafar a chyfieithu. 
  • Bydd pob myfyriwr yn yr Adran Ieithoedd Modern yn derbyn pedair awr o ddosbarthiadau ieithyddol a gramadeg yr wythnos. Fel adran, rydym yn gymharol fach a chlos sy'n golygu y byddwch yn elwa o ddull unigryw o ddatblygu iaith. Mae pob un o'r tiwtoriaid iaith yn siaradwyr brodorol neu'n arbenigwr yn yr iaith darged berthnasol. Rydym yn adnabod ein myfyrwyr yn ôl eu henw ac nid yn ôl rhif. 
  • Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn adran greadigol lle mae myfyrwyr yn elwa o'r cysylltiadau agos â phartneriaid allweddol y diwydiant gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Music Theatre Wales a Chwmni Theatr Quarantine. Rydym hefyd o fewn tafliad carreg i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, un o'r canolfannau celfyddydau mwyaf yng nghanolbarth Cymru sy'n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd. Mae’r adran wedi’i lleoli yng nghanol campws Penglais ac mae ein cyfleusterau a'n hadnoddau eithriadol ar gyfer gwaith ymarferol yn cynnwys: tair stiwdio ymarfer, pob un â chyfleusterau technegol hyblyg; 2 stiwdio fawr ag offer proffesiynol gyda rigiau goleuadau digidol a reolir trwy gonsolau ETC Congo a Strand, PA gan Yamaha a Soundcraft, systemau clywedol Sanyo a goleuo Strand a dau NXAMP; a costume and wardrobe facilities. 
  • chyfleusterau gwisgoedd a chwpwrdd dillad. 
  • I bob myfyriwr, uchafbwynt bod yn fyfyriwr yn y Brifysgol yw'r elfen gymdeithasol. Mae gan y ddwy adran gymdeithasau bywiog sy'n cyfarfod ac yn ymgynnull yn rheolaidd. Dewch i ymweld â ni yn ystod Diwrnod Agored neu Ddiwrnod Ymweld i Ymgeiswyr i weld drosoch eich hun. 
  • Uchafbwynt y radd hon i'n holl fyfyrwyr yw'r flwyddyn dramor. Bydd gofyn i chi dreulio eich blwyddyn dramor (eich trydedd flwyddyn) yn Sbaen neu mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg. Mae rhai myfyrwyr yn dewis treulio eu hamser yn gyfartal yn astudio gyda'n prifysgolion partneriaethol yn Sbaen neu wlad sy'n siarad Sbaeneg. Mae eraill yn dewis treulio eu hamser yn ymgymryd â lleoliad profiad gwaith cyflogedig neu ddi-dâl yn y ddwy wlad. Gallwch weld beth yw eich dewisiadau drwy ymweld â’n tudalen tudalen Astudio Dramor
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Theatre in Context 1 * TP11020 20
Theatre in Context 2 * TP11320 20
Beginners Spanish 1 SP10820 20
Beginners Spanish 2 SP11020 20
Spanish Language Advanced SP19930 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Site-Specific Performance Project TP11420 20
Studio Theatre Project TP11120 20
Body, Voice, Expression. TP10220 20
Body, Voice, Perception TP10120 20
Brazilian Portuguese (Basic) EL10720 20
Introduction to European Film EL10520 20
Language, Culture, and Identity in Europe EL10820 20
Study and Research Skills in Spanish and Latin American Studies SP11120 20
Hispanic Civilization SP10610 10

Gyrfaoedd

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o’r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Ym mhob blwyddyn, bydd gennych bedair awr o waith iaith bob wythnos. 

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn: 

  • Dysgu am gyfnodau sylfaenol diwylliant Sbaen; 
  • Cael y dewis i astudio modiwlau cyffredinol ar ffilm, iaith a hunaniaeth; 
  • Dysgu am ddulliau cyfoes o greu theatr yn y stiwdio ac ar y safle; 
  • Dysgu am ddigwyddiadau hanesyddol allweddol, arferion a dulliau ym maes drama a theatr; 
  • Dadansoddiad o ddrama, theatr a pherfformiad. 

