BA

Sbaeneg ac Astudiaethau America Ladin

BA Sbaeneg ac Astudiaethau America Ladin Cod R401 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Sbaeneg ac Astudiaethau

America Ladin 

BA (Anrh)

Cynlluniwyd y cynllun gradd pedair blynedd hwn i roi gwybodaeth ymarferol drylwyr ichi o’r Sbaeneg a bydd yn rhoi’r gallu ichi fyfyrio ar lenyddiaeth hanesyddol a chyfoes, cymdeithas, sinema, cyfieithu a gwleidyddiaeth yn Sbaen ac America Ladin. Does dim angen sgiliau blaenorol yn Sbaeneg gan y gallwch ymuno ar lefel dechreuwr, a gweithio tuag at lefel uchel o ruglder.


Trosolwg o'r Cwrs

Ceir dau lwybr ar y radd hon yn y flwyddyn gyntaf yn unig. Bydd dechreuwyr (heb Sbaeneg Safon Uwch neu gyfatebol) yn astudio modiwlau iaith dwys yn y flwyddyn gyntaf. Bydd yr holl fyfyrwyr yn dilyn modiwl a fydd yn eu cyflwyno i sgiliau hanfodol astudiaethau Hisbaenaidd, yn ogystal â modiwl iaith Portiwgaleg. Bydd dechreuwyr (heb Sbaeneg Safon Uwch neu gyfatebol) yn astudio cwrs iaith dwys, tra bydd myfyrwyr uwch yn astudio modiwl iaith ynghyd â chyflwyniad cyffredinol i wareiddiad a diwylliant Hisbaenaidd.

Eich blwyddyn dramor

Dyma’r uchafbwynt i bob myfyriwr, a bydd yn un o’r profiadau mwyaf cofiadwy a gewch yn eich bywyd. Cewch astudio yn un o’n prifysgolion partner neu mewn ysgol iaith breifat, gweithio fel Cynorthwyydd dysgu Saesneg gyda’r Cyngor Brydeinig, neu fynd ar leoliad profiad gwaith mewn gwlad Sbaeneg ei hiaith o’ch dewis chi.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i Sbaeneg ac Astudiaethau America Ladin yn Aberystwyth:

  • cyfran helaeth o’r addysgu trwy’r Sbaeneg, mewn grwpiau lled fach
  • cyrsiau sy’n datblygu sgiliau myfyrio’n ddeallusol ar wahanol agweddau ar fywyd a diwylliant Sbaenaidd
  • cyfle i weithio gydag academyddion blaenllaw ar eich dewis bwnc ar gyfer traethawd estynedig y flwyddyn olaf.


Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beginners Spanish 1 SP10820 20
Beginners Spanish 2 SP11020 20
Brazilian Portuguese (Basic) EL10720 20
Hispanic Civilization SP10610 10
Spanish Language Advanced SP19930 30
Study and Research Skills in Spanish and Latin American Studies SP11120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Academic Writing: Planning, Process and Product IC17720 20
Introduction to European Film EL10520 20
Language, Culture, and Identity in Europe EL10820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Brazilian / Portuguese Language II EL20720 20
Research Project SP22220 20
Spanish Language SP20130 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cuban Cinema of the Revolution: Crisis, National Identity and the Critique of Contemporary Society SP27020 20
Language of Business and Current Affairs 1 SP20310 10
Seeing Spain Through Cinema SP25020 20
Spanish American Cinema SP26120 20
The Spanish Avant-Garde SP20010 10

Gyrfaoedd

Mae graddedigion Ieithoedd Modern yn cael gwaith mewn amrywiaeth fawr o feysydd, gan gynnwys dysgu ac academia, newyddiaduraeth a’r cyfryngau, diwylliant a threftadaeth a’r gwasanaeth sifil. Mae’r cwrs hefyd yn rhoi sylfaen ardderchog ar gyfer astudio ar lefel uwchraddedig.


Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau craidd y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn:

Y flwyddyn gyntaf:

  • Beginners Spanish 1 & 2
  • Brazilian Portuguese
  • Seeing Spain through Cinema
  • Cuban Revolutions
  • Hispanic Civilization
  • Spanish Language Advanced
  • Study and Research Skills in Spanish and Latin American Studies.

Yr ail flwyddyn:

  • Brazilian Portuguese Language II
  • Research Project
  • Spanish Language.

Y drydedd flwyddyn:

  • Year Abroad Assessment.

Y flwyddyn olaf

  • Spanish Language
  • Dissertation (Anrhydedd sengl)
  • Brazilian Portuguese Language III.

Dyma rai o’r modiwlau dewisol y gallwch eu hastudio i ddatblygu eich diddordebau arbenigol:

  • Introduction to European Film
  • Language, Culture, and Identity in Europe
  • Spanish American Cinema
  • The Spanish Avant-garde
  • Language of Business and Current Affairs
  • Cuban Cinema of the Revolution
  • Reading Late 19th Century Literature.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|