Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Wrth ddewis astudio gradd BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn profi rhaglen gradd sydd wedi'i chynllunio i fod yn rhyngddisgyblaethol ac yn amlddisgyblaethol ei natur. Drwy gyfuno disgyblaethau fel Ffisioleg, Seicoleg a Biomecaneg, mae'r radd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn rhoi'r cymwyseddau, yr wybodaeth a'r sgiliau cymhwysol i chi a fydd yn sylfaen ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae'r radd yn eich paratoi i gefnogi athletwyr, i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac iechyd, ac i ddarparu rhaglenni ymarfer corff yn ogystal â datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd, ymchwilio, dadansoddi data, a'ch sgiliau personol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
96% o’n myfyrwyr C600 Gwyddor Chwaraeon wedi cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda. (ACF 2019)
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae ein cwrs gradd yn canolbwyntio ar wneud dadansoddiadau gwyddonol o sut mae'r corff dynol yn symud, yn ymarfer ac yn gwneud chwaraeon.
Cewch gyfle i archwilio gwyddorau biomecaneg, ffisioleg a seicoleg.
Byddwch yn dysgu sut i wneud i athletwr neu dîm unigol berfformio ar eu gorau.
Bydd ein gradd yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o'r ffyrdd y gallwn wella iechyd a lles cyffredinol drwy ymarfer corff.
Byddwch yn gallu dysgu drwy ddefnyddio cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf, sydd wedi'u hachredu gan Gymdeithas Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain.
Cewch fynediad i gyfleusterau chwaraeon gwych ar y campws.
Mae amrywiaeth o gampau y mae staff a myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt, sy'n rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau mewn cynnig cymorth i athletwyr.
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae'r sgiliau a'r wybodaeth rydych yn eu dysgu wrth astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn berthnasol i amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol.
Mae ein graddedigion blaenorol wedi datblygu gyrfaoedd mewn:
Meysydd chwaraeon proffesiynol;
Hyfforddiant personol;
Cyrff Llywodraethu Campau;
Gofal iechyd;
Addysg Gorfforol;
Y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Pa sgiliau bydda i'n eu meithrin o'm gradd?
Yn ystod eich gradd, byddwch yn datblygu llawer o sgiliau graddedig mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi:
Sgiliau cyfathrebu a ddatblygir drwy gyflwyniadau llafar ac ysgrifennu;
Gwaith tîm a'r gallu i weithio'n annibynnol;
Sgiliau dadansoddol;
Sgiliau mathemategol;
Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
Sgiliau technoleg gwybodaeth;
Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Deilliannau dysgu
Mae pob modiwl y byddwch yn ei astudio fel rhan o'r radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi'u datblygu i gyfrannu at ddeilliannau dysgu'r radd. Bydd pob modiwl yn cyfrannu at ddeilliannau dysgu penodol a byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau uwch wrth i chi ddatblygu. Yn ystod y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ddewis modiwlau penodol sydd agosaf at eich maes diddordeb, a chwblhau traethawd ymchwil ar bwnc o'ch dewis.
Amser cyswllt a hunan-astudio
Cewch eich addysgu drwy gyfres o ddarlithoedd a seminarau gan ein staff bywiog a phrofiadol, ond hefyd drwy brosiectau, gweithdai, sesiynau datrys problemau a thiwtorialau sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Mae dosbarthiadau yn y labordy yn rhan sylweddol o'r cwrs a byddwch yn dod yn fedrus wrth ddefnyddio offer gwyddonol ar gyfer cynnal profion ffitrwydd a dadansoddi symudiad soffistigedig. Caiff pob modiwl ei ategu gan adnoddau electronig i'ch helpu i astudio y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Mae'r asesiadau yn seiliedig ar gyfuniad o draethodau, gwaith cwrs, adroddiadau labordy, cwisiau, astudiaethau achos, portffolios, posteri, cyflwyniadau ac arholiadau.
Barn ein Myfyrwyr
Cwrs pleserus a heriol iawn. Aelodau gwych o staff sy'n hawdd mynd atyn nhw bob amser, ac mae'r aseiniadau'n benodol i'r hyn rydyn ni'n ei wneud ym mhob modiwl. Mae'r offer a'r labordai yn gyfoes ac mae llawer o gyfleoedd ychwanegol yn deillio o wneud y cwrs yma na fyddech chi'n eu cael ar gynlluniau gradd eraill, fel cyrsiau cymorth cyntaf am ddim. Aaron James Francis Cross
Mae'r rhaglen Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r cyfle gorau posib i fyfyrwyr ddatblygu gyrfa mewn chwaraeon proffesiynol yn y dyfodol. Mae'r rhaglen yn cynnig addysg gref, ac yn cyfuno'r wybodaeth wyddonol orau â sefyllfaoedd ymarferol. Rwy'n hoffi'r cyfleusterau sydd gan yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae ganddyn nhw wahanol labordai, fel: ffisioleg, seicoleg, biomecaneg a dulliau ymchwil. Mae gennych gyfle gwych i astudio symudiad dynol a deinameg y cyhyrau yn ogystal â gweithio gyda gwyddonwyr ymarfer corff. Fe wnes i fwynhau fy semester cyntaf yn ystod fy nghwrs israddedig; fe wnes i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy fel: cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig, gweithio mewn tîm, datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Rostislav Revako
Mae'r cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn un diddorol iawn, ac rydych chi'n cael eich profi'n gyson mewn ffyrdd difyr. Mae'r staff yn anhygoel ac maen nhw bob amser yn barod i rannu eu harbenigedd a'ch helpu mewn unrhyw ffordd y gallan nhw. Mae'r cwrs yn cwmpasu ffisioleg, seicoleg a biomecaneg. Mae hyn yn fantais enfawr gan fod rhywbeth sydd o ddiddordeb i bawb, ac mae'n cadw'r cwrs yn ffres ac yn ddiddorol. Mae'r ystod eang o asesiadau hefyd yn beth da, mae'n golygu y gallwch wneud yn dda beth bynnag yw'ch cryfderau, o arholiadau a thraethodau i waith grŵp fel posteri a chyflwyniadau fideo. Ar y cyfan, mae'n gwrs llawn hwyl. Ryan Edward Roscoe