Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mewn cyfnod o newid byd-eang digynsail, mae'r angen i warchod bioamrywiaeth wedi dod i'r amlwg ym maes ymchwil a pholisi. Mae bioamrywiaeth fyd-eang yn wynebu nifer o fygythiadau, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, colli a darnio cynefinoedd, a rhywogaethau goresgynnol. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd y cwrs BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) o ddiddordeb i'r rhai sydd am gymryd ymagwedd gyfannol sy'n cwmpasu pob agwedd ar gadwraeth bywyd gwyllt ac, ar yr un pryd, archwilio cefndir gwybodaeth wyddonol a chysyniadau ecolegol a gymhwysir at gadwraeth fflora, ffawna a chynefinoedd mewn perygl. Os felly, dyma'r cwrs i chi. Bydd y cyfle i ymgymryd â phrofiad gwaith fel rhan o'r cwrs yn eich galluogi i gael profiad o'r diwydiant a rhoi cychwyn da i chi yn y diwydiant ar ôl graddio.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Cadwraeth Bywyd Gwyllt ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae ein hymchwil ymhlith y 10 uchaf yng ngwledydd Prydain, a chaiff 78% ohono ei asesu fel ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n ardderchog yn rhyngwladol (FfRhY, 2014).
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i archwilio'r grymoedd gwleidyddol, ariannol a chymdeithasol sy'n sail i gadwraeth bywyd gwyllt a rheolaeth amgylcheddol.
Byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion sy'n gweithio'n agos gyda chyrff cadwraeth i hysbysu a chynghori ar arferion gorau ym maes cadwraeth, rheoli a pholisi. Maent hefyd yn gwneud gwaith ymarferol yn y dirwedd o amgylch Aberystwyth.
Byddwch yn cyflawni blwyddyn integredig mewn diwydiant a fydd yn cael ei asesu ac yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol. Rhaid i fyfyrwyr drefnu eu profiad gwaith eu hunain o dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd, a rhaid iddo fod yn berthnasol i Gadwraeth Bywyd Gwyllt. Os na all myfyrwyr sicrhau lleoliad, bydd angen iddynt drosglwyddo i gwrs BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt (C183) yn lle.
Er efallai na thelir am eich profiad gwaith, bydd myfyrwyr yn talu ffi ostyngol yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant. Mae'r manylion yn llawn ar gael yma.
Fel myfyriwr, cewch fwynhau bywyd gwyllt a chefn gwlad heb ei ail: mae Aberystwyth dafliad carreg oddi wrth lawer o gynefinoedd sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys safle UNESCO Biosffer Dyfi, dau wlypdir RAMSAR, dwy ardal cadwraeth arbennig forol, dwy Warchodfa Natur Genedlaethol, sawl safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig i enwi dim ond rhai, sy'n cynnig cyfleoedd gwaith maes a hamdden gwych i chi.
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae graddedigion ar y cwrs hwn yn elwa o'r agweddau gwyddonol a pholisi sy'n sail i gadwraeth bywyd gwyllt. Gallai myfyrwyr ar y cwrs hwn fynd i weithio mewn sefydliad sy'n ymwneud â bioleg cadwraeth neu reoli amgylcheddol cyffredinol, megis:
Cyfoeth Naturiol Cymru;
Yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt;
Y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg;
RSPB;
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol;
Asiantaeth yr Amgylchedd;
Adrannau awdurdodau lleol;
Cyrff anllywodraethol;
Mae'r cwrs hwn hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr wneud ymchwil pellach yn astudio ar unrhyw rai o'n cyrsiau MSc, PhD a TAR.
Mae gan y Brifysgol Wasanaeth Gyrfaoedd rhagorol ac mae gennym ein Cynghorwr Gyrfaoedd proffesiynol, ymroddedig ein hunain. Mae gennym aelod o staff hefyd sy'n Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd i IBERS ac rydym yn ymdrechu'n gyson i wreiddio a gwella'r gwaith o gyflwyno sgiliau'r byd go iawn ym mhob modiwl a gynigiwn.
Pa sgil fydda i'n ei ddatblygu wrth astudio Cadwraeth Bywyd Gwyllt?
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:
Sgiliau ymchwil a dadansoddi data;
Sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch;
Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
Sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth;
Y gallu i weithio'n annibynnol;
Sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser;
Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
Y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.
Eich blwyddyn mewn diwydiant:
Yn ddi-os, byddwch yn magu hyder, a bydd ennill profiad yn y diwydiant yn ysgogi eich brwdfrydedd am y pwnc.
Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:
I gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith;
I wneud cysylltiadau yn y diwydiant;
I ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio;
I gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio;
I wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.
Dylai myfyrwyr ar y cynllun hwn nodi nad oes gan yr athrofa leoliadau awtomatig ar gyfer pob ymgeisydd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r profiad gwaith. Fodd bynnag, bydd Cydlynydd Profiad Gwaith ein hathrofa yn gallu eich cynorthwyo, yn ogystal â'n cynghorydd gyrfaoedd penodedig (James Cuffe, jpc11@aber.ac.uk). Os na fyddwch yn dod o hyd i brofiad gwaith, bydd modd i chi drosi eich cwrs yn fersiwn tair blynedd o'r pwnc yn lle.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Yn y flwyddyn gyntaf, gallech:
Ddysgu gwybodaeth eang am y cysyniadau sylfaenol allweddol sy'n berthnasol i fioleg cadwraeth, sy'n cynnwys:
Esblygiad ac amrywiaeth organebau;
Cynefinoedd ac ecosystemau.
Yn yr ail flwyddyn, efallai y byddwch yn cael eich cyflwyno i:
Agweddau ar gadwraeth bywyd gwyllt, sy'n cynnwys:
Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol;
Cadwraeth;
Polisi perthnasol;
Dadansoddiadau ystadegol a dylunio arbrofol;
Systemau dyfrol;
Ymddygiad anifeiliaid;
Agweddau polisi a rheoli maes cadwraeth.
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch profiad gwaith mewn diwydiant sy'n berthnasol i faes Cadwraeth Bywyd Gwyllt.
Yn ystod eich blwyddyn olaf, gallech:
Fynd i'r afael â chadwraeth ar lefel leol a byd-eang.
Bydd gofyn i chi ysgrifennu a chwblhau traethawd hir drwy raglen ymchwil annibynnol o dan arweiniad goruchwyliwr.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu ar ffurf darlithoedd a seminarau. Bydd y cwrs yn cynnwys tiwtorialau, astudiaethau achos, ymarferion mewn labordy a gwaith maes at ddibenion ymchwil.
Byddwch yn cael eich asesu drwy waith cwrs, arholiadau a chyflwyniadau.