Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Rhowch y dechrau gorau i'ch rhagolygon gyrfa gyda'n cwrs Swoleg newydd gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant. Gwyddor bywyd anifeiliaid yw Swoleg, boed yn ficrosgopig neu'n enfawr, yn ddyfrol neu'n ddaearol. Os ydych chi wedi'ch cyfareddu gan y miliynau o rywogaethau anifeiliaid rydym yn rhannu'r blaned â nhw, dyma'r cwrs gradd i chi! Mae Swoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn elwa o'n hamgylchedd naturiol gwych gan gynnwys cynefinoedd morol is-lanw a rhynglanwol, aberoedd, gwlyptiroedd, nentydd ac afonydd dŵr croyw, coetiroedd, rhostiroedd ac ati, sy'n rhoi mynediad i rywogaethau fel barcutiaid coch, y frân goesgoch, dolffiniaid trwyn potel, belaod, gwiwerod cochion, llamidyddion ac ati. Mae'r lleoliad gwaith yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth rydych wedi'u dysgu yn ystod eich blwyddyn gyntaf a'ch ail flwyddyn mewn amgylchedd gwaith. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi'r cyfle gorau i chi mewn marchnad swyddi sy'n gynyddol gystadleuol. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, byddwch wedi datblygu ystod o sgiliau gweithio ac ymwybyddiaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Swoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae maes llafur y cwrs hwn, gyda'r flwyddyn integredig mewn diwydiant, yn union yr un fath â'i chwaer gwrs, BSc Swoleg (C300). Fodd bynnag, bydd gennych flwyddyn ychwanegol o gyllid i gyflawni blwyddyn mewn diwydiant. Rhaid i'ch profiad gwaith fod yn berthnasol i'r radd hon; asesir y flwyddyn a bydd yn cyfri tuag at eich gradd.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr drefnu eu profiad gwaith o dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd. Nid oes sicrwydd y byddwch yn cael eich talu am y profiad gwaith.Os na allwch ddod o hyd i leoliad, bydd angen i chi drosglwyddo i'w chwaer gwrs, BSc Swoleg (C300).
Yn ystod eich blwyddyn o brofiad gwaith, byddwch yn talu ffioedd dysgu gostyngol, a gellir dod o hyd i'r manylion yma.
Byddwch yn elwa o labordai modern gwych, ystafell microsgopeg, casgliad o sbesimenau hanesyddol ac acwaria.
Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr Swoleg, rhai ohonynt rydych eisoes wedi eu gweld ar raglenni dogfen efallai neu wedi gwrando arnynt ar eich hoff bodlediad gwyddoniaeth.
Ardal o fywyd gwyllt a chefn gwlad heb ei ail; mae Aberystwyth dafliad carreg oddi wrth lawer o gynefinoedd sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys safle UNESCO Biosffer Dyfi, dau wlypdir RAMSAR, dwy ardal cadwraeth arbennig forol, dwy Warchodfa Natur Genedlaethol, sawl safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig i enwi dim ond rhai, sy'n cynnig cyfleoedd gwaith maes a hamdden gwych i chi.
Ymhlith y 10 uchaf yng ngwledydd Prydain ar gyfer dwyster ymchwil yn ôl asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY, 2014).
Mae 78% o'r gweithgarwch ymchwil wedi'i asesu fel ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n ardderchog yn rhyngwladol yn ôl y Fframwaith (FfRhY, 2014).
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mewn marchnad sy'n tyfu ar gyfer graddedigion â sgiliau a gwybodaeth arbenigol mewn Swoleg, mae ein graddedigion yn chwilio am waith yn y meysydd canlynol:
Addysgu
Ymgynghoriaeth amgylcheddol
Cadwraeth
Y Cyfryngau
Mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i gael hyfforddiant pellach ym maes:
Ymchwil uwchraddedig (PhD, MSc, TAR)
Eich blwyddyn mewn diwydiant:
Yn ddi-os, byddwch yn magu hyder, a bydd ennill profiad yn y diwydiant yn ysgogi eich brwdfrydedd am y pwnc.
Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:
I gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith;
I wneud cysylltiadau yn y diwydiant;
I ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio;
I gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio;
I wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.
Dylai myfyrwyr ar y cynllun hwn nodi nad oes gan yr athrofa leoliadau awtomatig ar gyfer pob ymgeisydd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r profiad gwaith. Fodd bynnag, bydd Cydlynydd Profiad Gwaith ein hathrofa yn gallu eich cynorthwyo, yn ogystal â'n cynghorydd gyrfaoedd penodedig (James Cuffe, jpc11@aber.ac.uk). Os na fyddwch yn dod o hyd i brofiad gwaith, bydd modd i chi drosi eich cwrs yn fersiwn tair blynedd o'r pwnc yn lle.
