Addysg (Cymru)
Mae'r MA Addysg (Cymru) cenedlaethol yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr. Mae'r byd addysg yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru-yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol. Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu a Dr Andrew Davies am fwy o wybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am bolisïau ac i gael y ffurflen gais atodol, ewch i'n tudalen bwrpasol.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Trosolwg o'r Cwrs
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Modiwlau Dechrau Medi - 2023
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol | ADM2220 | 20 |
Ymarfer wedi'i Lywio gan Dystiolaeth | ADM2120 | 20 |
Addysgeg ac Ymarfer | ADM2020 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch | ADM3120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Archwilio Addysgeg | ADM2420 | 20 |
Arwain Newid Sefydliadol | ADM3020 | 20 |
Arwain a Rheoli ADY | ADM2920 | 20 |
Arwain a Rheoli gweithwyr addysg proffesiynol | ADM2620 | 20 |
Curriculum Design and Realisation | EDM2820 | 20 |
Cynllunio a Gwireddu Cwricwlwm | ADM2820 | 20 |
Emotional Health, Mental Health and Wellbeing | EDM2320 | 20 |
Equity and Diversity | EDM2720 | 20 |
Exploring Pedagogies | EDM2420 | 20 |
Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles | ADM2320 | 20 |
Inclusive Classroom Practice | EDM2520 | 20 |
Leadership and Management of ALN | EDM2920 | 20 |
Leading Organisational Change | EDM3020 | 20 |
Leading and Managing Education Professionals | EDM2620 | 20 |
Tegwch ac Amrywiaeth | ADM2720 | 20 |
Ymarfer Cynhwysol yn yr Ystafell Ddosbarth | ADM2520 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Traethawd Hir | ADM3260 | 60 |
Dysgu ac Addysgu
Tystiolaeth Myfyrwyr
|