Mae Aberystwyth yn lle rhagorol i astudio bywyd anifeiliaid yn ei holl amrywiaeth. Mae yma gyfoeth o arfordiroedd, aberoedd, coetiroedd a bryniau sy’n llawn bywyd gwyllt o fewn cyrraedd rhwydd i’r campws. Mae’r rhain yn cynnal pryfed prin, y barcud coch a’r frân goesgoch, ac mae Bae Ceredigion yn enwog am adar y môr, y morlo llwyd, y dolffin trwyn potel a’r llamhidydd harbwr. 

Trosolwg o'r Cwrs

Royal Society of Biology Accredited DegreeYn ystod eich cwrs Swoleg byddwch yn datblygu arbenigedd ym maes amrywiaeth esblygiad, ymddygiad, anatomeg ac ecoleg anifeiliaid.  

Mae’r amrywiaeth o gynefinoedd difyr a phwysig a geir yn Aberystwyth, gan gynnwys y môr, rhostir, mynyddoedd, glaswelltir a'r arfordir, yn creu ystafell ddosbarth naturiol ddelfrydol ar gyfer dysgu sgiliau ymarferol. 

Cewch hefyd y cyfle i ddysgu sgiliau maes ym myd swoleg ac ecoleg drofannol, ac ymddygiad anifeiliaid – a hynny’n lleol a thramor mewn amgylcheddau coedwigoedd glaw trofannol tra-amrywiol megis basn yr Amazon neu Costa Rica. 

 Mae Aberystwyth dafliad carreg oddi wrth lawer o gynefinoedd sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys safle UNESCO Biosffer Dyfi, dau wlypdir RAMSAR, dwy ardal cadwraeth arbennig forol, dwy Warchodfa Natur Genedlaethol, sawl safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig i enwi dim ond rhai, sy'n cynnig cyfleoedd gwaith maes a hamdden gwych i chi.  

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Invertebrate Zoology BR25420 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Arolygu Bywyd Gwyllt BG29620 20
Evolution and Molecular Systematics BR21720 20
Freshwater Biology BR22020 20
Marine Biology BR22620 20
Researching Behavioural Ecology BR27320 20
Tropical Zoology Field Course BR23820 20
Veterinary Health BR27120 20
Wildlife Surveying BR29620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour Field Course BR34920 20
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Freshwater Biology Field Course BR37720 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Marine Biology Field Course BR30020 20
Parasitology BR33820 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Mae ein graddedigion wedi dilyn llwybrau gyrfa cyffrous mewn meysydd megis cadwraeth a lles anifeiliaid, ac ymchwilio i’r amgylchedd naturiol. Mae rhai wedi dewis astudio ar lefel uwchraddedig neu mewn ysgol filfeddygaeth. 

Yn ogystal, fel rhan o'ch gradd swoleg byddwch wedi dysgu amrywiaeth eang o sgiliau megis arsylwi, ymchwilio, dadansoddi a myfyrio - sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw mewn amrywiaeth o broffesiynau graddedig.

Bydd y sgiliau a enillir yn cynnwys:

  • dealltwriaeth drylwyr o swoleg a disgyblaethau sy'n gysylltiedig â swoleg, gan gynnwys ymddygiad anifeiliaid, ffisioleg, ffylogenedd, cadwraeth rhywogaethau, ecoleg ac ati;
  • amrywiaeth o dechnegau maes a labordy a ddefnyddir gan weithwyr swoleg proffesiynol;
  • y gallu i lunio damcaniaethau, dylunio arbrofion sy'n ystadegol ddilys, casglu data, dadansoddi data a dehongli canlyniadau'n feirniadol;
  • y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn rhesymegol yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan ddefnyddio mynegeion cyfeirio i sicrhau uniondeb academaidd;
  • gwerthfawrogiad o arferion gwaith moesegol;
  • y gallu i weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol;
  • amrywiaeth o sgiliau ar gyfer gweithio gydol oes yn annibynnol, gan gynnwys rheoli amser, trefnu, trosglwyddo gwybodaeth ac ati.

Dysgu ac Addysgu

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch galluogi i deilwra'ch astudiaethau i feysydd sydd o ddiddordeb arbennig i chi. Byddwch yn gallu canolbwyntio naill ai ar yr anifail cyfan, bioleg poblogaeth a chadwraeth, neu ar agweddau mwy cymhwysol ar Swoleg, fel parasitoleg.

