BSc

Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod 4D12 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r radd BSc Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i chynllunio i ateb y galw mawr am raddedigion sydd am ddatblygu dealltwriaeth gadarn o amaethyddiaeth a rheoli busnes a bydd yn rhoi hyfforddiant arbenigol i chi ym maes rheoli busnes i ategu eich astudiaeth o amaethyddiaeth. Bydd eich blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi gwell dealltwriaeth, gwybodaeth a phrofiad ymarferol i chi o weithio yn y sector amaethyddol modern, a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi ar ôl i chi raddio.   

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) yn rhoi ichi sylfaen drwyadl o sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol ym maes ffermio a masnach fel ei gilydd. Mae’r cynllun hwn yn addas i ymgeiswyr sydd heb gefndir amaethyddol, yn ogystal â rhai sydd â pheth gwybodaeth am amaethyddiaeth, gan ei fod yn rhoi gafael da ar systemau a gwyddor amaethyddiaeth ynghyd ag egwyddorion ac arferion busnes. 

Byddwch yn elwa o cael eich dysgu gan staff arbenigol sy’n ymwneud â’r Arolwg Busnes Fferm yng Nghymru, y ffynhonnell fwyaf awdurdodol o wybodaeth ariannol am fusnesau fferm. Mae’r Arolwg o Fusnesau Ffermio yn offeryn a fydd yn amhrisiadwy yn eich gwaith yn y dyfodol, gan eich galluogi i gymharu perfformiad a phroffidioldeb eich fferm â ffermydd eraill yn y DU a’r UE.     

Mae'r elfen a addysgir o’r radd Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant (4D12) yn union yr un fath â'i chwaer-gwrs tair blynedd BSc Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes (D4N2). Mae’r drydedd flwyddyn yn cael ei threulio yn gweithio ym myd diwydiant; caiff ei goruchwylio a’i hasesu, a bydd yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol. Yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant, byddwch yn talu ffi ddysgu ostyngedig.  

Mae Aberystwyth wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth fawr o dir fferm a thir amaethyddol. Bydd eich dysgu ymarferol yn cael ei leoli yn yr 800 hectar o ffermydd prifysgol a reolir yn fasnachol. Mae hyn yn cael ei ategu gan ymweliadau maes i ffermydd a busnesau amaethyddol a bwyd sy’n arweinwyr diwydiant ledled y DU ym maes arloesi ac arbenigedd technegol, a bydd hyn yn atgyfnerthu eich dysgu academaidd. 

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomeg a Gwelliant Cnydau BG27620 20
Farm Business Management and Appraisal BR21020 20
Livestock Production and Management BR28020 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bwyd, Ffermio, Technoleg a'r Amgylchedd BG29020 20
Entrepreneurship and New Venture Creation AB25220 20
Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd CB25220 20
Food, Farming, Technology and the Environment BR29020 20
Human Resource Management * AB25420 20
Rheolaeth Adnoddau Dynol CB25420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Gyrfaoedd

Mae’r cyfuniad o wybodaeth a sgiliau y mae’r cynllun hwn yn ei gynnig yn ddeniadol iawn i gyflogwyr sy’n fusnesau amaethyddol a nifer o broffesiynau, gan gynnwys gwasanaethau cynghori ac ymgynghori a rheoli ffermydd ac ystadau yn ogystal â chyllido amaethyddol. Mae hefyd yn gymhwyster rhagorol ar gyfer gyrfa mewn busnesau eraill fel y sector bwyd a maeth sy’n tyfu’n gyflym. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?  

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf, cewch gyflwyniad i'r technolegau sy'n cael eu datblygu’n fwyfwy ar gyfer y diwydiant amaethyddol ac yn cael eu mabwysiadu yn y diwydiant. Byddwch yn edrych ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar sut y defnyddir y tir ac yn datblygu sgiliau rheoli busnes defnyddiol, gan gynnwys paratoi cyllidebau ffermydd a dadansoddi marchnadoedd nwyddau.  

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn edrych ar y diwydiannau da byw ym Mhrydain, strategaethau a systemau cynhyrchu cnydau, a byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi, creu cyllideb ac arfarnu busnes fferm.   

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn mynd ar brofiad gwaith mewn diwydiant sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth.  

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn edrych ar sut y defnyddir ymchwil i ddatblygu systemau mwy effeithlon i gynhyrchu anifeiliaid. Byddwch yn ystyried amaethyddiaeth a materion amaethyddol ar draws ystod o safbwyntiau penodol, yn amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol, ac yn meithrin dealltwriaeth o'r berthynas rhwng polisi, ffactorau economaidd-gymdeithasol, arferion amaethyddol a'r economi wledig. Bydd prosiect ymchwil yn rhoi cyfle i chi i wneud ymchwil fanwl o dan arweiniad arolygydd.  Gall eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion yn y labordy neu ymarferion gwaith maes, a chynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol neu ddadansoddi data. 

