BSc

Amaethyddiaeth (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Amaethyddiaeth (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod D401 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Drwy ddewis astudio Amaethyddiaeth (D401) ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn ymuno ag un o'r adrannau mwyaf uchel eu parch ym Mhrydain. Amaethyddiaeth yw prif gynheiliad cymunedau gwledig ac mae'n un o'n sectorau diwydiannol mwyaf sylweddol. Mae ehangder y radd Amaethyddiaeth yn cynnwys arallgyfeirio amaethyddol, rheoli'r amgylchedd a systemau cynhyrchu amaethyddol, a bydd yn cynnig dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol i chi ar sut i reoli busnes cynaliadwy. Ar ôl cwblhau'r radd mewn Amaethyddiaeth yn llwyddiannus a chael mynediad i'r ffermydd prifysgol niferus a lleoliad gwaith naw mis, bydd gennych y galluoedd a'r sgiliau craidd y mae cyflogwyr yn galw amdanynt. 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r radd BSc mewn Amaethyddiaeth yn cynnig ymdriniaeth fanwl i chi o amaethyddiaeth a systemau cynhyrchu amaethyddol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o bynciau hanfodol bwysig fel cynaliadwyedd, rheolaeth amgylcheddol a thechnoleg. Bydd yn rhoi i chi’r ddealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol sydd ei hangen i reoli busnes cynaliadwy, a’ch paratoi i fabwysiadu’r arferion gorau, wedi'u llywio gan ymchwil gyfredol, i fynd i'r afael â’r heriau a ddaw o reoli da byw a chnydau a chael y gorau o'ch busnes amaethyddol.   

Mae'r elfen a addysgir o’r radd Amaethyddiaeth gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant (D401) yn union yr un peth â'i chwaer-gwrs tair blynedd BSc Amaethyddiaeth (H21Y). Mae’r drydedd flwyddyn yn cael ei threulio yn gweithio ym myd diwydiant; caiff ei goruchwylio a’i hasesu, a bydd yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol. Yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant, byddwch yn talu ffi ddysgu ostyngedig.  

Byddwch yn astudio cyfuniad diddorol o wyddoniaeth, technoleg a rheoli ynghyd â sylfaen gadarn mewn ffisioleg a hwsmonaeth anifeiliaid a chnydau yn ogystal â busnes, economeg a defnydd tir. Byddwch yn symud ymlaen i ddysgu am systemau cynhyrchu cyfredol a rhagamcanol o safbwyntiau cynhyrchu, arian a’r amgylchedd, a bod yn agored i arfer gorau gan ymgyfarwyddo â'r ymchwil ddiweddaraf.  

Yn ogystal, byddwch yn ymgyfarwyddo â rôl yr Arolwg o Fusnesau Ffermio o ran dadansoddi a meincnodi cymharol - offeryn a fydd yn amhrisiadwy yn eich gwaith yn y dyfodol, â’ch galluogi i gymharu perfformiad a phroffidioldeb eich fferm â ffermydd eraill yn y DU a’r UE.     

Mae Aberystwyth wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth fawr o dir fferm a thir amaethyddol. Bydd eich dysgu ymarferol yn cael ei leoli yn yr 800 hectar o ffermydd prifysgol a reolir yn fasnachol. Mae hyn yn cael ei ategu gan ymweliadau maes i ffermydd a busnesau amaethyddol a bwyd sy’n arweinwyr diwydiant ledled y DU ym maes arloesi ac arbenigedd technegol, a bydd hyn yn atgyfnerthu eich dysgu academaidd.  

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiadau mewn Amaethyddiaeth BG39920 20
Farm Planning and Advanced Farm Management BR31620 20
Adolygiad critigol BG36320 20
Agricultural Research Project BR32620 20
Critical Review BR36320 20
Prosiect Ymchwil Amaethyddiaeth BG32620 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Crop and Grassland Production BR37220 20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw BG30820 20
Livestock Production Science BR30820 20
Marketing and Small Business Management BR34720 20
Sustainable Land Management BR30420 20

Gyrfaoedd

Bydd eich BSc mewn Amaethyddiaeth yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant pellach. Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus mewn sawl maes ym myd amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig, gan gynnwys rheoli mentrau amaethyddol a ffermydd, iechyd a maeth anifeiliaid, gweinyddu a gwleidyddiaeth amaethyddol, agronomeg cnydau a glaswelltir, yn ogystal â gyrfaoedd gweinyddol, ymgynghori a gwerthu gyda chwmnïau cyflenwadau amaethyddol, ac ystod eang o swyddi yn y diwydiannau ategol. Drwy gydol eich hyfforddiant byddwch yn datblygu cyfoeth o sgiliau y gellir eu trosglwyddo'n hawdd i bron unrhyw sefyllfa cyflogaeth raddedig neu broffesiynol. 

 Ar ôl cwblhau blwyddyn mewn diwydiant byddwch yn gallu:  

  • defnyddio’r hyn a ddysgwch ar eich cwrs ym myd gwaith  
  • gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant  
  • datblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio  
  • cyfoethogi blwyddyn olaf eich astudiaethau am eich bod yn sylweddoli’n well sut i’w chymhwyso i'ch gyrfa  
  • cyfoethogi eich CV yn sylweddol a chynyddu eich rhagolygon o lwyddiant yn y farchnad swyddi.  

