BA

Sbaeneg ac Astudiaethau America Ladin

BA Sbaeneg ac Astudiaethau America Ladin Cod R401 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Mae'r BA Sbaeneg ac Astudiaethau America Ladin a gynigir gan ein Hadran Ieithoedd Modern yn gynllun gradd pedair blynedd a gynlluniwyd i roi gwybodaeth ymarferol drylwyr i chi o'r iaith Sbaeneg. Bydd y radd yn rhoi i chi'r gallu angenrheidiol i fyfyrio ar lenyddiaeth glasurol a chyfoes, y gymdeithas, y sinema, cyfieithu a gwleidyddiaeth, yn Sbaen ac America Ladin fel ei gilydd. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn dramor, naill ai yn Sbaen neu America Ladin, lle y bydd nifer o ddewisiadau ar gael i chi, naill ai'n astudio neu'n ennill profiad gwaith gwerthfawr. Mae dau lwybr i'r radd hon yn y flwyddyn gyntaf yn unig: un i'r myfyrwyr sydd â Safon Uwch (neu gyfwerth) yn Sbaeneg, a'r llall i'r rhai nad oes ganddynt ond ychydig neu ddim gwybodaeth o'r iaith, drwy'r llwybr i Ddechreuwyr. Dewch i ymuno â ni ym Mhrifysgol Aberystwyth! 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio BA Sbaeneg ac Astudiaethau America Ladin ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Mae'r Adran Ieithoedd Modern yn adran glos sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr. Rydym yn adnabod pob un o'n myfyrwyr wrth eu henwau a chaiff ymdeimlad gwirioneddol o gymuned ei feithrin lle mae darlithwyr a thiwtoriaid bob amser wrth law i arwain y myfyrwyr trwy eu hastudiaethau. 
  • Mae pob myfyriwr yn ein hadran yn ffynnu yn ein hamgylchedd amlieithog. Rydym yn addysgu'r rhan fwyaf o'n modiwlau a'n dosbarthiadau drwy'r iaith darged, mae llawer o'n staff addysgu yn siaradwyr brodorol ac mae pob un ohonynt yn arbenigwyr yn eu priod ieithoedd. 
  • Os ydych chi'n ddechreuwr yn yr iaith Sbaeneg, peidiwch â phoeni, cewch eich dysgu ar ein cwrs Iaith Sbaeneg i Ddechreuwyr ac yn eich blwyddyn gyntaf, bydd eich sgiliau iaith yn datblygu'n gyflym ac yna byddwch yn ymuno â'r myfyrwyr Uwch yn yr ail flwyddyn. 
  • Os ydych yn dechrau ar y cwrs hwn gyda gradd Safon Uwch (neu gyfwerth) mewn Sbaeneg, byddwch yn parhau i ddatblygu eich cymwyseddau ieithyddol ond ar yr un pryd yn cael eich cofrestru ar y cwrs Gwareiddiad Sbaenaidd lle byddwch yn dechrau ar eich taith drwy ddiwylliant, llenyddiaeth, ffilm a gwleidyddiaeth Sbaen ac America Ladin. 
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i astudio Portwgeeg Brasil i wella eich cyfleoedd am waith ymhellach. 
  • Bydd ein cwrs arloesol 'Sgiliau Astudio ac Ymchwil' yn y flwyddyn gyntaf yn rhoi'r sgiliau mwyaf datblygedig sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich gradd yn llwyddiannus. 
  • Tref fach a chanddi galon fawr ac agwedd gosmopolitaidd yw Aberystwyth. Rydyn ni’n Brifysgol fywiog a chyfeillgar sy’n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd, ac oherwydd yr awyrgylch glos mae’n lle gwych i ddod i nabod pobl, sy’n golygu y dewch o hyd i fyfyrwyr sy’n siarad Sbaeneg yn hawdd er mwyn gallu ymarfer eich Sbaeneg â nhw.  
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Mewn byd cystadleuol, lle mae disgwyliadau o'r farchnad agored yn cynyddu'n gyflym, bydd astudio'r drydedd iaith a siaredir fwyaf yn y byd yn eich rhoi mewn sefyllfa fanteisiol. Yn ogystal, byddwch yn astudio Portwgeeg Brasil i wella eich cyfleoedd am waith ymhellach. Bydd eich trydedd flwyddyn yn cael ei threulio dramor naill ai'n astudio mewn prifysgol bartner neu'n gweithio. Dangosodd arolwg Effaith Erasmus diweddar fod 64% o gyflogwyr o'r farn bod profiad rhyngwladol yn bwysig ar gyfer recriwtio ac y byddai astudio neu weithio dramor yn cynyddu eich siawns o ddod o hyd i waith 41% o'i gymharu â myfyrwyr nad ydynt yn astudio neu'n gweithio dramor. 

Mae graddedigion o'r Adran Ieithoedd Modern wedi dilyn gyrfaoedd mewn: 

  • cyfieithu a dehongli 
  • darlledu 
  • addysg 
  • marchnata 
  • Adnoddau Dynol 
  • datblygu gwefannau 
  • bancio rhyngwladol 
  • y Gwasanaeth Sifil 

Dysgu ac Addysgu

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr o waith iaith bob wythnos, a fydd yn cynnwys: 

  • siarad 
  • ysgrifennu 
  • gwrando 
  • cyfieithu. 

Yn ogystal, byddwch yn cael yr holl adnoddau angenrheidiol i barhau â'ch dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gennym ddetholiad eang o ddeunyddiau ar gael drwy'r system ddysgu ryngweithiol i fyfyrwyr (Blackboard) lle gallwch ddefnyddio’r adnoddau dysgu diweddaraf ble bynnag yr ydych ar unrhyw adeg. Mae ystod eang o arbenigedd ar gael yn ein Hadran a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y dewisiadau modiwl a gynigiwn. 

Ar y cwrs hwn, gallwch ddewis astudio: 

  • llenyddiaeth Sbaeneg 
  • Ffilmiau Sbaeneg 
  • Ffilmiau America Ladin 
  • Ciwba a Chwyldro Ciwba 
  • Portwgeeg Brasil 
  • Sbaeneg ar gyfer Busnes 
  • Sbaen Gyfoes. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Cewch eich addysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau a gweithdai iaith gan ddefnyddio ein labordai o'r radd flaenaf. Addysgir y rhan fwyaf o'n cyrsiau trwy gyfrwng yr iaith darged (iaith a chynnwys). 

Cewch eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan ddibynnu ar y modiwlau, fel arfer trwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. 

Caiff eich cynnydd ei ddatblygu'n barhaus trwy ymgynghoriadau tiwtorial a thrwy'r Portffolios Datblygiad Personol a Chyflogaeth y byddwch yn eu cynhyrchu yn ystod eich astudiaethau. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|