NQUG

Gwyddor Milfeddygaeth (BVSc)

NQUG Gwyddor Milfeddygaeth (BVSc) Cod YD105 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae’r radd Baglor Milfeddygaeth (BVSc) yn cynnig cyfle unigryw i hyfforddi mewn dau sefydliad addysgol a gwyddonol blaengar: y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol a Phrifysgol Aberystwyth.

Mae’r cwrs newydd cyffrous hwn yn cyfuno arbenigedd gwyddonol a chlinigol o’r ddau sefydliad i roi hyfforddiant milfeddygol eang i fyfyrwyr, ac fe fydd yn arbennig o atyniadol i’r rhai sy’n dymuno cael gyrfa filfeddygol yng Nghymru neu mewn meddygfeydd milfeddygol cymysg gwledig.

Côd UCAS: D105

Côd yr Athrofa: RVET R84

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth, ar y cyd â’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, yn darparu cynllun gradd BVSc Milfeddygaeth. Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth ym 1872, ac ers canrif a mwy bu’n darparu ymchwil arloesol ym meysydd Amaethyddiaeth, a Gwyddorau Anifeiliaid a Biolegol.

Y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, a sefydlwyd ym 1791, yw’r ysgol filfeddygaeth annibynnol fwyaf a’r hynaf ym Mhrydain, ac y mae’n Aelod Sefydliad o Brifysgol Llundain. Yn ôl cynghrair QS o Brifysgolion y Byd, sy’n barnu fesul pwnc, hi yw ysgol filfeddygol flaenaf y byd, 2019.

Bydd y cynllun BVSc Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, yn cynnig cyfle ichi hyfforddi mewn dau sefydliad blaenllaw.


Addysgu Ymarferol a Chlinigol

Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS)

Ymgymerir ag AHEMS yn ystod tair blynedd gyntaf y rhaglen. Mae lleoliadau AHEMS wedi’u llunio i’ch cynorthwyo i gadarnhau’r hyn a ddysgoch am hwsmonaeth anifeiliaid, i ddatblygu sgiliau trin anifeiliaid, a dysgu am ddiwydiannau anifeiliaid. Rhaid cwblhau 12 wythnos o AHEMS cyn cael mynediad i drydedd flwyddyn y cwrs. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion y byd milfeddygol yng Nghymru, bydd o leiaf 6 wythnos o’r AHEMS yn cael eu cyflawni yng Nghymru.

Efrydiau Allanol Clinigol (ClinEMS)

ClinEMS yw’r cyfnod a neilltuir i ennill profiad clinigol ymarferol ym mlynyddoedd olaf eich rhaglen filfeddygol, i ategu eich dysgu a’ch profiad clinigol. Trwy gyfrwng ClinEMS byddwch yn ennill profiad mewn amrywiaeth o sefydliadau gwahanol, clinigol a chysylltiedig â milfeddygaeth, lle byddwch yn cadarnhau’r hyn a ddysgoch am ddiagnosis a rheoli clefydau anifeiliaid, yn gwella eich sgiliau clinigol ymarferol, ac yn cael gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae sefydliadau milfeddygol yn gweithredu.

Byddwch yn ymgymryd â lleoliadau ClinEMS ym mlynyddoedd tri, pedwar a phump y rhaglen BVSc, sef cyfanswm o 26 wythnos mewn lleoliadau. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth ynglŷn â milfeddygfeydd yng Nghymru, bydd o leiaf 13 wythnos o’r ClinEMS yn cael eu cyflawni yng Nghymru.

Cylchdroeon clinigol o fewn i’r sefydliad

Yn ystod dwy flynedd olaf y cwrs, bydd eich profiad clinigol yn canolbwyntio ar:

  • arsylwi, trafod a phrofiad ymarferol o fod yn aelod o’r tîm clinigol yn ysbytai’r Coleg Milfeddygaeth, ac mewn sefydliadau clinigol y mae’r Coleg yn bartner iddynt
  • lleoliadau mewn meddygfeydd milfeddygol
  • presenoldeb mewn darlithoedd, seminarau a gweithdai
  • cwblhau prosiect ymchwil sylweddol


Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Husbandry * VE10430 30
Form and Function (Year 1) * VE11350 50
Principles of Science VE10320 20
Principles of Veterinary Practice & Evidence Based Medicine * VE10120 20

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Trefnir yr addysgu yn ‘ffrydiau’. Dychwelir at y ffrydiau hyn yn aml, gan ganolbwyntio i ddechrau ar yr anifail iach, a symud ymlaen trwy glefydau gwahanol systemau, a sut i’w harchwilio a’u trin. Bydd hefyd ffrydiau sy’n canolbwyntio ar yr wyddoniaeth sylfaenol ac effaith clefydau anifeiliaid ar iechyd y cyhoedd.

