Mae'r cwrs yn un amser llawn sy'n para 17 mis ac yn dechrau ym mis Ionawr.
Yn ystod y ddau semester cyntaf byddwch yn cwblhau 120 o gredydau trwy gwrs. Mae'r trydydd semester wedi'i neilltuo i’r prosiect MSc (60 credyd).
Yr amser cyswllt ar gyfer y cwrs hwn yw tua 12 awr yr wythnos yn y ddau semester cyntaf. Yn semester 3, byddwch yn trefnu lefel eich amser cyswllt gyda'ch arolygwr penodedig.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Yn ystod y ddau semester cyntaf byddwch yn ymgymryd â nifer o fodiwlau craidd a dewisol. Cyflwynir y modiwlau trwy ddarlithoedd, dosbarthiadau problem, seminarau, gweithdai, prosiectau grŵp ac unigol, a chyfres o ddarlithwyr gwadd. Mae'r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol:
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o’r egwyddorion dylunio a ddefnyddir mewn systemau meddalwedd i ateb gofynion diogelwch, perfformiad, dibynadwyedd ac ansawdd y gwasanaeth.
- Ymwybyddiaeth feirniadol o arfer cyfredol, cyfleoedd a chyfyngiadau sy'n ymwneud â pheirianneg meddalwedd uwch.
- Gwybodaeth am y materion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol sy'n berthnasol i ddatblygu a darparu meddalwedd.
- Dealltwriaeth o safonau, arferion gorau a materion cyfreithiol pwysig sy'n rheoli’r gwaith o adeiladu, gweithredu a defnyddio systemau meddalwedd.
- Gwybodaeth am fframweithiau, offer a thechnegau pensaernïol pwysig er mwyn datblygu systemau meddalwedd cymhleth.
- Ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddatblygiadau diweddar yn y ddisgyblaeth.
- Gwybodaeth am nifer o ddulliau datblygu y gellid eu defnyddio wrth ddatblygu systemau cymhleth.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
Mae'r dulliau asesu yn cynnwys cymysgedd o aseiniadau ysgrifenedig, aseiniadau rhaglennu, portffolio ymarferol, arholiadau ymarferol, cyflwyniadau llafar, ac arholiadau ysgrifenedig. Bydd cyflwyno eich Prosiect MSc yn llwyddiannus yn semester 3 yn arwain at ddyfarnu'r MSc.