BA

Cymdeithaseg

Bydd y radd BA mewn Seicoleg gyda Blwyddyn Sylfaen integredig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich hyfforddi i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o'r byd cymdeithasol, a byddwch hefyd yn dysgu sut i ymwneud â'r byd hwnnw. Trwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn datblygu gwybodaeth drwyadl am y dulliau cysyniadol a damcaniaethol y mae cymdeithasegwyr wedi'u defnyddio i astudio'r byd o'n cwmpas. Byddwch hefyd yn datblygu eich gallu i ddadansoddi ffenomenau cymdeithasol trwy gyfrwng hyfforddiant mewn casglu, dadansoddi a chyflwyno data cymdeithasegol.

Mae'r flwyddyn sylfaen integredig wedi'i chynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd digonol neu berthnasol - mae'n llwybr delfrydol i gael mynediad i'r cynllun poblogaidd hwn. Yn y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn dysgu am gysyniadau allweddol Cymdeithaseg o safbwynt rhyngddisgyblaethol. Mae hyn yn rhoi profiad unigryw a golwg feirniadol ichi ar gyfer gwneud y mwyaf o'ch gradd israddedig gyflawn.

Mae rhai o'r agweddau neilltuol ar ddull Aberystwyth o ymdrin â Chymdeithaseg yn cynnwys: 

  • pwysleisio gwerth ac arwyddocâd astudio Cymdeithaseg â'r pwyslais ar weithio yn y maes, gydag ymarferion maes yn cael eu cynnwys mewn modiwlau darlith, a modiwl Cymdeithaseg penodol yn y maes;
  • integreiddio safbwyntiau mwy cymhwysol i'r dysgu a wnawn ar themâu a chysyniadau allweddol ym maes Cymdeithaseg i ddangos ei arwyddocâd yn y byd go iawn (ac, wrth wneud hynny, helpu gyda chyflogadwyedd ein graddedigion Cymdeithaseg);
  • tynnu ar ein cryfderau ymchwil i sicrhau bod myfyrwyr yn elwa o ddirnadaethau damcaniaethol ac empirig arloesol o’r byd cymdeithasol.

Trosolwg o'r Cwrs

Ar ôl y flwyddyn sylfaen, mae maes llafur y cwrs hwn yn union yr un fath â'i chwaer gwrs [Cymdeithaseg, L300].

Byddwch chi’n:

  • gallu gwerthuso syniadau, cysyniadau a dulliau yn feirniadol ar draws y pwnc cyfan ac o fewn canghennau penodol Cymdeithaseg; 
  • gallu cynnal ymchwil annibynnol, gan gymhwyso ystod o sgiliau o ran casglu, dadansoddi a chyflwyno data; byddwch yn datblygu ystod o sgiliau ac yn gallu eu cymhwyso i amrywiaeth o faterion Cymdeithasegol; 
  • gallu cydnabod bod eich profiad dysgu wedi cael ei atgyfnerthu'n gadarnhaol drwy gael cyswllt ag ymchwil; 
  • gallu gwerthuso eich perfformiad eich hun mewn amrywiaeth o gyd-destunau dysgu ac o dan wahanol ddulliau asesu; 
  • gallu gweithio'n annibynnol, mewn tîm a chydag ymwybyddiaeth gymdeithasol o'r cyfraniad a wnaed gan ysgolheictod ac ymchwil gymhwysol yn eu disgyblaeth at bolisi cymdeithasol; 
  • meddu ar y sgiliau a'r ymwybyddiaeth angenrheidiol i chwilio am waith mewn amrywiaeth o yrfaoedd proffesiynol neu i ddechrau ymchwil ac astudiaethau ôl-raddedig.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
How to be a Student 1 GS09520 20
How to be a Student 2 GS09320 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Introduction to Social Science GS09720 20
The "Othered" Migrant: Social Science Perspectives GS09620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Representing the Other: Cultures and Clashes GS09820 20
Understanding Change - Environment, People, Places GS00820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Introducing Sociological Research GS17120 20
Key Concepts in Sociology GS16120 20
Place and Identity GS14220 20
Thinking Sociologically GS15120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Byw mewn Byd Peryglus DA10020 20
Conceptual and Historical Issues in Psychology PS11820 20
Conflict and Change: the making of urban and rural spaces GS10220 20
Globalization and Global Development IP12520 20
Living in a Dangerous World GS10020 20
Newid a gwrthdaro: Cynhyrchu gofodau gwledig a threfol DA10520 20
Studying Media FM10620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cementing Sociological Research GS20620 20
Genders and Sexualities GS20220 20
Sociological Research in the 'Field' GS21220 20
Sociological Theory GS25020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advertising FM21920 20
Astudio Cymru Gyfoes DA20820 20
Lleoli Gwleidyddiaeth DA23020 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Placing Culture GS22920 20
Placing Politics GS23020 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Everyday Social Worlds GS33320 20
Traethawd Estynedig Cymdeithaseg DA31240 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cenedlaetholdeb a chymdeithas DA32220 20
Gender and the Media FM38320 20
Memory Cultures: heritage, identity and power GS37920 20
Modern British Landscapes GS36220 20
Nation, Society, & Space GS33520 20
The Global Countryside: Geographical and Sociological Perspectives GS36820 20
The psychosocial century GS30020 20
Urban Risk and Environmental Resilience GS37520 20