Mae modiwlau dewisol mewn egwyddorion marchnata, rheoli marchnata, entrepreneuriaeth, rheoli adnoddau dynol, arweinyddiaeth strategol, marchnata digidol a busnes digidol yn eich galluogi i ddewis yr elfennau busnes sydd o ddiddordeb i chi a theilwra eich cwrs yn unol â hynny. 

Bydd ymweliadau â ffermydd, canolfannau ymchwil, busnesau gwledig a sefydliadau sy’n ymwneud â rheoleiddio a rheoli cefn gwlad yn ran annatod o’r cwrs gan amlygu’r materion allweddol dan sylw a’ch galluogi i weld sut mae cymhwyso eich addysg ddamcaniaethol ac academaidd i fusnes ymarferol. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes.  

Asesu 

Cewch eich asesu drwy nifer o ddulliau gan gynnwys traethodau, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, llyfr nodiadau maes ac arholiadau. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae gan y cwrs Amaethyddiaeth gymysgedd gwych o fodiwlau sydd wedi agor fy llygaid i lawer o agweddau eraill ar amaethyddiaeth. Fel arfer mae'r wybodaeth am bynciau pwysig a gaiff ei rhoi mewn darlithoedd yn syml ond yn drylwyr, sy'n golygu bod y gwaith yn hawdd ei ddeall a'i gofio. Mae'r ymweliadau â'r ffermydd yn brofiad da hefyd, gan eu bod yn rhoi cyfle i chi gael arsylwi a deall gwahanol systemau. Mae'n ddiddorol clywed safbwyntiau'r ffermwyr a'r gwahanol ffyrdd maen nhw'n cyflwyno systemau i weddu i'w busnes hefyd. Aled Rhys Lewis

Mae Busnes a Rheolaeth yn rhoi cipolwg academaidd ar ymddygiad busnesau yn eu hamgylcheddau allanol a mewnol, gan alluogi unigolion i amgyffred cyd-destun ehangach gweithrediadau yn llawn mewn cyd-destun byd-eang, mewn modd addysgiadol a diddorol. Mae'n amrywiol gan ei fod yn archwilio ystod o bynciau busnes. Caiff myfyrwyr brofi economeg, cyfrifo a marchnata, gan ddarparu sail gref mewn ystod eang o feysydd busnes y gellir ehangu arnynt yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. Roedd y modiwlau yn paratoi unigolion i ddeall amrywiaeth o weithrediadau busnes. Andrea Jane Phillips

Mae'r cwrs wedi bod yn help mawr i fi, ac wedi rhoi hyder i fi ym maes marchnata a busnes, yn enwedig pan oedden ni'n gweithio fel ymgynghorwyr busnes ar gyfer Aber Town Trader o fewn Astudiaethau Achos Marchnata. Mae'n rhoi cipolwg i ni o waith yn y dyfodol, ac mae'n brofiad gwaith gwych i fyfyrwyr. Roedd Cyfathrebu Marchnata y tymor diwethaf hefyd yn bwnc diddorol iawn, gan i ni ddysgu a dadansoddi gwahanol ddulliau cyfathrebu mae cwmnïau'n eu defnyddio i farchnata er mwyn cyrraedd eu cynulleidfa darged a chwsmeriaid posib. Mae'r cyfleoedd hyn wedi bod yn wych, ac yn dda i'w rhoi ar eich CV fel profiadau! Dwynwen Medi Evans

Mae astudio Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy nealltwriaeth, a gwerthfawrogi'r byd rydyn ni'n byw ac yn gweithio ynddo yn well. Gyda dealltwriaeth gyfyngedig o Fusnes a Rheolaeth cyn astudio, rydw i wedi cael budd mawr o'r cwrs yma, a'r gallu i ddewis a dethol pa lwybr roeddwn i eisiau ei ddilyn. Drwy ystod o sesiynau dysgu rhyngweithiol ac yn y dosbarth, blodeuodd fy angerdd tuag at y pwnc. Mae'r radd yma wedi sbarduno fy awydd i barhau ag addysg i'r lefel nesaf, er mwyn sicrhau dealltwriaeth fwy trylwyr o'r amgylchedd busnes. Peter Hamilton-Gray

Beth ydw i'n ei hoffi fwyaf am Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? Y bobl - myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd, oll yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau ac yn dysgu gyda'i gilydd; darlithwyr sy'n angerddol am eu pwnc, sy'n agos-atoch chi. Y lle - y bryniau gwyrdd, coedwigoedd tawel, golygfeydd syfrdanol, a'r môr. Y cwrs - dysgu am bwnc sy'n sylfaenol i gymdeithas; ehangu fy meddwl gyda gwybodaeth newydd, a rhynnu ar glosydd fferm rhewllyd (wir, roedd boddhad yn hynny hyd yn oed!). Dyna'r pethau gorau am amaethyddiaeth yma. Benjamin David Latham

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|