BSc

Rheoli Twristiaeth

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Twristiaeth yw un o ddiwydiannau mwyaf cyffrous ein byd, ac mae’n un o’r rhai sy’n tyfu gyflymaf hefyd. Mae’n cynnwys llawer o ddarparwyr, yn eu plith atyniadau i dwristiaid, cyrchfannau, gwestai, cwmnïau hedfan, darparwyr gweithgareddau a chwmnïau trefnu teithiau. Nôd y radd BSc Rheoli Twristiaeth yw rhoi ichi’r sgiliau academaidd a phroffesiynol i allu ymgymryd ag amrywiaeth o swyddi rheoli yn y sector.

Trosolwg o'r Cwrs

Trwy ddewis astudio’r radd BSc Rheoli Twristiaeth yn Ysgol Fusnes Aberystwyth byddwch yn archwilio datblygiad, gweithrediad ac effaith twristiaeth ddomestig a rhyngwladol. Bydd eich astudiaethau yn canolbwyntio ar y materion cyfoes sy’n wynebu’r diwydiant, gan gynnwys y newid mewn tueddiadau yn y farchnad a’r sector antur sy’n prysur dyfu, yr heriau sy’n wynebu cyrchfannau, sut i reoli twristiaeth mewn modd mwy cynaliadwy a sut i farchnata’r sector yn effeithiol gan ddefnyddio dulliau cyfoes.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Rheoli Twristiaeth yn Aberystwyth:

  • gradd wedi’i hachredu gan y Sefydliad Rheoli Twristiaeth (TMI)
  • teithiau diwrnod i gyrchfannau twristiaeth, yn dibynnu ar y modiwl a ddewisir
  • teithiau astudio estynedig, yn dibynnu ar y modiwl a ddewisir
  • gweithgareddau wythnos gyfan i gyrchfan yn y DU neu dramor.


Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Principles of Tourism Management AB19120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Adventure Tourism AB29220 20
Destination and Attraction Management * AB29120 20
International Tourism in Practice AB29320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sustainable Tourism AB39120 20
Tourism Development and Planning AB39320 20
Tourism Marketing AB39220 20

Gyrfaoedd

Mae ein cynlluniau gradd mewn Twristiaeth wedi’u hachredu gan y Sefydliad Rheoli Twristiaeth (TMI). Mae hyn yn golygu y gallwch fod yn hyderus y bydd y cwrs yn rhoi ichi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau a’r profiad a fydd yn eich paratoi’n drylwyr ar gyfer gyrfa ym maes Rheoli Twristiaeth. Mae ein graddedigion wedi dod o hyd i gyflogaeth gyda:

  • Chyfoeth Naturiol Cymru
  • Advnture Tours UK
  • Enterprise Cars
  • Marella Cruises
  • TUI
  • Click Travel
  • Sykes Holiday Cottages.


Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Principles of Tourism Management
  • Hanfodion Rheolaeth a Busnes/Fundamentals of Management and Business
  • Marchnata ac Ymarfer Cyfoes/Marketing Principles and Contemporary Practice’
  • Data Analytics
  • Understanding the Economy
  • Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid/Fundamentals of Accounting and Finance.

Yr ail flwyddyn:

  • Rheoli Cyrchfannau ac Atyniadau/Destination and Attraction Management
  • Adventure Tourism
  • International Tourism in Practice
  • Dulliau Ymchwil/Research Methods.

Y drydedd flwyddyn:

  • Sustainable Tourism
  • Tourism Development and Planning
  • Tourism Marketing
  • Traethawd Hir/Dissertation.


Tystiolaeth Myfyrwyr

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|