Dysgu ac Addysgu
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch galluogi i deilwra'ch astudiaethau i feysydd sydd o ddiddordeb arbennig i chi. Byddwch yn gallu canolbwyntio naill ai ar yr anifail cyfan, bioleg poblogaeth a chadwraeth, neu ar agweddau mwy cymhwysol ar Swoleg, fel parasitoleg.
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio pynciau sy'n ymwneud â'r canlynol:
Amrywiaeth bywyd ar y Ddaear, o organebau ungellog i'r anifeiliaid infertebraidd a fertebraidd amlgellog, gan gysylltu ffurf â swyddogaeth a'r digwyddiadau esblygiadol allweddol sydd wedi digwydd.
Egwyddorion sylfaenol ecoleg a'r berthynas rhwng rhywogaethau sy'n cwmpasu trosglwyddo ynni, rhyngweithiadau o fewn a rhwng rhywogaethau, defnyddio adnoddau ac ati.
Pwysigrwydd planhigion fel cynhyrchwyr cynradd, eu morffoleg, eu ffisioleg a'u haddasiadau ecolegol.
Egwyddorion geneteg o foleciwlau i boblogaethau a rhywogaethau.
Adeiledd a swyddogaeth celloedd ewcaryotig a chemeg moleciwlau mewn celloedd.
Fforenseg bywyd gwyllt gan ddefnyddio entomoleg ac ecotocsicoleg fforensig, a'r defnydd o ddulliau 'bargodio' DNA er mwyn helpu i ddatrys troseddau bywyd gwyllt.
Gallwch hefyd ddilyn pynciau sy'n gysylltiedig â'r prosesau amgylcheddol mawr ar y Ddaear sydd wedi dylanwadu ar fflora a ffawna, hanes ein dealltwriaeth o Fioleg a sut mae wedi datblygu dros amser, ac amrywiaeth bywyd microbaidd a'u pwysigrwydd fel pathogenau, cydymddibynwyr ac yn yr ecosystem.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:
Bioleg anifeiliaid infertebraidd a fertebraidd yn cwmpasu eu hesblygiad, eu ffisioleg, eu hecoleg ac ati.
Esblygiad organebau gan gynnwys rhywogaethu, ffylogeneteg a geneteg poblogaeth.
Ymddygiad anifeiliaid gan gynnwys ei swyddogaeth, achosiaeth, datblygiad ac esblygiad.
Egwyddorion ac arfer ystod o weithdrefnau meintiol ac ansoddol sylfaenol, dadansoddi, dehongli a gwerthuso data.
Cewch hefyd astudio pynciau sy'n ymwneud â chadwraeth rhywogaethau a rheoli cynefinoedd, rôl gerddi swolegol ar gyfer gwarchod anifeiliaid, a thaith maes i Beriw.
Mae cyfleoedd hefyd i wella eich sgiliau cyflogadwyedd drwy astudio eich ail flwyddyn mewn sefydliad Ewropeaidd (taith gyfnewid ERASMUS+) neu Ogledd America. Neu gallwch wneud blwyddyn mewn gwaith rhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch profiad gwaith a fydd yn berthnasol i'ch gradd mewn Swoleg. Os na allwch sicrhau profiad gwaith yna byddwch yn trosglwyddo i'r chwaer gwrs, sef BSc Swoleg (C300).
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cael eich addysgu am:
Ffisioleg ymddygiadol, gan fanylu ar y mecanweithiau sy'n sail i ymddygiad ac uwch ymddygiadau gan gynnwys cyfeiriadedd a mordwyo.
Ecoleg poblogaeth gan ganolbwyntio ar y modelau a ddefnyddir i gyfri am ddosbarthiad a helaethrwydd organebau.
Traethawd hir gorfodol o dan oruchwyliaeth aelod o staff addysgu Swoleg.
Gallwch hefyd astudio pynciau sy'n gysylltiedig â chadwraeth bywyd gwyllt a phwysigrwydd geneteg o ran gwarchod rhywogaethau, parasitoleg sy'n cwmpasu amrywiaeth parasitiaid a'u potensial i achosi afiechyd, y bygythiadau presennol ac yn y dyfodol i rywogaethau ac ecosystemau, a lles anifeiliaid gan gynnwys y nodweddion ymddygiadol a ffisiolegol sy'n gysylltiedig â phoen a straen.