Yn y ddwy flynedd gyntaf byddwch yn treulio eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn astudio bioleg sy’n sail i filfeddygaeth, yn meithrin sgiliau sylfaenol wrth drin anifeiliaid fferm, ceffylau, ac anifeiliaid anwes, yn ogystal â datblygu eich dawn gyfathrebu, datrys problemau a gweithio mewn tîm. Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir o ddarparu addysgu ac ymchwil ar iechyd anifeiliaid ac mae’n ymrwymedig i ragoriaeth addysgiadol.

Ym mlwyddyn tri byddwch yn astudio ar Gampws Hawkshead y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, lle byddwch yn ennill yr wybodaeth a’r sgiliau ymarferol uwch mewn gwyddor glinigol sy’n angenrheidiol er mwyn gallu cymryd rhan gyflawn mewn ymarfer clinigol yn y Coleg Milfeddygaeth, mewn meddygfeydd cydweithredol, ac mewn milfeddygfeydd preifat ym mlynyddoedd pedwar a phump. Ar ben hyn, byddwch yn dod yn ôl i Brifysgol Aberystwyth ym mlynyddoedd pedwar a phump i gael cylchdroeon o hyfforddiant clinigol arbenigol am gyfnod cyfyngedig.

Mae gan y Coleg Milfeddygaeth dair adran academaidd a chlinigol eithriadol. Mae’r darlithwyr ymhob adran ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol nid yn unig yn ymchwilwyr a chlinigwyr ar lwyfan byd-eang sy’n llwyr ymroddedig i’w meysydd; y maent hefyd yn weithwyr proffesiynol arbennig o gymwysedig. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd myfyrwyr yn elwa o ddefnyddio ffermydd eang y Brifysgol, canolfan geffylau Lluest a chyfleusterau addysgu eraill.

Y ffrydiau sy’n sail i’r addysgu yw:

O’r flwyddyn gyntaf i’r drydedd:

  • Egwyddorion Gwyddoniaeth
  • Symudiadau (Locomotor)
  • Cardiofasgwlaidd a resbiradol
  • Troethgenhedlol: arennol
  • Troethgenhedlol: atgenhedlu
  • Y system ymborthol
  • Niwroleg a synhwyrau arbennig
  • Lymfforeticwlaidd a gwaedfagol
  • Croen
  • Meddyginiaeth poblogaeth ac iechyd cyhoeddus milfeddygol (PMVPH)
  • Meddyginiaeth ar sail ysgolheictod.

Yn ystod y bedwaredd a’r bumed flwyddyn:

Bydd y rhan fwyaf o’r addysgu yn y ddwy flynedd olaf ar ffurf cylchdroeon clinigol, lle byddwch yn gweithio mewn grwpiau bach yn rhan o dîm clinigol. 

Byddwch yn canolbwyntio ar:

  • Baratoi am y cylchdro
  • Cylchdroeon clinigol o fewn i’r sefydliad
  • Astudiaethau Proffesiynol
  • Meddyginiaeth Poblogaeth ac Iechyd Cyhoeddus Milfeddygol.

Gyrfaoedd

Mae Coleg Brenhinol y Milfeddygon yn sicrhau ansawdd graddau milfeddygaeth y Deyrnas Gyfunol (DG) er mwyn gwneud yn sicr bod llawfeddygon milfeddygol yn gymwys i’r gwaith wrth raddio, ac yn ymuno â Chofrestr y Coleg (RCVS).

Dim ond unigolion sydd wedi’u cofrestru gyda’r Coleg sydd â’r hawl i’w galw eu hunain yn llawfeddygon milfeddygol a, gyda rhai eithriadau, i weithio mewn llawfeddygaeth filfeddygol yn y DG. Mae’r Coleg Milfeddygaeth, Prifysgol Aberystwyth a Choleg y Milfeddygon yn cydweithio’n agos i sicrhau bod y cwrs BVSc yn cwrdd â’r safonau angenrheidiol, fel y gall Coleg y Milfeddygon roi achrediad cyflawn iddo yn 2026 pryd y bydd y myfyrwyr cyntaf yn graddio.

