BSc

Datblygu a Diogelwch y We (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Datblygu a Diogelwch y We (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod H613 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae’r BSc Datblygu a Diogelwch y We (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar y Rhyngrwyd a'i oblygiadau a'i gymwysiadau i sefydliadau.

Mae'r Rhyngrwyd o bwysigrwydd creiddiol i strategaethau llawer o sefydliadau mawr, ac mae galw sylweddol am bobl sy'n deall rhwydweithiau ac sydd hefyd yn gallu adeiladu systemau rhyngrwyd effeithiol.

Mae hyn yn gofyn am adeiladu gwefannau i safonau proffesiynol. I greu systemau o'r fath mae angen ystyried anghenion defnyddwyr ac anghenion y sefydliad a chreu ymateb proffesiynol yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'r technolegau perthnasol. Byddwch yn craffu ar yr holl gysyniadau hyn mewn amgylchedd dysgu cefnogol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Datblygu a Diogelwch y We ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn strwythur y radd hon.
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn diwrnod gweithgaredd i ddatblygu eich sgiliau personol a throsglwyddadwy, a hyrwyddo eich datblygiad fel gweithiwr proffesiynol mewn Cyfrifiadureg.
  • Byddwch yn defnyddio labordai Linux a Mac OS X pwrpasol wedi’u cysylltu gan weinyddion canolog.
  • Cewch eich dysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos â byd diwydiant, felly gallwch fod yn hyderus y byddwch yn dysgu'r cysyniadau diweddaraf un ac yn gweithio gyda thechnolegau arloesol.
Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Introduction to Computer Infrastructure CS10220 20
Cyflwyniad i Raglennu CC12020 20
Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol CC12320 20
Sgiliau Astudio ar gyfer Cyfrifiadureg CC18120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Modelling Persistent Data CS27020 20
Programming for the Web CS25320 20
Software Engineering for the Web CS22220 20
System and Network Services Administration CS25820 20
Web Design and the User Experience CS22620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sandwich Year CSS0160 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Web Development CS35510 10
E-Commerce: Implementation, Management and Security CS37420 20
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20
Web-Based Major Project CS39930 30

Gyrfaoedd

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:

  • dylunio meddalwedd
  • cyfathrebu a rhwydweithio
  • rhaglenni cyfrifiadurol
  • datblygu'r we
  • rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
  • dadansoddi a datblygu systemau
  • addysg.

Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?

Sgiliau cyflogadwyedd yw gwerthoedd craidd ein gradd.

  • sgiliau cyfathrebu
  • sgiliau dadansoddol
  • rheoli amser
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu
  • sgiliau gweithredu
  • sgiliau ymchwil
  • sgiliau technegol.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech gael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • Cysyniadau a dulliau sylfaenol cyfrifiadureg megis rhaglennu, algorithmau, problemau a datrysiadau
  • Seilwaith Cyfrifiadurol
  • Offer datblygu i’r we.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:

  •  Rhaglennu a pheirianneg meddalwedd
  • Gweinyddu systemau
  • Dylunio i’r we
  • Profiad defnyddwyr.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â lleoliad profiad gwaith cyflogedig neu wirfoddol sy'n berthnasol i'r radd hon. 

Yn eich blwyddyn olaf, gallech wneud y canlynol:

  • Datblygu i’r we Cymhwysol
  • E-fasnach
  • Prosiect unigol, lle byddwch yn datblygu darn o feddalwedd mewn sy’n briodol ar gyfer menter broffesiynol.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Bydd ein staff brwd yn eich dysgu trwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, sesiynau ymarferol, a gwaith prosiect unigol ac mewn grwpiau.

Asesu

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, sesiynau ymarferol, prosiectau, adroddiadau, cwisiau, gweithdai ac arholiadau.  

Tystiolaeth Myfyrwyr

"Mae'r cwrs hon a roddodd grynodeb dwys i mi o bynciau fel datblygu i’r we, gweinyddu systemau, cronfeydd data a rhwydweithiau cyfrifiadurol. Mae cyfuno'r cwrs hwn â blwyddyn mewn diwydiant wedi fy helpu i wella fy sgiliau i lefel broffesiynol ac mae hefyd wedi fy ngalluogi i ddechrau fy ngyrfa tra fy mod i yn y brifysgol. Mae'r darlithwyr a'r staff yn broffesiynol ac yn teimlo’n angerddol dros eu pynciau, sy'n creu amgylchedd croesawgar i bob myfyriwr newydd.” Didi Gradinarska

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|