Ar gradd BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff byddwch yn elwa yn sgil arbenigedd ein gwyddonwyr chwaraeon ac ymarfer corff, sydd wedi gweithio â nifer o sefydliadau, timau ac athletwyr unigol, gan gynnwys y rheini sydd wedi llwyddo ar lefel uchel. O dan eu harweiniad hwy, byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol eich hun yn ein labordai penodol ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff.
Byddwch yn astudio sylfeini seicolegol, ffisiolegol a biomecanyddol chwaraeon ac ymarfer corff, ac yn datblygu dealltwriaeth o sut mae'r rhain yn bwysig wrth optimeiddio trefn hyfforddi cystadleuwyr chwaraeon a’r rhai sy’n cymryd rhan mewn ymarfer corff.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth wyddonol o’r modd y mae’r corff dynol yn symud, yn ymarfer ac yn perfformio chwaraeon, a gwerthfawrogiad o’r modd y gall gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff wella iechyd a gweithrediad y corff dynol, atal afiechyd ac anafiadau, neu wella perfformiad athletaidd.
Ar ôl graddio, byddwch yn fwy na pharod i gefnogi athletwyr, hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac iechyd, a chyflwyno rhaglenni ymarfer corff.
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gymeradwyo gan y Gymdeithas Siartredig Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff (CASES), y corff proffesiynol ar gyfer gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff yn y DU. Gallwch ddarllen am fanteision dewis cwrs gradd wedi'i gymeradwyo gan CASES ar wefan CASES.
Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol hefyd.
Trosolwg o'r Cwrs
Pam astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae ein cwrs gradd yn canolbwyntio ar wneud dadansoddiadau gwyddonol o sut mae'r corff dynol yn symud, yn ymarfer ac yn gwneud chwaraeon.
Cewch gyfle i archwilio gwyddorau biomecaneg, ffisioleg a seicoleg.
Byddwch yn dysgu sut i wneud i athletwr neu dîm unigol berfformio ar eu gorau.
Bydd ein gradd yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o'r ffyrdd y gallwn wella iechyd a lles cyffredinol drwy ymarfer corff.
Bydd gennych fynediad i labordai o safon diwydiant gydag offer modern ar gyfer dadansoddiad ffisiolegol, biomecanyddol a seicolegol o berfformiad chwaraeon a chyfranogiad mewn ymarfer corff.
Bydd gennych fynediad parod i ystod eang o chwaraeon a chyfleusterau, gan gynnwys ein Canolfan Chwaraeon ein hunain ar y campws, yn ogystal â chyfleusterau a ddarperir yn naturiol megis y traciau beicio mynydd enwog gerllaw ym Mwlch Nant yr Arian, ein traethau, ein bryniau a'n mynyddoedd rhagorol.
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau Dechrau medi - 2026
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae rhai o’n cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudiaeth bellach a gyrfaoedd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu yn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae eraill wedi mynd ymlaen i weithio fel gwyddonwyr chwaraeon ac ymarfer corff i glybiau chwaraeon proffesiynol (clybiau pêl-droed Bournemouth a Coventry City, clwb rygbi Scarlets Llanelli), ac mae nifer cynyddol yn sefydlu eu busnesau eu hunain.
Pa sgiliau bydda i'n eu meithrin o'm gradd?
Yn ystod eich gradd, byddwch yn datblygu llawer o sgiliau graddedig mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi:
Sgiliau cyfathrebu a ddatblygir drwy gyflwyniadau llafar ac ysgrifennu
Gwaith tîm a'r gallu i weithio'n annibynnol
Sgiliau dadansoddol
Sgiliau mathemategol
Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
Sgiliau technoleg gwybodaeth
Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Mae pob modiwl y byddwch yn ei astudio fel rhan o'r radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi'u datblygu i gyfrannu at ddeilliannau dysgu'r radd. Bydd pob modiwl yn cyfrannu at ddeilliannau dysgu penodol a byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau uwch wrth i chi ddatblygu. Yn ystod y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ddewis modiwlau penodol sydd agosaf at eich maes diddordeb, a chwblhau traethawd ymchwil ar bwnc o'ch dewis.
Amser cyswllt a hunan-astudio
Cewch eich addysgu drwy gyfres o ddarlithoedd a seminarau gan ein staff bywiog a phrofiadol, ond hefyd drwy brosiectau, gweithdai, sesiynau datrys problemau a thiwtorialau sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Mae dosbarthiadau yn y labordy yn rhan sylweddol o'r cwrs a byddwch yn dod yn fedrus wrth ddefnyddio offer gwyddonol ar gyfer cynnal profion ffitrwydd a dadansoddi symudiad soffistigedig. Caiff pob modiwl ei ategu gan adnoddau electronig i'ch helpu i astudio y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Asesu
Mae'r asesiadau yn seiliedig ar gyfuniad o draethodau, gwaith cwrs, adroddiadau labordy, cwisiau, astudiaethau achos, portffolios, posteri, cyflwyniadau ac arholiadau.
Tystiolaeth Myfyrwyr
Cwrs pleserus a heriol iawn. Aelodau gwych o staff sy'n hawdd mynd atyn nhw bob amser, ac mae'r aseiniadau'n benodol i'r hyn rydyn ni'n ei wneud ym mhob modiwl. Mae'r offer a'r labordai yn gyfoes ac mae llawer o gyfleoedd ychwanegol yn deillio o wneud y cwrs yma na fyddech chi'n eu cael ar gynlluniau gradd eraill, fel cyrsiau cymorth cyntaf am ddim. Aaron James Francis Cross
Mae'r rhaglen Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r cyfle gorau posib i fyfyrwyr ddatblygu gyrfa mewn chwaraeon proffesiynol yn y dyfodol. Mae'r rhaglen yn cynnig addysg gref, ac yn cyfuno'r wybodaeth wyddonol orau â sefyllfaoedd ymarferol. Rwy'n hoffi'r cyfleusterau sydd gan yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae ganddyn nhw wahanol labordai, fel: ffisioleg, seicoleg, biomecaneg a dulliau ymchwil. Mae gennych gyfle gwych i astudio symudiad dynol a deinameg y cyhyrau yn ogystal â gweithio gyda gwyddonwyr ymarfer corff. Fe wnes i fwynhau fy semester cyntaf yn ystod fy nghwrs israddedig; fe wnes i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy fel: cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig, gweithio mewn tîm, datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Rostislav Revako
Mae'r cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn un diddorol iawn, ac rydych chi'n cael eich profi'n gyson mewn ffyrdd difyr. Mae'r staff yn anhygoel ac maen nhw bob amser yn barod i rannu eu harbenigedd a'ch helpu mewn unrhyw ffordd y gallan nhw. Mae'r cwrs yn cwmpasu ffisioleg, seicoleg a biomecaneg. Mae hyn yn fantais enfawr gan fod rhywbeth sydd o ddiddordeb i bawb, ac mae'n cadw'r cwrs yn ffres ac yn ddiddorol. Mae'r ystod eang o asesiadau hefyd yn beth da, mae'n golygu y gallwch wneud yn dda beth bynnag yw'ch cryfderau, o arholiadau a thraethodau i waith grŵp fel posteri a chyflwyniadau fideo. Ar y cyfan, mae'n gwrs llawn hwyl. Ryan Edward Roscoe