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn: 

  • Gallu dewis o blith ystod o fodiwlau cynnwys ar lenyddiaeth Sbaeneg, materion Cyfoes, Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor, Iaith Fusnes yn Sbaeneg; 
  • Ysgrifennu traethawd cyntaf yn seiliedig ar eich ymchwil annibynnol, gyda goruchwyliaeth diwtorial; 
  • Creu theatr gyfoes drwy ddulliau ymarferol, hanesyddol a damcaniaethol; 
  • Gwneud gwaith cynhyrchu ar raddfa lawn; 
  • Actio, cyfarwyddo a dramayddiaeth, dyfeisio a dylunio; 
  • Dysgu am ddatblygiad Theatr Ewropeaidd fodern; 
  • Dysgu am Shakespeare mewn perfformiadau cyfoes; 
  • Dysgu am theatr a’r gymdeithas gyfoes; 
  • Dysgu am gyfryngau newydd ac ysgrifennu perfformiadau. 

Yn ystod eich blwyddyn olaf byddwch yn: 

  • Creu gwaith creadigol annibynnol; 
  • Cynhyrchu eich traethawd ymchwil; 
  • Dysgu am ieithyddiaeth a semanteg; 
  • Dysgu am faterion cyfoes yn y gymdeithas Sbaeneg; 
  • Ymgymryd â phrosiect ymchwil mawr a chymryd rhan mewn astudiaeth ddamcaniaethol uwch; 
  • Dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill; 
  • Ehangu eich sgiliau mewn prosiectau cynhyrchu ensemble ac unigol; 
  • Datblygu eich sgiliau entrepreneuraidd wrth gynhyrchu a churadu digwyddiadau diwylliannol; 
  • Ysgrifennu eich sgript drama eich hun. 

Sut fydda i’n cael fy nysgu? 

Cewch eich dysgu trwy gyfrwng gweithdai ymarferol, seminarau i grwpiau bach, darlithoedd, prosiectau cynhyrchu a gwaith prosiect grŵp. 

Mae ein haddysgu yn aml ar ffurf dull cymysg, yn dadansoddi damcaniaeth trwy ymchwil ymarferol ac ymarfer trwy lens gwahanol safbwyntiau damcaniaethol. 

Cewch eich asesu drwy gyfrwng traethodau ffurfiol a thraethodau a perfformiedig, arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, portffolios beirniadol a chreadigol, cynyrchiadau ymarferol, cyflwyniadau seminar a gweithgareddau grŵp. 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer trwy gydol eich cynllun gradd, a fydd yn eich helpu ag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â nhw ar unrhyw adeg am gymorth a chyngor. 

Dysgu ac Addysgu

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ar draws ein haddysgu yn yr Adran Ieithoedd Modern a’r Adran Theatr, Ffilm a Theledu. Mae ein graddedigion yn fwy nodedig nag eraill o ganlyniad i’r Flwyddyn Dramor. Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Dramor yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn dychwelyd gyda set o sgiliau cynyddol, cymwyseddau iaith cryfach a'r gallu i addasu mewn unrhyw sefyllfa.  

Beth alla i ei wneud gyda gradd Sbaeneg/ Astudiaethau Drama a Theatr? 

Mae llawer o'n myfyrwyr wedi llwyddo i gael gwaith yn y meysydd hyn; 

  • Actio a Pherfformio; 
  • Cyfarwyddo; 
  • Cyfieithu a Dehongli; 
  • Addysg; 
  • Dylunio; 
  • Ysgrifennu sgriptiau; 
  • Dysgu ac addysg 
  • Gweinyddiaeth y celfyddydau; 
  • Marchnata; 
  • Bancio Rhyngwladol; 
  • Rheolaeth; 
  • Cysylltiadau Cyhoeddus. 

Sgiliau Trosglwyddadwy  

Yn ogystal â sgiliau a gwybodaeth pwnc-benodol, bydd astudio ar gyfer gradd mewn Sbaeneg ac Astudiaethau  Drama a Theatr yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Sgiliau cyfathrebu; 
  • Sgiliau trin pobl; 
  • Cymhwysedd rhyngddiwylliannol; 
  • Y gallu i ddysgu ieithoedd eraill yn gymharol rhwydd; 
  • Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith; 
  • Gwell sgiliau iaith yn eich mamiaith; 
  • Y gallu i weithio’n annibynnol; 
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser; 
  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar; 
  • Hunanddibyniaeth a’r gallu i ysgogi eich hun; 
  • Gweithio mewn tîm a’r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol  dod i gytundeb 
  • Y gallu i gymhwyso doniau creadigol, llawn dychymyg a’r gallu i ddatrys problemau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd; 
  • Y gallu i ymchwilio, cloriannu a threfnu gwybodaeth; 
  • Y gallu i strwythuro a chyfleu syniadau’n effeithiol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a chan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau; 
  • Y gallu i wrando a defnyddio cyngor beirniadol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|