Mae graddedigion yn datblygu gwybodaeth wyddonol ddofn y gellir ei chymhwyso i nifer o lwybrau gyrfa, gan gynnwys milfeddygfeydd clinigol cymysg, milfeddygfeydd ceffylau, milfeddygfeydd fferm/da byw, ymchwil filfeddygol, iechyd cyhoeddus a pholisi milfeddygol, y diwydiant fferyllol, diogelwch bwyd a diogelu meddyginiaethau. Yn ogystal â hyn, ar ôl hyfforddi yn rhannol yng Nghymru trwy gydol y cwrs gradd, bydd graddedigion yn hynod addas i barhau â’u gyrfa mewn milfeddygfeydd a sefydliadau a chyda cyflogwyr milfeddygol eraill yng Nghymru.


Sut i wneud Cais

Dysgu ac Addysgu

Addysgu Ymarferol a Chlinigol

Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS)

Ymgymerir ag AHEMS yn ystod tair blynedd gyntaf y rhaglen. Mae lleoliadau AHEMS wedi’u llunio i’ch cynorthwyo i gadarnhau’r hyn a ddysgoch am hwsmonaeth anifeiliaid, i ddatblygu sgiliau trin anifeiliaid, a dysgu am ddiwydiannau anifeiliaid. Rhaid cwblhau 12 wythnos o AHEMS cyn cael mynediad i drydedd flwyddyn y cwrs. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion y byd milfeddygol yng Nghymru, bydd o leiaf 6 wythnos o’r AHEMS yn cael eu cyflawni yng Nghymru.

Efrydiau Allanol Clinigol (ClinEMS)

ClinEMS yw’r cyfnod a neilltuir i ennill profiad clinigol ymarferol ym mlynyddoedd olaf eich rhaglen filfeddygol, i ategu eich dysgu a’ch profiad clinigol. Trwy gyfrwng ClinEMS byddwch yn ennill profiad mewn amrywiaeth o sefydliadau gwahanol, clinigol a chysylltiedig â milfeddygaeth, lle byddwch yn cadarnhau’r hyn a ddysgoch am ddiagnosis a rheoli clefydau anifeiliaid, yn gwella eich sgiliau clinigol ymarferol, ac yn cael gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae sefydliadau milfeddygol yn gweithredu.

Byddwch yn ymgymryd â lleoliadau ClinEMS ym mlynyddoedd tri, pedwar a phump y rhaglen BVSc, sef cyfanswm o 26 wythnos mewn lleoliadau. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth ynglŷn â milfeddygfeydd yng Nghymru, bydd o leiaf 13 wythnos o’r ClinEMS yn cael eu cyflawni yng Nghymru.

Cylchdroeon clinigol o fewn i’r sefydliad

Yn ystod dwy flynedd olaf y cwrs, bydd eich profiad clinigol yn canolbwyntio ar:

  • arsylwi, trafod a phrofiad ymarferol o fod yn aelod o’r tîm clinigol yn ysbytai’r Coleg Milfeddygaeth, ac mewn sefydliadau clinigol y mae’r Coleg yn bartner iddynt
  • lleoliadau mewn meddygfeydd milfeddygol
  • presenoldeb mewn darlithoedd, seminarau a gweithdai
  • cwblhau prosiect ymchwil sylweddol.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch AAA to include Biology, Chemistry and one other subject

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
At least five GCSEs at grade A (7) including:
• AA in Science (Double Award)/7-7 in Combined Science or Biology and Chemistry or Science and Additional Science.
with at least a grade 6 (B) in:
• Mathematics
• Physics (if taken as a separate GCSE)
and at least a grade 6 (B) in:
• English Language or Welsh language, with at least a grade 4 (C) in the second language if both were taken","language":"

Diploma Cenedlaethol BTEC:
D*D*D* Applied Science / Applied Science (Biomedical Science), to include distinctions in required units

Bagloriaeth Ryngwladol:
Successful completion of IB Diploma with 666 at Higher Level to include Biology, Chemistry and one other subject

Bagloriaeth Ewropeaidd:
N/A

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|