MSc

Cyfrifiadureg Uwch (gyda lleoliad diwydiannol integredig)

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Ionawr 2026

Caiff meddalwedd gyfoes ei datblygu fel arfer mewn timau trwy ddulliau ystwyth. Mae angen cyfuno sgiliau peirianneg meddalwedd cryf a gwybodaeth dechnegol arbenigol â sgiliau cynllunio, gwaith tîm, a chyfathrebu er mwyn datblygu rhaglenni yn brydlon ac o fewn i’w cyllideb. Nod yr MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch (gyda lleoliad diwydiannol integredig) ym Mhrifysgol Aberystwyth yw datblygu'r sgiliau hyn ac mae'n addas i fyfyrwyr sy'n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiant meddalwedd. Gall hefyd arwain at yrfa mewn ymchwil. 

Mae hon yn rhaglen hyblyg sy'n eich rhoi mewn sefyllfa i arbenigo mewn ystod eang o feysydd, o ddatblygu meddalwedd i ddysgu peirianyddol, ac ennill profiad gwaith gwerthfawr ar yr un pryd ar y lleoliad diwydiannol. Mae'r radd Cyfrifiadureg Uwch yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â gradd gyntaf mewn unrhyw bwnc Cyfrifiadura sy'n awyddus i gyflymu eu gyrfa fel peiriannydd meddalwedd. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.0 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants are encouraged to submit an up-to-date CV as part of their application.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

This is a full-time programme of 17 months duration, but commences in January rather than September. You will undertake an industrial placement during the summer months, following the first semester. The taught component of this course is identical to MSc Advanced Computer Science (G493).

This course broadens your experience of the tools, methods and techniques used by professional software engineers, and focuses on the application of advanced software engineering, preparing you for responsible positions in the software industry. Whatever your own previous experience or future aspirations, with this course you will benefit from the marvellous integration of cutting-edge theory and practical application within a world-class department.

Recent MSc project topics include machine learning for the internet of things, augmented reality applications for tourism, analysis and management of agricultural emissions data, network intrusion detection and supply chain management.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae'r cwrs yn dechrau ym mis Ionawr ac yn para 17 mis.  

Bydd y lleoliad diwydiannol yn cael ei gynnal yn ystod yr haf. 

Gyrfaoedd

Mae ein graddau Meistr trwy gwrs wedi'u cynllunio i ateb anghenion myfyrwyr sy'n awyddus i ehangu eu sgiliau er mwyn cyflymu eu gyrfa ddiwydiannol neu'r rhai sy'n chwilio am sylfaen i yrfa mewn ymchwil. Mae cyfleoedd gwaith i wyddonwyr cyfrifiadurol yn eang, ac yn cynnwys ymgynghorwyr TG a darparwyr gwasanaethau TG, sectorau awyrofod ac amddiffyn, gwasanaethau amaethyddol ac ariannol, telathrebu, gofal iechyd, gweithgynhyrchu, manwerthu, y sector cyhoeddus, a'r trydydd sector. Mae graddedigion hefyd yn sefydlu eu cwmnïau eu hunain, gan ddarparu gwasanaethau dylunio gwefannau ac ymgynghori. 

Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol roi cyngor ar gyfleoedd cyflogaeth, sefydlu eich busnes eich hun, a gweithio'n llawrydd. 

Dysgu ac Addysgu

Sut y byddaf yn cael fy nysgu? 

Byddwch yn sefydlu ystod eang o sgiliau hanfodol trwy nifer o fodiwlau craidd, ac yn cyfarwyddo eich astudiaeth eich hun trwy ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau arbenigol. Byddwch hefyd yn ennill profiad gwerthfawr yn gweithio mewn diwydiant ac yn cymhwyso'r hyn rydych chi wedi ei ddysgu yn y Prosiect unigol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?  

Yn ystod y ddau semester cyntaf byddwch yn ymgymryd â nifer o fodiwlau craidd a dewisol. Cyflwynir y modiwlau trwy ddarlithoedd, dosbarthiadau problem, seminarau, gweithdai, prosiectau grŵp ac unigol, a chyfres o ddarlithwyr gwadd. Mae'r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol: 

  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o’r egwyddorion dylunio a ddefnyddir mewn systemau meddalwedd i ateb gofynion diogelwch, perfformiad, dibynadwyedd ac ansawdd y gwasanaeth. 
  • Ymwybyddiaeth feirniadol o arfer cyfredol, cyfleoedd a chyfyngiadau sy'n ymwneud â pheirianneg meddalwedd uwch. 
  • Gwybodaeth am y materion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol sy'n berthnasol i ddatblygu a darparu meddalwedd. 
  • Dealltwriaeth o safonau, arferion gorau a materion cyfreithiol pwysig sy'n rheoli’r gwaith o adeiladu, gweithredu a defnyddio systemau meddalwedd. 
  • Gwybodaeth am fframweithiau, offer a thechnegau pensaernïol pwysig er mwyn datblygu systemau meddalwedd cymhleth. 
  • Ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddatblygiadau diweddar yn y ddisgyblaeth. 
  • Gwybodaeth am nifer o ddulliau datblygu y gellid eu defnyddio wrth ddatblygu systemau cymhleth. 

Sut y byddaf yn cael fy asesu?  

Mae'r dulliau asesu yn cynnwys cymysgedd o aseiniadau ysgrifenedig, aseiniadau rhaglennu, portffolio ymarferol, arholiadau ymarferol, cyflwyniadau llafar, ac arholiadau ysgrifenedig. Bydd cyflwyno eich Prosiect MSc yn llwyddiannus yn semester 3 yn arwain at ddyfarnu'r MSc. 

|