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio pynciau sy'n ymwneud â:

  • Amrywiaeth bywyd ar y Ddaear, o organebau ungellog i'r anifeiliaid infertebraidd a fertebraidd amlgellog, gan gysylltu ffurf â swyddogaeth a'r digwyddiadau esblygiadol allweddol sydd wedi digwydd.
  • Egwyddorion sylfaenol ecoleg a'r berthynas rhwng rhywogaethau sy'n cwmpasu trosglwyddo ynni, rhyngweithiadau o fewn a rhwng rhywogaethau, defnyddio adnoddau ac ati.
  • Pwysigrwydd planhigion fel cynhyrchwyr cynradd, eu morffoleg, eu ffisioleg a'u haddasiadau ecolegol.
  • Egwyddorion geneteg o foleciwlau i boblogaethau a rhywogaethau.
  • Adeiledd a swyddogaeth celloedd ewcaryotig a chemeg moleciwlau mewn celloedd.
  • Fforenseg bywyd gwyllt gan ddefnyddio entomoleg ac ecotocsicoleg fforensig, a'r defnydd o ddulliau 'bargodio' DNA er mwyn helpu i ddatrys troseddau bywyd gwyllt.
  • Gallwch hefyd ddilyn pynciau sy'n gysylltiedig â'r prosesau amgylcheddol mawr ar y Ddaear sydd wedi dylanwadu ar fflora a ffawna, hanes ein dealltwriaeth o Fioleg a sut mae wedi datblygu dros amser, ac amrywiaeth bywyd microbaidd a'u pwysigrwydd fel pathogenau, cydymddibynwyr ac yn yr ecosystem.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • Bioleg anifeiliaid infertebraidd a fertebraidd yn cwmpasu eu hesblygiad, eu ffisioleg, eu hecoleg ac ati.
  • Esblygiad organebau gan gynnwys rhywogaethu, ffylogeneteg a geneteg poblogaeth.
  • Ymddygiad anifeiliaid gan gynnwys ei swyddogaeth, achosiaeth, datblygiad ac esblygiad.
  • Egwyddorion ac arfer ystod o weithdrefnau meintiol ac ansoddol sylfaenol, dadansoddi, dehongli a gwerthuso data.
  • Cewch hefyd astudio pynciau sy'n ymwneud â chadwraeth rhywogaethau a rheoli cynefinoedd, rôl gerddi swolegol ar gyfer gwarchod anifeiliaid, a thaith maes i Beriw.
  • Mae cyfleoedd hefyd i wella eich sgiliau cyflogadwyedd drwy astudio eich ail flwyddyn mewn sefydliad Ewropeaidd (taith gyfnewid ERASMUS+) neu Ogledd America. Neu gallwch wneud blwyddyn mewn gwaith rhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn cael eich addysgu am:

  • Ffisioleg ymddygiadol, gan fanylu ar y mecanweithiau sy'n sail i ymddygiad ac uwch ymddygiadau gan gynnwys cyfeiriadedd a mordwyo.
  • Ecoleg poblogaeth gan ganolbwyntio ar y modelau a ddefnyddir i gyfri am ddosbarthiad a helaethrwydd organebau.
  • Traethawd hir gorfodol o dan oruchwyliaeth aelod o staff addysgu Swoleg.
  • Gallwch hefyd astudio pynciau sy'n gysylltiedig â chadwraeth bywyd gwyllt a phwysigrwydd geneteg o ran gwarchod rhywogaethau, parasitoleg sy'n cwmpasu amrywiaeth parasitiaid a'u potensial i achosi afiechyd, y bygythiadau presennol ac yn y dyfodol i rywogaethau ac ecosystemau, a lles anifeiliaid gan gynnwys y nodweddion ymddygiadol a ffisiolegol sy'n gysylltiedig â phoen a straen.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae Aberystwyth yn lle anhygoel i astudio, yn llawn wynebau cyfeillgar; myfyrwyr a darlithwyr fel ei gilydd - mae wir yn teimlo fel cartref oddi cartref. Roeddwn i wrth fy modd yn cael gadael Aberystwyth gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Swoleg a swydd lawn amser yn fy ngyrfa ddelfrydol, fel ceidwad sw. Mae Aberystwyth wedi bod yn lle gwych i astudio a byddaf yn falch am byth fy mod wedi dewis y dref/brifysgol wych hon i astudio fy ngradd! Kathryn Beddie

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB - BCC with B in Biology

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|