Cymraeg (i Ddechreuwyr)
BA Cymraeg (i Ddechreuwyr) Cod Q522 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrRydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2022
Prif Ffeithiau
Q522-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
88%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrO ddewis y radd hon yn Aberystwyth, byddwch yn ymuno â chymuned lle mae’r Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithas ac yn cael cyfle i fyw ac astudio mewn tref sydd yn un o gadarnleoedd yr iaith. Mae’r radd yn bedair blynedd ac yn ogystal â datblygu eich rhuglder a hyder yn y Gymraeg - ar lafar ac yn ysgrifenedig - bydd hi’n cynnig cyfleoedd i chi ddysgu am:
- lenyddiaeth
- diwylliant
- gwleidyddiaeth
- hanes
- cymdeithaseg.
Lleolir Aberystwyth mewn ardal sy'n gyforiog o hanes - mewn amgylchedd ble mae'r canoloesol a’r modern yn eistedd ochr yn ochr â’i gilydd yn gyfforddus - a dyma'r lle delfrydol i astudio un o ieithoedd hynaf Ewrop.
Cofrestrwch ar gyfer y radd BA bedair blynedd hon a dechreuwch eich antur Gymraeg!
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2022
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Beginning Modern Welsh 1 | WE11220 | 20 |
Beginning Welsh ii | WE11320 | 20 |
Introduction to Welsh Literature | WE11420 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cymraeg Llafar | CY13020 | 20 |
Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg | CY10920 | 20 |
Ysgrifennu Cymraeg Graenus | CY11720 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar | CY21420 | 20 |
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol | CY20520 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Gloywi Iaith yr Ail Iaith | CY31120 | 20 |
Gyrfaoedd
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC with evidence of linguistic ability
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with evidence of linguistic ability
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with evidence of linguistic ability
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, with evidence of linguistic ability
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|