FDSc

Nyrsio Milfeddygol

Ar ein cwrs gradd sylfaen Nyrsio Milfeddygol yn Brifysgol Aberystwyth, byddwch yn astudio pynciau’n gysylltiedig ag iechyd anifeiliaid a rheoli anifeiliaid yng nghyswllt anifeiliaid bach (cŵn, cathod, mamaliaid bach) a cheffylau, yn ogystal â chyfeirio ychydig at anifeiliaid mawr. Mae’r cwrs yn cyfuno dysgu damcaniaethol ac ymarferol, ac yn cynnwys lleoliad gwaith mewn milfeddygfa yn rhan annatod o’r cwrs.

Ni yw’r unig ysgol filfeddygol yng Nghymru (Ysgol Milfeddygaeth Aberystwyth), ac mae gennym adnoddau rhagorol i gefnogi eich astudiaethau, gan gynnwys labordy sgiliau clinigol, labordai ymchwil ac anatomeg, canolfan geffylau ar gyfer dysgu, a ffermydd y brifysgol.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae modiwlau ym mlwyddyn 1 a 2 yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r Sgiliau Diwrnod Cyntaf i Nyrsys Milfeddygol yn ôl Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS), er mwyn paratoi am flwyddyn o leoliad gwaith mewn canolfan hyfforddi cofrestredig. I ddechrau, bydd meysydd yn rhoi dealltwriaeth o’r cysyniadau sylfaenol sy’n gysylltiedig â nyrsio milfeddygol. Mae’r meysydd yn cynnwys iechyd anifeiliaid ac egwyddorion nyrsio milfeddygol. Caiff y rhain wedyn eu cymhwyso ym mhynciau blwyddyn 2, cyn dechrau ar leoliad gwaith am flwyddyn. Mae’r lleoliad yn dechrau hanner ffordd trwy flwyddyn 2 ac yn dod i ben ar ganol blwyddyn 3. Mae’r modiwlau olaf ym mlwyddyn 3 yn cynnwys dewis i ganolbwyntio naill ai ar nyrsio anifeiliaid egsotig neu anifeiliaid mawr, yn dibynnu ar y maes arbenigol yr hoffech weithio ynddo. Mae pwyslais hefyd yn y flwyddyn olaf ar arweinyddiaeth, nyrsio cymunedol, ac Un Iechyd.

Bydd un o’n lleoliadau hyfforddi cofrestredig yn darparu eich lleoliad gwaith, a bydd swyddog lleoliadau yn trefnu hyn i chi. Yn ystod y lleoliad gwaith, byddwch yn cwblhau log ar-lein o ddatblygiad eich sgiliau clinigol, sef Log Cynnydd Nyrsio. Yn rhan o ofynion trwydded ymarfer Coleg Brenhinol y Milfeddygon, byddwch yn cwblhau o leiaf 1800 o oriau ar y lleoliad.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Gyrfaoedd

Trwy gwblhau’r radd sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i gofrestru gyda’r RCVS yn nyrs filfeddygol gofrestredig (yn amodol ar ganlyniad yr achredu). Fel nyrs filfeddygol gofrestredig, byddwch yn gymwys i weithio mewn milfeddygfa gyffredinol, ysbytai atgyfeirio, elusennau sy’n darparu gwasanaethau milfeddygol, labordai, diwydiannau fferyllol, ac mewn lleoliadau lle ceir casgliadau anifeiliaid er enghraifft parciau sŵolegol. Cydnabyddir Achrediad RCVS mewn llawer o wledydd trwy ACOVENE. Byddwch hefyd yn gallu parhau â’ch astudiaethau trwy ychwanegu BSc neu Dystysgrif RCVS mewn Nyrsio Milfeddygol Uwch.

Dysgu ac Addysgu

Asesu

Mae pob modiwl ym mlwyddyn 1 a 2 yn cynnwys asesiad trwy arholiad, sy’n un o amodau’r RCVS. Mae gan bob modiwl elfen o waith cwrs, fel arfer 50% o’r pwysiant.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 96

Safon Uwch Life science at C or above plus two others at C AND A minimum of 2 weeks work experience in a veterinary practice, with a reference from the practice as evidence

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
5 GCSEs including English, maths and science at C/4 or higher

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Level 3 extended diploma in a science at Merit or Access to HE (Science) at Merit

Bagloriaeth Ryngwladol:
24 points

Bagloriaeth Ewropeaidd:

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|