Sylwch nad yw lleoliadau gwaith ar gael yn awtomatig i bob ymgeisydd. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau eich lleoliad profiad gwaith eich hun, gyda chefnogaeth ein Cydlynydd Blwyddyn mewn Diwydiant a’r cynghorydd gyrfaoedd i gynyddu eich siawns o lwyddo. Os nad ydych yn llwyddo i sicrhau profiad gwaith, byddwch yn gallu trosi eich cwrs i fersiwn tair blynedd y radd BSc Amaethyddiaeth (H21Y).  

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r technolegau sy'n cael eu datblygu'n gynyddol ar gyfer y diwydiant amaethyddol ac sy'n cael eu defnyddio ganddynt. Byddwch yn ymchwilio i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddefnydd tir ac yn archwilio'r prif adnoddau sydd eu hangen i weithredu busnes gwledig. Byddwch yn ennill sgiliau rheoli busnes defnyddiol, gan gynnwys paratoi cyllidebau fferm a dadansoddi marchnadoedd nwyddau.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio effaith systemau amaethyddiaeth a chyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Byddwch yn archwilio diwydiannau da byw Prydain, systemau a strategaethau cynhyrchu cnydau, ac yn dysgu sut i ddadansoddi, cyllidebu ac arfarnu busnes fferm.

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn mewn diwydiant neu ar fferm neu mewn busnes sy'n gysylltiedig ag amaeth, gan ennill profiad gwaith gwerthfawr a rhoi cyfle i chi ddefnyddio eich gwybodaeth academaidd. Bydd darpar gyflogwyr yn edrych yn ffafriol iawn ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad y byddwch yn eu hennill yn ystod y flwyddyn hon.

Yn y bedwaredd flwyddyn, byddwch yn edrych ar dechnegau cynllunio busnes, ac yn dysgu sut i lunio cynlluniau busnes fferm cwbl fanwl. Byddwch hefyd yn edrych ar y datblygiadau diweddar mewn systemau cynhyrchu cnydau, strategaethau bridio planhigion modern a'r defnydd o gnydau ar gyfer cynhyrchu bio-ynni, ynghyd â systemau cynhyrchu anifeiliaid ac effeithiau amgylcheddol gwahanol systemau amaethyddol. Bydd cwrs maes wythnos o hyd, sy'n cynnwys ymweliadau â ffermydd, busnesau gwledig a sefydliadau sy'n ymwneud â rheoleiddio a rheoli cefn gwlad, yn eich galluogi i weld defnydd busnes ymarferol eich dysgu damcaniaethol ac academaidd.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y cwrs hwn drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes. Bydd rhai agweddau ar y cwrs yn dibynnu ar e-ddysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, gyda chymorth gweithdai cyfrifiadurol. Bydd gennych nifer o gyfleoedd i gymhwyso eich dysgu academaidd mewn gweithgareddau ymarferol a gweithdai. Byddwch hefyd yn edrych ar y cysylltiad rhwng ymchwil a dadansoddi a'u hallbynnau yn y byd go iawn ar ffurf gwell technoleg, cnydau a lles anifeiliaid.

Asesu

Byddwch yn cael eich asesu drwy amryw o ddulliau gan gynnwys traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, ymarferion ystadegol, wicis, dyddiaduron myfyriol, cynlluniau busnes, adolygiadau llenyddiaeth, erthyglau cylchgrawn, llyfrau nodiadau maes ac arholiadau. Bydd traethawd hir gorfodol yn eich blwyddyn olaf yn eich galluogi i gynnal ymchwil manwl o dan arweiniad goruchwyliwr. Gall eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion labordy neu ymarferion gwaith maes, gan gynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol, neu gynnwys adolygiad beirniadol o lenyddiaeth wyddonol gyhoeddedig.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae gan y cwrs Amaethyddiaeth (D401) gymysgedd gwych o fodiwlau sydd wedi agor fy llygaid i lawer o agweddau eraill ar amaethyddiaeth. Fel arfer mae'r wybodaeth am bynciau pwysig a gaiff ei rhoi mewn darlithoedd yn syml ond yn drylwyr, sy'n golygu bod y gwaith yn hawdd ei ddeall a'i gofio. Mae'r ymweliadau â'r ffermydd yn brofiad da hefyd, gan eu bod yn rhoi cyfle i chi gael arsylwi a deall gwahanol systemau. Mae hefyd yn ddiddorol clywed barn ffermwyr a'r gwahanol ffyrdd maen nhw'n gweithredu systemau sy'n gweddu i'w busnes. Aled Rhys Lewis

Beth ydw i'n ei hoffi fwyaf am Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? Y bobl - myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd, i gyd yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau ac yn dysgu gyda'i gilydd; darlithwyr sy'n angerddol am eu pwnc, sy'n agos-atoch chi. Y lle - y bryniau gwyrdd, coetiroedd tawel, golygfeydd trawiadol, a'r môr. Y cwrs - dysgu am bwnc sy'n sylfaenol i gymdeithas; ehangu fy meddwl gyda gwybodaeth newydd, a rhynnu ar glosydd fferm rhewllyd (wir, roedd boddhad yn hynny hyd yn oed!). Dyna dw i'n ei hoffi am astudio amaethyddiaeth yma. Benjamin David Latham

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|