BA

Cymraeg / Addysg

BA Cymraeg / Addysg Cod Q5X3 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Bydd y cynllun gradd BA Cymraeg / Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau yn y Gymraeg, ac astudio Llenyddiaeth Gymraeg ymhellach ochr yn ochr ag Addysg. Mae’r cynllun gradd hwn yn gyfuniad perffaith os ydych yn ystyried gyrfa ym myd addysg, ym mha bynnag faes. Bydd yr agweddau eang i'r ddau bwnc a ddysgir ar y cwrs hwn ynghyd â’ch gallu i fynegi eich hun yn Gymraeg yn effeithiol a phwrpasol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn cynnig hefyd pob math o gyfleoedd gyrfa cyffrous eraill i chi yn y dyfodol.

Trosolwg o'r Cwrs

By choosing to study BA Welsh / Education at Aberystwyth University, you will have the opportunity to explore children and teenagers’ development, and come to understand the educational systems that provide the framework for that development. Alongside the Education subjects, you will study Welsh in a department that leads the sector in fields such as creative writing, Welsh in the professional workplace and translation services. The Welsh / Education degree course will motivate and inspire you. 

On the Education modules, you will explore how people learn, how their environments impact on their learning, how we make decisions, and how our understanding of learning and teaching has developed over the years. This will include elements of psychology, sociology, politics and history. In addition to that, there is a focus on supporting learners throughout their time in school. 

The Welsh modules will give you an opportunity to broaden your horizons through learning about literature, culture, politics, history and the sociology of Welsh. You will study fascinating subjects that reflect the latest research interests of our lecturers, from the history of our literature to contemporary literature, and from the sociology of the Welsh language to registers and dialects of Welsh, as well as creative writing and scriptwriting. 

To complement your studies, you will be able to benefit from the closeness of the National Library of Wales with its wonderful collections of literary, audio and visual resources, and to take advantage of the vibrant Welsh social life here in Aberystwyth. You can join UMCA (the Welsh Students' Union), live in Pantycelyn hall or Fferm Penglais, and take part in all sorts of fun activities that are organised for our Welsh-speaking students. 

Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY21420 20
Gloywi Iaith CY20120 20
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol CY20520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Diogelu ac Ymarfer Proffesiynol AD24320 20
Discourses Language and Education ED22420 20
Dulliau Ymchwil AD20320 20
Literacy in Young Children ED20220 20
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc AD20220 20
Research Methods ED20320 20
Safeguarding and Professional Practice ED24320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Gloywi Iaith yr Ail Iaith CY31120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Children's Rights ED30620 20
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol AD34820 20
Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar AD30320 20
Emotional and Social Development ED34820 20
Hawliau Plant AD30620 20
Major dissertation ED33640 40
Mathematical Development in the Early Years ED30320 20
Special Educational Needs ED30420 20
Traethawd Hir AD33640 40

Gyrfaoedd

Yn ystod y cwrs gradd BA Cymraeg / Addysg byddwch yn datblygu nifer fawr o sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Dyma rai enghreifftiau: 

  • ymchwilio a dadansoddi data 
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon 
  • gweithio’n annibynnol 
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser tynn 
  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig 
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth 
  • gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb 
  • sgiliau technoleg gwybodaeth. 

Swyddi 

Ym maes Addysg, yn ogystal â mynd i ddysgu yn y sector Cynradd, mae graddedigion wedi cael gwaith mewn meysydd amrywiol eraill megis: 

  • therapi lleferydd 
  • gwaith cymdeithasol 
  • lles plant 
  • y diwydiant hamdden 
  • y gyfraith 
  • gwaith ymchwil.

Mae gradd gydag Addysg hefyd yn gallu arwain at gyfleoedd mewn meysydd eraill, megis cymorth i fyfyrwyr yn y sector Addysg Bellach ac Addysg Uwch, ac ym maes hyfforddiant. Bydd cynghorwr ymroddedig gyda phrofiad ym maes addysg yn gallu cynnig cyngor, a hynny o ddechrau eich blwyddyn gyntaf. 

