Cymraeg / Addysg
BA Cymraeg / Addysg Cod QX53
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
QX53-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y Cwrs
3 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
100%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrBydd y cwrs BA (Anrhydedd) Cymraeg ac Addysg yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau yn y Gymraeg ac astudio Llenyddiaeth Gymraeg ymhellach ochr yn ochr ag Addysg. Mae’r cynllun gradd hwn yn gyfuniad perffaith os ydych yn ystyried gyrfa ym myd addysg ynghyd â’r sgiliau cymwysedig a ddatblygir yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Wrth gwblhau’r radd hon yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am Hyfforddiant Athrawon Ôl-raddedig (TAR) Cynradd neu Uwchradd. Yn ogystal, os ydych wedi cyraedd y gofynion mynediad, bydd myfyrwyr yn gymwys i gael cyfweliad ar gyfer cwrs Hyfforddiant Athrawon Ôl-raddedig (TAR) Cynradd neu Uwchradd yn Aberystwyth.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol â’r Adnoddau Addysgu ym maes Addysg; 85% yw’r cyfartaledd i’r sector (ACF 2020).
Ymhlith y 10 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu ym maes Addysg (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
97.5% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (HESA 2018*)
94% boddhad cyffredinol myfyrwyr i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (ACF 2020).
Ymhlith y 5 uchaf yn y DU ym maes Astudiaethau Celtaidd (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
100% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 7% yn uwch na graddedigion Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Lefel A BBB-BCC to include B in Welsh 1st or 2nd Language
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|