MSc

Cyfrifiadureg Uwch (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Ionawr 2025

Caiff meddalwedd gyfoes ei datblygu fel arfer mewn timau trwy ddulliau ystwyth. Mae angen cyfuno sgiliau peirianneg meddalwedd cryf a gwybodaeth dechnegol arbenigol â sgiliau cynllunio, gwaith tîm a chyfathrebu er mwyn datblygu rhaglenni yn brydlon ac o fewn y gyllideb. Nod yr MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) ym Mhrifysgol Aberystwyth yw datblygu'r sgiliau hyn ac mae'n addas i fyfyrwyr sy'n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiant meddalwedd. Gall hefyd arwain at yrfa mewn ymchwil. 

Mae hon yn rhaglen hyblyg sy'n eich rhoi mewn sefyllfa i arbenigo mewn ystod eang o feysydd, o ddatblygu meddalwedd i ddysgu peirianyddol, ac ennill profiad gwaith gwerthfawr ar yr un pryd yn ystod y flwyddyn mewn diwydiant. Mae'r radd Cyfrifiadureg Uwch yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â gradd gyntaf mewn unrhyw bwnc Cyfrifiadura sy'n awyddus i gyflymu eu gyrfa fel peiriannydd meddalwedd. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.0 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Rhaglen amser llawn 29 mis yw hon, ond mae'n dechrau ym mis Ionawr yn hytrach na mis Medi. Mae'r elfen a gyflwynir trwy gwrs yn union yr un fath â’r cwrs MSc Cyfrifiadureg Uwch (G493), ac ar ôl hynny byddwch yn treulio blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant. Byddwch yn cael cefnogaeth i wneud cais am swyddi addas yn y diwydiant meddalwedd a bydd gofyn i chi ysgrifennu adroddiad ar eich profiad gwaith. Os na fyddwch yn llwyddo i sicrhau lleoliad diwydiannol neu os na fyddwch yn ei gwblhau'n llwyddiannus, gallwch fynd yn ôl i'r cwrs safonol. 

Mae'r cwrs yn ehangu eich profiad o'r offer, y dulliau a'r technegau a ddefnyddir gan beirianwyr meddalwedd proffesiynol, ac yn canolbwyntio ar gymhwyso peirianneg meddalwedd uwch, a’ch paratoi am swyddi cyfrifol yn y diwydiant meddalwedd. Beth bynnag yw eich profiad blaenorol neu eich dyheadau ar gyfer y dyfodol, ar y cwrs hwn byddwch yn elwa ar gyfuno damcaniaeth arloesol a chymwysiadau ymarferol mewn adran o'r radd flaenaf. 

Mae pynciau prosiect MSc diweddar yn cynnwys dysgu peirianyddol ar gyfer y rhyngrwyd pethau, cymwysiadau realiti estynedig ar gyfer twristiaeth, dadansoddi a rheoli data allyriadau amaethyddol, canfod ymyrraeth rhwydwaith a rheoli'r gadwyn gyflenwi. 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae'r cwrs yn dechrau ym mis Ionawr ac yn para 30 mis. 

Modiwlau Dechrau Ionawr - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agile Software Development Project CSM2020 20
Research Topics in Computing SEM1020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Data Analytics CSM6720 20
Computational Intelligence CSM6520 20
Machine Learning for Intelligent Systems CSM6420 20
Fundamentals of Intelligent Systems CSM6120 20
Internet Technologies CHM5720 20
Modelling, Managing and Securing Data CSM3120 20
Statistical Concepts, Methods and Tools MAM5120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
MSC Project CHM9360 60

Gyrfaoedd

Mae ein graddau Meistr trwy gwrs wedi'u cynllunio i ateb anghenion myfyrwyr sy'n awyddus i ehangu eu sgiliau er mwyn cyflymu eu gyrfa ddiwydiannol neu'r rhai sy'n chwilio am sylfaen i yrfa mewn ymchwil. Mae cyfleoedd gwaith i wyddonwyr cyfrifiadurol yn eang, ac yn cynnwys ymgynghorwyr TG a darparwyr gwasanaethau TG, sectorau awyrofod ac amddiffyn, gwasanaethau amaethyddol ac ariannol, telathrebu, gofal iechyd, gweithgynhyrchu, manwerthu, y sector cyhoeddus, a'r trydydd sector. Mae graddedigion hefyd yn sefydlu eu cwmnïau eu hunain, gan ddarparu gwasanaethau dylunio gwefannau ac ymgynghori. 

Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol roi cyngor ar gyfleoedd cyflogaeth, sefydlu eich busnes eich hun, a gweithio'n llawrydd. 

Dysgu ac Addysgu

Sut y byddaf yn cael fy nysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn sefydlu ystod eang o sgiliau hanfodol mewn nifer o fodiwlau craidd, ac yn cyfarwyddo eich astudiaeth eich hun trwy ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau arbenigol. Yn yr ail flwyddyn, byddwch hefyd yn ennill profiad gwerthfawr yn gweithio mewn diwydiant ac yn cymhwyso'r hyn rydych chi wedi ei ddysgu yn y Prosiect unigol. 

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Yn ystod y ddau semester cyntaf byddwch yn ymgymryd â nifer o fodiwlau craidd a dewisol. Cyflwynir y modiwlau trwy ddarlithoedd, dosbarthiadau problem, seminarau, gweithdai, prosiectau grŵp ac unigol, a chyfres o ddarlithwyr gwadd. Mae'r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol: 

  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o’r egwyddorion dylunio a ddefnyddir mewn systemau meddalwedd i ateb gofynion diogelwch, perfformiad, dibynadwyedd ac ansawdd y gwasanaeth. 
  • Ymwybyddiaeth feirniadol o arfer cyfredol, cyfleoedd a chyfyngiadau sy'n ymwneud â pheirianneg meddalwedd uwch. 
  • Gwybodaeth am y materion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol sy'n berthnasol i ddatblygu a darparu meddalwedd. 
  • Dealltwriaeth o safonau, arferion gorau a materion cyfreithiol pwysig sy'n rheoli’r gwaith o adeiladu, gweithredu a defnyddio systemau meddalwedd. 
  • Gwybodaeth am fframweithiau, offer a thechnegau pensaernïol pwysig er mwyn datblygu systemau meddalwedd cymhleth. 
  • Ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddatblygiadau diweddar yn y ddisgyblaeth. 
  • Gwybodaeth am nifer o ddulliau datblygu y gellid eu defnyddio wrth ddatblygu systemau cymhleth. 

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn datblygu sgiliau proffesiynol perthnasol trwy eich lleoliad gwaith. Byddwch hefyd yn cwblhau eich prosiect Meistr, ac yn trefnu lefel eich amser cyswllt gyda'ch arolygwr penodedig. 

Sut y byddaf yn cael fy asesu?  

Mae'r dulliau asesu yn cynnwys cymysgedd o aseiniadau ysgrifenedig, aseiniadau rhaglennu, portffolio ymarferol, arholiadau ymarferol, cyflwyniadau llafar, ac arholiadau ysgrifenedig. Bydd cyflwyno eich Prosiect MSc yn llwyddiannus yn semester 3 yn arwain at ddyfarnu'r MSc. 

|