Mae graddedigion sydd wedi astudio’r Gymraeg yn y brifysgol yn gallu dangos cyrhaeddiad ar lefel uchel, ac mae tystiolaeth bod galw mawr am raddedigion o'r fath mewn amrywiaeth o swyddi. Yn ogystal â mynd i weithio ym maes Addysg, mae’r cyfryngau Cymraeg yn denu llawer i berfformio a chynhyrchu. Aiff eraill i weithio fel cyfieithwyr neu weinyddwyr. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddwch wedi eu datblygu dros gyfnod eich cwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd. 

Pa gyfleoedd fydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Cewch wella eich cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith a reolir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf bydd y modiwlau Addysg yn eich cyflwyno i'r ffyrdd y mae plant yn dysgu, arferion gofal plant a seicoleg ddatblygiadol yng nghyd-destun ymarferol gweithio gyda phlant ifanc. Cewch eich cyflwyno hefyd i nodweddion amgylchedd dysgu effeithiol. Os ydych chi'n dilyn y llwybr Cymraeg iaith gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar amrywiaeth o gyfnodau llenyddol ac agweddau eraill ar y pwnc. Bydd hyn yn gyfle i chi weld pa agweddau ar y Gymraeg sydd o ddiddordeb mwyaf i chi, er mwyn i chi allu dylunio eich cyfuniad unigryw chi o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. Os ar y llwybr ail iaith, byddwch yn dilyn modiwlau penodol a fydd yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a sgiliau llafar ac yn ehangu geirfa. Bydd hyn yn rhoi cyfle ichi fagu hyder a gwella eich sgiliau iaith gyda chefnogaeth y staff a'ch cyd-fyfyrwyr. Cewch hefyd gyflwyniad i lenyddiaeth Gymraeg, cyfoes a hanesyddol. 

Yn yr ail flwyddyn bydd y modiwlau Addysg yn canolbwyntio ar seicoleg dysgu a meddwl gyda’r nod o ymestyn eich gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o'r prif ddamcaniaethau sy'n ymwneud â meddwl a dysgu. Cewch hefyd ddethol o blith casgliad hynod ddiddorol o fodiwlau dewisol. Bydd y rheiny ohonoch sy'n dilyn y llwybr Cymraeg iaith gyntaf yn dethol y modiwlau sy’n eich diddori fwyaf o blith casgliad hynod ddiddorol o fodiwlau dewisol. Bydd y rheiny ohonoch sydd ar y llwybr ail iaith yn cael eich cyflwyno i egwyddorion sylfaenol Cymraeg safonol, megis cyweiriau’r iaith a’r confensiynau sillafu, a byddwch yn datblygu ac yn meithrin eich gallu i ysgrifennu’r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru’n raenus. Ceir cyfle hefyd i ddatblygu sgiliau ieithyddol ac ymarferol a fydd yn fanteisiol ichi yn y gweithle dwyieithog yng Nghymru ac i ddethol rhai modiwlau dewisol. 

Yn y flwyddyn olaf bydd y modiwlau Addysg yn canolbwyntio ar rôl asesu mewn cyd-destun addysgol, gan amrywio o asesu dysgu yn yr ystafell ddosbarth anffurfiol i systemau asesu yn genedlaethol. Byddwch hefyd yn dethol o blith casgliad hynod ddiddorol o’r modiwlau dewisol a fydd ar gael, yn ôl eich diddordebau eich hun. Bydd myfyrwyr y llwybr Cymraeg iaith gyntaf yn dethol o blith casgliad hynod ddiddorol o fodiwlau dewisol, yn ôl diddordebau personol a bydd y rheiny ohonoch sy'n dilyn y llwybr ail iaith yn parhau i fireinio eich gallu i fynegi eich hunain yn hyderus yn Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi cyrraedd yr un safon â myfyrwyr iaith gyntaf ac yn graddio gyda'r un cymhwyster. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac yn yr Ysgol Addysg byddwch yn cael eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.  

Sut bydda i'n cael fy asesu? 

Bydd eich gwaith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ichi am gyfnod cyfan eich cwrs gradd. Bydd y tiwtor hwn yn gallu eich cynorthwyo gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â’ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os byddwch angen cymorth arnoch. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC to include B in Welsh 1st or 2nd Language

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|