BSc

Biowyddorau Milfeddygol

Cwrs sy'n edrych yn benodol ar y fioleg sy'n sail i feddygaeth filfeddygol yw Biowyddorau Milfeddygol. Byddwch yn archwilio bioleg anifeiliaid fferm, ceffylau ac anifeiliaid anwes. Bydd y rhaglen radd hon hefyd yn darparu llwybr addas i gwrs meddygaeth filfeddygol, gyda chyfleoedd gyrfaol cyffrous eraill, gan gynnwys diagnostwr, maethegwr neu ymchwilydd iechyd anifeiliaid.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun hwn, cysylltwch â chydlynydd y cwrs: Dr. Iain Chalmers (iwc@aber.ac.uk)

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Biowyddorau Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan lawfeddygon milfeddygol a gwyddonwyr milfeddygol o safon byd-eang.
  • Mae ein cydweithrediad gyda Chanolfan Milfeddygaeth Cymru a sefydliadau eraill yn caniatáu i chi ddeall y maes milfeddygol ehangach.
  • Mae gan y Brifysgol dros 1000 hectar o dir amaeth, gan gynnwys ffermydd defaid iseldir ac ucheldir; buches laeth â 500 o wartheg; systemau cynhyrchu cig eidion dwys ac eang a chanolfan geffylau.
  • Mae gan yr holl fyfyrwyr fynediad at ein labordai modern anhygoel, ein hystafelloedd dyrannu, ac ystafelloedd microsgopeg ar y campws.
  • Mae'r radd hon yn ymarferol iawn, gyda sesiynau ymarferol yn cynnwys agweddau moleciwlaidd, cellog, anatomegol ac ymddygiadol ar iechyd milfeddygol.
  • Byddwch yn Dysgu ac yn Byw mewn amgylchedd eithriadol, lle bydd gennych fôr, gweundir, mynyddoedd, glaswelltir a'r arfordir ar garreg eich drws.

Cyfleoedd Rhyngwladol

Os ydych chi'n teimlo'n anturus, beth am fanteisio ar gyfle i astudio dramor yn ystod eich gradd? Mae gennym gytundebau cyfnewid gyda phrifysgolion yn Ewrop, yr Unol Daleithiau, Canada, a'r tu hwnt, felly gallwch wneud cais i dreulio'ch ail flwyddyn gyfan neu ran ohoni yn astudio biowyddorau milfeddygol dramor. Byddwch yn siŵr o weld eisiau Aberystwyth, ond byddwch wrth eich bodd â'r persbectif newydd a ddaw wrth astudio dramor!

Hoffech chi astudio yn Gymraeg?

Gall myfyrwyr ddewis astudio nifer o fodiwlau IBERS drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau!

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Equine Nutrition and Pasture Management BR35720 20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw BG30820 20
Livestock Production Science BR30820 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mewn marchnad sy'n tyfu ar gyfer graddedigion â sgiliau a gwybodaeth arbenigol ym maes Gwyddorau Milfeddygol, mae ein graddedigion yn chwilio am waith yn y meysydd canlynol:

  • ymchwil filfeddygol
  • eiriolaeth elusennol (e.e. RSCPA)
  • ymchwil yn y diwydiant fferyllol ac amaethyddol
  • addysgu
  • y gwasanaeth sifil.

Mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i gael hyfforddiant pellach ym maes:

  • hyfforddiant meddygaeth filfeddygol
  • ymchwil uwchraddedig (PhD, MSc, TAR).

Pa gyfleoedd gwaith alla i gymryd rhan ynddyn nhw wrth astudio?

Mae ein cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) wedi caniatáu i'n myfyrwyr gael lleoliadau gwaith gwerthfawr a chyffrous gyda nifer o gyflogwyr, gan gynnwys Queenholme Equestrian a Sw Caer. 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • anatomeg a ffisioleg cymharol anifeiliaid dof
  • sut i baratoi traethodau, adroddiadau a chyflwyniadau
  • sgiliau labordy moleciwlaidd
  • trin anifeiliaid
  • geneteg ac afiechydon perthnasol
  • microbioleg
  • biocemeg bywyd
  • technegau diagnostig yn y filfeddygfa a'r labordy.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • maetheg anifeiliaid dof, gan gynnwys arbenigedd mewn da byw, ceffylau neu anifeiliaid anwes
  • triniaethau a chlefydau cathod, cŵn ac anifeiliaid anwes estron
  • ffisioleg atgenhedlu
  • y system imiwnedd.

Byddwch hefyd yn dewis o ystod o fodiwlau opsiynol yn cynnwys microbioleg, anatomeg, cynhyrchiant da byw a meysydd pwnc perthnasol eraill.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • traethawd ymchwil
  • ymddygiad a llesiant anifeiliaid
  • ffarmacoleg filfeddygol
  • afiechydon heintus milfeddygol.

Byddwch hefyd yn dewis o ystod o fodiwlau opsiynol yn cynnwys ymddygiad, rheoli ceffylau a meysydd pwnc perthnasol eraill, ac yn cyflawni traethawd hir gofynnol.

Ymhlith llawer o sgiliau eraill, byddwch yn dysgu sut mae: cyfosod gwybodaeth o lenyddiaeth wyddonol; deall ac egluro goblygiadau datblygiadau technolegol mewn gwyddor anifeiliaid; craffu ar ddata o ran ei ansawdd a'i faint; ac ymateb i ddata newydd drwy ymchwilio mewn labordy.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn addysgu ein myfyrwyr drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorials a sesiynau ymarferol.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr yn y ffyrdd canlynol:

  • arholiadau
  • traethodau
  • gwaith ymarferol
  • cyflwyniadau llafar
  • adroddiadau
  • ymarferion ystadegol
  • coflenni
  • portffolios
  • wicis
  • dyddiaduron myfyriol
  • adolygiadau llenyddiaeth
  • erthyglau cylchgrawn.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC with B in Biology

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|