BSc

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C602 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rhowch y dechrau gorau i'ch rhagolygon gyrfa gyda'n cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff newydd gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi'r cyfle gorau i chi mewn marchnad swyddi sy'n gynyddol gystadleuol. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, byddwch wedi datblygu'r sgiliau gweithio a'r ymwybyddiaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i ardystio gan Gymdeithas Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES). Mae ein cwrs gradd yn rhyngddisgyblaethol ac yn amlddisgyblaethol ei natur. Rydym yn cyfuno disgyblaethau fel Ffisioleg, Seicoleg a Biomecaneg. Mae'r radd yn eich paratoi i gefnogi athletwyr, i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac iechyd, ac i ddarparu rhaglenni ymarfer corff yn ogystal â datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd, ymchwilio, dadansoddi data, a'ch sgiliau personol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae maes llafur y cwrs hwn gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant yn union yr un fath â'i chwaer gwrs, BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (C600). Rhaid i'ch profiad gwaith fod yn berthnasol i'r radd hon, ac asesir y flwyddyn a bydd yn cyfri tuag at eich gradd.
  • Bydd disgwyl i fyfyrwyr drefnu eu profiad gwaith o dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd. Nid oes sicrwydd y byddwch yn cael eich talu am y profiad gwaith. (Os na allwch ddod o hyd i leoliad, yna bydd rhaid i chi drosglwyddo i'r chwaer gwrs, BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff C600).
  • Yn ystod eich blwyddyn o brofiad gwaith, byddwch yn talu ffioedd dysgu gostyngol, a gellir dod o hyd i'r wybodaeth yma.
  • Astudiwch mewn Prifysgol sydd ymhlith y bump uchaf yng ngwledydd Prydain ac yn gyntaf yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr (ACF, 2017).
  • Mae ein cwrs gradd yn canolbwyntio ar wneud dadansoddiadau gwyddonol o sut mae'r corff dynol yn symud, yn ymarfer ac yn gwneud chwaraeon.
  • Cewch gyfle i archwilio gwyddorau biomecaneg, ffisioleg a seicoleg.
  • Byddwch yn dysgu sut i wneud i athletwr neu dîm unigol berfformio ar eu gorau.
  • Bydd ein gradd yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o'r ffyrdd y gallwn wella iechyd a lles cyffredinol drwy ymarfer corff.
  • Byddwch yn gallu dysgu drwy ddefnyddio cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf, sydd wedi'u hachredu gan Gymdeithas Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain.
  • Cewch fynediad i gyfleusterau chwaraeon gwych ar y campws.
  • Mae amrywiaeth o gampau y mae staff a myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt, sy'n rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau mewn cynnig cymorth i athletwyr.
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applying evidence based interventions BR21220 20
Motor Learning and Performance BR26420 20
Physical Activity for Health BR27020 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Sport & Exercise Physiology BR27420 20
Sport and Exercise Nutrition BR22520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Consultancy work BR37620 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Training and Performance Enhancement BR34420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Sports Nutrition BR30920 20
Injury and Rehabilitation BR32020 20
Technological advances in sport, exercise and health BR37420 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd gyrfa sydd ar gael i mi?

Mae'r sgiliau a'r wybodaeth rydych yn eu dysgu wrth astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn berthnasol i amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol.

Mae ein graddedigion blaenorol wedi datblygu gyrfaoedd mewn:

  • Meysydd chwaraeon proffesiynol
  • Hyfforddiant personol
  • Cyrff Llywodraethu Campau
  • Gofal iechyd
  • Addysg Gorfforol
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Eich blwyddyn mewn diwydiant:

Yn ôl adroddiad Highflyers 2016, mae 32% o swyddi gwag i raddedigion yn cael eu cymryd gan y rhai sydd wedi gweithio'n flaenorol i gwmni ar leoliad neu interniaeth. Yn ddi-os, byddwch yn magu hyder, a bydd ennill profiad yn y diwydiant yn ysgogi eich brwdfrydedd am y pwnc.

Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:

  • i gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith;
  • i wneud cysylltiadau yn y diwydiant;
  • i ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio;
  • i gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio;
  • i wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.

Dylai myfyrwyr ar y cynllun hwn nodi nad oes gan yr athrofa leoliadau awtomatig ar gyfer pob ymgeisydd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r profiad gwaith. Fodd bynnag, bydd Cydlynydd Profiad Gwaith ein hathrofa yn gallu eich cynorthwyo, yn ogystal â'n cynghorydd gyrfaoedd penodedig (James Cuffe, jpc11@aber.ac.uk). Os na fyddwch yn dod o hyd i brofiad gwaith, bydd modd i chi drosi eich cwrs yn fersiwn tair blynedd o'r pwnc yn lle.

Dysgu ac Addysgu

Deilliannau dysgu

Mae pob modiwl y byddwch yn ei astudio fel rhan o'r radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi'u datblygu i gyfrannu at ddeilliannau dysgu'r radd. Bydd pob modiwl yn cyfrannu at ddeilliannau dysgu penodol a byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau uwch wrth i chi ddatblygu. Yn ystod y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ddewis modiwlau penodol sydd agosaf at eich maes diddordeb, a chwblhau traethawd ymchwil ar bwnc o'ch dewis.

Amser cyswllt a hunan-astudio

Cewch eich addysgu drwy gyfres o ddarlithoedd, seminarau a gwaith ymarferol gan ein staff profiadol, a bydd y gweithgareddau yma'n cael eu cefnogi gan brosiectau, gweithdai, sesiynau datrys problemau a thiwtorialau sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Mae dosbarthiadau yn y labordy yn rhan sylweddol o'r cwrs a byddwch yn dod yn fedrus wrth ddefnyddio offer gwyddonol ar gyfer cynnal profion ffitrwydd a dadansoddi symudiad soffistigedig. Caiff pob modiwl ei ategu gan adnoddau electronig i'ch helpu i astudio y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Mae'r asesiadau yn seiliedig ar gyfuniad o draethodau, gwaith cwrs, adroddiadau labordy, cwisiau, astudiaethau achos, portffolios, posteri, cyflwyniadau ac arholiadau.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|