BSc

Sŵoleg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Sŵoleg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C302 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae swolegwyr yn defnyddio eu sgiliau gwyddonol i ddeall bywyd anifeiliaid yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod, o gelloedd, i organebau, i ecosystemau. Ar y radd BSc Swoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch hefyd yn datblygu sylfaen gadarn o sgiliau gwyddonol trosglwyddadwy, fel y profir gan ein hachrediad gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol.

Gan feddu ar y sgiliau hyn, byddwch yn datblygu eich arbenigedd ym maes swoleg fertebratau a swoleg infertebratau, a byddwch yn dewis o blith ystod eang o fodiwlau arbenigol mewn meysydd gan gynnwys ymddygiad anifeiliaid, bioleg y môr a dŵr croyw, parasitoleg a chadwraeth bywyd gwyllt. Byddwch yn datblygu sgiliau uwch mewn ymchwil ym maes swoleg, ac yn y pen draw yn cynnal eich prosiect ymchwil swoleg annibynnol eich hun.

Byddwch yn gwneud hyn i gyd yng nghefn gwlad gwyllt a hardd y gorllewin, sy'n gartref i ddolffiniaid trwyn potel, morloi llwyd yr Iwerydd, y bele, dyfrgwn, gweilch y pysgod a barcudiaid coch. Yn ogystal, cewch gyfle i astudio Swoleg ar gyrsiau maes preswyl ymhellach i ffwrdd, gan gynnwys y goedwig law drofannol hyperamrywiol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Swoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae ein cwrs:

  • yn darparu sylfaen gadarn o sgiliau a gwybodaeth yn y biowyddorau a fydd yn amhrisiadwy i chi ym maes swoleg a thu hwnt
  • wedi'i achredu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol i gydnabod ei ansawdd
  • yn cynnwys ystod eang o opsiynau modiwl arbenigol fel y gallwch ddilyn eich diddordebau mewn meysydd fel ymddygiad anifeiliaid, bioleg y môr a dŵr croyw, parasitoleg a chadwraeth bywyd gwyllt
  • yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau maes preswyl dewisol sy'n caniatáu i chi ymgolli yn eich gwaith astudio a chymryd rhan mewn gwaith prosiect mewn grwpiau bach
  • yn cael ei addysgu gan staff gwybodus y mae eu hymchwil ym maes swoleg yn llywio eu haddysgu
  • yn cynnwys prosiect ymchwil annibynnol sylweddol yn eich blwyddyn olaf, lle byddwch yn elwa o arolygiaeth academaidd un-wrth-un
  • yn addas iawn i fyfyrwyr sy'n dymuno gwella eu cyflogadwyedd mewn meysydd fel cadwraeth anifeiliaid neu ymchwil wyddonol, ond mae hefyd yn datblygu sgiliau y mae galw amdanynt mewn ystod eang o broffesiynau eraill i raddedigion.

Cyfleoedd!

  • Mae ein myfyrwyr yn elwa o gytundebau cyfnewid rhyngwladol gyda phrifysgolion yn Ewrop, Gogledd America, Asia ac Awstralia, felly gallwch wneud cais i dreulio eich ail flwyddyn, neu ran ohoni, yn astudio Swoleg dramor.
  • Gallwch ddewis astudio nifer o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch ar y tab modiwlau am fwy o wybodaeth.

Mae gan Aberystwyth gyfleusterau ardderchog ar gyfer swolegwyr, gan gynnwys:

  • acwariwm modern lle cedwir rhywogaethau dŵr oer a throfannol, morol a dŵr croyw.
  • amrywiaeth o anifeiliaid dof bach a mawr ar gael i chi at ddibenion ymchwil swoleg drwy ein ffermydd, ein canolfan geffylau a’n canolfan addysg filfeddygol.
  • mynediad at goetir helaeth ger ein campws gyda blychau nythu pwrpasol sydd o gymorth wrth astudio adar a bywyd gwyllt arall.
  • cynefinoedd gwyllt a phrydferth ar garreg ein drws, gan gynnwys cynefinoedd morol, gweundiroedd, mynyddoedd, glaswelltir a choedwigoedd, sy’n cynnig amrywiaeth aruthrol o gyfleoedd ar gyfer gwaith maes a hamddena.
  • cyfleoedd i weld rhywogaethau anifeiliaid cyffredin a phrin ym Mhrydain megis dolffiniaid trwyn potel, morloi llwyd yr Iwerydd, y bele, dyfrgwn, gweilch y pysgod a barcudiaid coch.
  • casgliad helaeth o sbesimenau swolegol yn ein hamgueddfa.

Addysgu dan arweiniad ymchwil

  • Cewch eich addysgu gan dîm angerddol o swolegwyr sydd hefyd yn wyddonwyr sy’n weithgar ym maes ymchwil. Mae eu hymchwil yn sail i’n haddysgu, ac yn darparu cyfleoedd rhagorol ar gyfer y prosiect ymchwil y byddwch yn ymgymryd ag ef yn eich blwyddyn olaf. Mae ein darlithwyr Swoleg hefyd yn athrawon brwdfrydig ac arloesol!
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Invertebrate Zoology BR25420 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Arolygu Bywyd Gwyllt BG29620 20
Evolution and Molecular Systematics BR21720 20
Freshwater Biology BR22020 20
Marine Biology BR22620 20
Researching Behavioural Ecology BR27320 20
Tropical Zoology Field Course BR23820 20
Veterinary Health BR27120 20
Wildlife Surveying BR29620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour Field Course BR34920 20
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Freshwater Biology Field Course BR37720 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Marine Biology Field Course BR30020 20
Parasitology BR33820 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Beth ydw i'n ei ennill o astudio BSc Swoleg?