Gyrfaoedd

Mae astudio Cymdeithaseg yn sylfaen gadarn ar gyfer ystod eang o yrfaoedd gan gynnwys y cyfryngau, gwaith cymdeithasol, datblygiad rhyngwladol, cyswllt cymunedol, a'r gwasanaeth sifil ymhlith llawer mwy. Y dyddiau hyn, mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion a chanddynt sgiliau amrywiol, yn cynnwys y gallu i feddwl yn ddadansoddol ac yn ddargyfeiriol. Bydd y radd hon yn rhoi ichi amrywiaeth o sgiliau hyblyg, a dyna pam mae graddedigion Cymdeithaseg yn apelio at gyflogwyr yn genedlaethol. 

Mae graddedigion wedi symud ymlaen i feysydd: 

  • Troseddeg, yr Heddlu; 
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol; 
  • Gwaith cymdeithasol; 
  • Polisi Cymdeithasol (gan gynnwys tai cyhoeddus, gwaith cymdeithasol, gweinyddiaeth llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol); 
  • Rheolaeth; 
  • Newyddiaduraeth; 
  • Cysylltiadau Cyhoeddus; 
  • Dysgu; 
  • Ymchwil.

Dysgu ac Addysgu

Yn y flwyddyn sylfaen gyntaf, cewch gyflwyniad i elfennau craidd Cymdeithaseg.

Yn ystod ail flwyddyn eich cwrs, cewch eich cyflwyno i brif gysyniadau, themâu a safbwyntiau Cymdeithaseg sy'n cynnwys: 

  • Cysyniadau allweddol a dulliau damcaniaethol sydd wedi datblygu, ac sy’n parhau i ddatblygu o fewn Cymdeithaseg; 
  • Y berthynas rhwng unigolion, grwpiau a strwythurau cymdeithasol; 
  • Amrywioldeb ac anghydraddoldebau cymdeithasol; 
  • Rôl prosesau a drefnir yn ddiwylliannol mewn bywyd; 
  • Prosesau sy'n sail i newid cymdeithasol; 
  • Cymeriad nodedig Cymdeithaseg mewn perthynas â ffurfiau eraill o ddealltwriaeth, megis ei pherthynas â disgyblaethau eraill ac ag esboniadau bob dydd; 
  • Y berthynas rhwng dadansoddi tystiolaeth a dadleuon cymdeithasegol; 

Yn ystod eich trydedd a phedwaredd flwyddyn, bydd yr addysgu yn ystyried:

  • Modiwlau gwybodaeth a dealltwriaeth graidd i ddatblygu eich medrau o ran modiwlau eich blwyddyn gyntaf; 
  • Amrywiaeth o ffynonellau data ansoddol, meintiol a digidol, strategaethau ymchwil a dulliau casglu a dadansoddi data; 
  • Pwysigrwydd materion moesegol wrth gasglu, dadansoddi a dadlau pob math o ddata cymdeithasegol; 
  • Dosbarthiadau ymarferol ac ymarferion gwaith maes.

Yn ystod y cwrs hwn, cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol a gwaith maes. Bydd eich asesiadau'n dibynnu ar y modiwlau yr ydych chi’n eu dewis, ond efallai y cewch eich asesu drwy gyfrwng y canlynol: Arholiadau; Dosbarthiadau ymarferol; Gwaith maes; Gwaith cwrs; Traethawd hir.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|