BSc

Cadwraeth Bywyd Gwyllt

Cadwraeth Bywyd Gwyllt Cod C183 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mewn cyfnod o newid byd-eang digynsail, mae'r angen i warchod bioamrywiaeth wedi dod i'r amlwg ym maes ymchwil a pholisi. Mae bioamrywiaeth fyd-eang yn wynebu nifer o fygythiadau, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, colli a darnio cynefinoedd, a rhywogaethau goresgynnol. Diben ein gradd Gwarchod Bywyd Gwyllt yw rhoi ichi ddealltwriaeth fanwl o’r cysyniadau ecolegol sy’n sail i warchod fflora, ffawna a chynefinoedd, ar raddfa leol a byd- eang. 

Trosolwg o'r Cwrs


Bydd y cwrs BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt o ddiddordeb i'r rhai sydd am gymryd ymagwedd gyfannol sy'n cwmpasu pob agwedd ar gadwraeth bywyd gwyllt ac, ar yr un pryd, archwilio cefndir gwybodaeth wyddonol a chysyniadau ecolegol a gymhwysir at gadwraeth fflora, ffawna a chynefinoedd mewn perygl. 

Byddwch yn dysgu am y prosesau ecolegol ac esblygiadol sydd wedi siapio cynefinoedd allweddol, a’r rhyngweithio rhwng y cynefinoedd hyn a’r bywyd gwyllt y maent yn ei gefnogi. Byddwch hefyd yn archwilio’r grymoedd gwleidyddol, ariannol a chymdeithasol sy’n sail i warchod bywyd gwyllt a rheoli’r amgylchedd. Gyda’r sylfaen hon, byddwch yn deall pwysigrwydd gwarchod bioamrywiaeth ar ystod o raddfeydd, o fioamrywiaeth genetig i fïomau cyfan, a byddwch yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i allu cyfrannu at y blaenoriaethau hyn yn eich gyrfa broffesiynol. 

Mae’r amrywiaeth o gynefinoedd difyr a phwysig a geir yn Aberystwyth, gan gynnwys y môr, rhostir, mynyddoedd, glaswelltir a'r arfordir, yn creu ystafell ddosbarth naturiol ddelfrydol ar gyfer dysgu sgiliau ymarferol. Fel myfyriwr, cewch fwynhau bywyd gwyllt a chefn gwlad heb ei ail, gyda chyfleoedd i weld rhywogaethau anifeiliaid cyffredin a phrin y DU fel dolffiniaid trwyn potel, morloi llwyd yr Iwerydd, bele’r coed, dyfrgwn, gweilch y pysgod a barcutiaid coch. 

Mae Aberystwyth dafliad carreg oddi wrth lawer o gynefinoedd sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys safle UNESCO Biosffer Dyfi, dau wlypdir RAMSAR, dwy ardal cadwraeth arbennig forol, dwy Warchodfa Natur Genedlaethol, sawl safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig i enwi dim ond rhai, sy'n cynnig cyfleoedd gwaith maes a hamdden gwych i chi.  

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Climate and Climate Change BR16620 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Biological chemistry BR17320 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Marine Biology BR22620 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Wildlife Management BR27220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Applied Aquatic Conservation BR26220 20
Arolygu Ecolegol BG21420 20
Climate Change: Plants, Animals and Ecosystems BR21120 20
Ecological Surveying BR21420 20
Freshwater Biology BR22020 20
Tropical Zoology Field Course BR23820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Wildlife Conservation BR34520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour Field Course BR34920 20
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol BG36620 20
Environmental Regulation and Consultancy BR35620 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Sustainable Land Management BR30420 20
Terrestrial Ecology Fieldcourse BR36620 20

Gyrfaoedd

Bydd graddedigion y radd hon yn gymwys i ddilyn gyrfa mewn bioleg a rheoli cadwraethol, yn y DU a thramor. Hefyd, gall myfyrwyr ddewis dilyn gyrfaoedd mewn meysydd cysylltiedig megis addysg amgylcheddol, neu wneud ymchwil uwchraddedig ar lefel Meistr neu PhD. 

Gallai myfyrwyr ar y cwrs hwn fynd i weithio mewn sefydliad sy'n ymwneud â bioleg cadwraeth neu reoli amgylcheddol cyffredinol, megis:  

  • Cyfoeth Naturiol Cymru 
  • Yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt 
  • Y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg 
  • RSPB 
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 
  • Asiantaeth yr Amgylchedd 
  • Adrannau awdurdodau lleol 
  • Cyrff anllywodraethol. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn y flwyddyn gyntaf, gallech:

  • Ddysgu gwybodaeth eang am y cysyniadau sylfaenol allweddol sy'n berthnasol i fioleg cadwraeth, sy'n cynnwys:
  • Esblygiad ac amrywiaeth organebau;
  • Cynefinoedd ac ecosystemau.

Yn yr ail flwyddyn, efallai y byddwch yn cael eich cyflwyno i:

  • Agweddau ar gadwraeth bywyd gwyllt, sy'n cynnwys:
  • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol;
  • Cadwraeth;
  • Polisi perthnasol;
  • Dadansoddiadau ystadegol a dylunio arbrofol;
  • Systemau dyfrol;
  • Ymddygiad anifeiliaid;
  • Agweddau polisi a rheoli maes cadwraeth.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, gallech:

  • Fynd i'r afael â chadwraeth ar lefel leol a byd-eang.
  • Bydd gofyn i chi ysgrifennu a chwblhau traethawd hir drwy raglen ymchwil annibynnol o dan arweiniad goruchwyliwr.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu ar ffurf darlithoedd a seminarau. Bydd y cwrs yn cynnwys tiwtorialau, astudiaethau achos, ymarferion mewn labordy a gwaith maes at ddibenion ymchwil.

Byddwch yn cael eich asesu drwy waith cwrs, arholiadau a chyflwyniadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|