Mae graddedigion BSc Swoleg o Brifysgol Aberystwyth:

  • yn wyddonwyr bywyd medrus, gyda gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gref ynghylch Swoleg
  • yn meddu ar ddealltwriaeth uniongyrchol o ymchwil ym maes swoleg o ganlyniad i'w prosiectau ymchwil yn ystod eu blwyddyn olaf, a phwyslais ein gradd ar addysgu a arweinir gan ymchwil
  • yn meddu ar brofiad rhyngwladol o bosib, os ydynt yn cymryd rhan mewn cynllun cyfnewid academaidd
  • yn feddylwyr beirniadol hyderus a chraff, sy'n gallu gweithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm
  • yn meddu ar sgiliau gwyddonol a dadansoddi data cryf sy'n ddymunol ym maes swoleg a thu hwnt
  • yn aelodau o gymuned gefnogol o swolegwyr ddoe a heddiw Prifysgol Aberystwyth
  • yn ennill blwyddyn o aelodaeth gyda'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol ar ôl graddio i'w helpu i sefydlu eu gyrfaoedd.

Ym mha feysydd mae ein myfyrwyr yn mynd i weithio?

Mae ein graddedigion yn meddu ar sgiliau y mae galw amdanynt mewn ystod eang o yrfaoedd ym maes swoleg a thu hwnt. Maent wedi:

  • ymgymryd ag astudiaethau uwchraddedig ar lefel Meistr neu PhD, a chael gyrfaoedd fel ymchwilwyr ym maes Swoleg
  • gweithio ym maes ymgynghoriaeth ecolegol, gwneud ffilmiau bywyd gwyllt, gofalu am anifeiliaid sw a mwy
  • sefydlu gyrfaoedd ym maes cyfathrebu gwyddonol, addysg amgylcheddol ac addysgu 
  • ymgymryd â rolau gwyddonol y tu hwnt i faes swoleg oherwydd eu sylfaen eang o sgiliau gwyddonol trosglwyddadwy.

Mae ein gradd Swoleg hefyd yn addas ar gyfer cael mynediad at amrywiaeth o raglenni hyfforddi i raddedigion.

Beth ydw i'n ei ennill drwy wneud Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant?

Dyma fanteision gwneud Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant:

  • rhoi profiad i chi o geisio am swydd a chyfweliadau, gyda chefnogaeth Cydlynydd Blwyddyn mewn Diwydiant ymroddedig.

Mae llawer o’n myfyrwyr yn cwblhau eu Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant neu ran ohoni dramor, felly gallwch chi hefyd gael profiad o ddiwylliannau, ieithoedd, bywyd gwyllt a chynefinoedd newydd!

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyflwyniad i’r canlynol:

  • Esblygiad ac amrywiaeth bywyd anifeiliaid
  • y fioleg hanfodol sy'n sail i swoleg, gan gynnwys ffisioleg anifeiliaid, geneteg, bioleg celloedd ac ecoleg
  • gweithdrefnau gwyddonol ymarferol i fynd i'r afael â phroblemau ym maes gwyddoniaeth bywyd gwyllt
  • sgiliau ysgrifennu testunau gwyddonol a chyflwyno, a addysgir mewn dosbarthiadau tiwtorial mewn grwpiau bach gyda'ch tiwtor
  • sgiliau trosglwyddadwy mewn graffio, dadansoddi, dehongli a thrin data.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth arbenigol o’r canlynol:

  • Swoleg infertebratau a fertebratau
  • Cynllunio a dylunio ymchwil sy'n ymwneud â Swoleg 
  • gweithdrefnau meintiol ac ansoddol ar gyfer dadansoddi data a llywio dehongliadau gwyddonol
  • pynciau arbenigol ychwanegol o'ch dewis, yn seiliedig ar ein hystod eang o fodiwlau dewisol.

Yn ystod eich trydydd flwyddyn:

  • eich blwyddyn mewn diwydiant.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth uwch mewn:

  • Prosiect ymchwil annibynnol, sydd ar gael i bob myfyriwr
  • pynciau arbenigol ychwanegol o'ch dewis, yn seiliedig ar ein hystod eang o fodiwlau dewisol.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Addysgir y cwrs trwy ddarlithoedd, seminarau rhyngweithiol, gweithdai cyfrifiadurol, cyrsiau ac ymweliadau maes, sesiynau ymarferol yn y labordy, dosbarthiadau tiwtorial mewn grwpiau bach ac arolygiaeth un-wrth-un ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol.

Sut fydda i’n cael fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau. Caiff rhai modiwlau eu hasesu'n rhannol drwy arholiadau traddodiadol, ond rydym hefyd yn defnyddio amrywiaeth eang o wahanol elfennau gwaith cwrs gan gynnwys traethodau, posteri, cyflwyniadau llafar, fideos, wicis, tasgau dadansoddi data ymarferol, llyfrau nodiadau maes ac erthyglau gwyddoniaeth ar ffurf cylchgronau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|