Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio'r wyddoniaeth y tu ôl i'r datblygiadau diweddaraf ym maes meddygaeth, maeth a fferylliaeth, yna rhaglen Biocemeg yn Aberystwyth yw'r radd i chi. Ar y rhaglen hon, byddwch yn archwilio'r technegau sydd wedi gweddnewid astudio bioleg celloedd, cemeg biolegol, metabolaeth, a geneteg foleciwlaidd. Bydd y radd Biocemeg yn eich cymhwyso ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd sy'n ymwneud yn benodol â'r ddisgyblaeth, fel gwyddorau biofeddygol, biotechnoleg ac ymchwil fferyllol. Yn ogystal, mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu ar y cwrs hwn yn rhai y mae galw uchel amdanynt gan gyflogwyr ym mhob maes, o addysgu i reoli. 

Trosolwg o'r Cwrs

Royal Society of Biology Accredited Degree

Pam astudio Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi wrth astudio bioleg gellog, foleciwlaidd a chemegol.
  • Byddwn yn meithrin eich chwilfrydedd deallusol a'ch ymarfer gwyddonol cyffredinol.
  • Caiff y pwnc ei addysgu gan arbenigwyr ym maes Biocemeg mewn canolfan ragoriaeth sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol.
  • Mae gan y Brifysgol gyfleusterau addysgu modern, ac mae wedi buddsoddi dros £55 miliwn o bunnoedd ynddynt.
  • Mae ein staff addysgu Biocemeg yn cael eu cydnabod fel addysgwyr arbenigol ac arloesol.

Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs hwn, BSc Biocemeg C700, yna mae'n bosib y bydd gennych ddiddordeb yn ein cwrs MBiol Biocemeg (C709) a'n cwrs BSc Geneteg a Biocemeg (CC47).

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Biological chemistry BR17320 20
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr BG16820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Molecular Biology and Bioinformatics BR20620 20
Cell and Cancer Biology BR25920 20
Practical Skills for Biochemists BR22920 20
Proteins and Enzymes BR26620 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Chromosome Dynamics BR21820 20
Evolution and Molecular Systematics BR21720 20
Immunology BR22220 20
One Health Microbiology BR26520 20
Practical and Professional Skills in Microbiology BR24720 20
Pynciau llosg yn y Biowyddorau BG21720 20
Sgiliau Ymarferol a Proffesiynol ym Microbioleg BG24720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Biotechnology BR35520 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Molecular Pharmacology BR36120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Molecular Biology of Development BR36020 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi?

Mae rhai o'n graddedigion wedi dilyn llwybrau gyrfa gyda'r canlynol: 

  • GlaxoSmithKline
  • Astra Zeneca
  • Addysg
  • Ymchwil
  • Labordai.

Beth fydda i'n ei gael o'm gradd?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gymdeithas Fiocemegol, sy'n llwyfan gwych i fyfyrwyr rwydweithio gydag eraill yn eu disgyblaeth.

Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol: 

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data;
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch;
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth;
  • y gallu i weithio'n annibynnol;
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser a'r gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a strwythuredig, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
  • gweithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio amrywiaeth y disgyblaethau biolegol sy'n cynnwys:

  • Adeiladwaith a swyddogaeth planhigion
  • Anifeiliaid a microbau ar lefel moleciwlau, organebau a chelloedd
  • Anifeiliaid fertebrat ac infertebratau mawr a fydd yn canolbwyntio ar ffisioleg, cyhyrau ac ymsymudiad, maetheg, endocrinoleg, systemau anadlu cardiofasgwlaidd a homeostasis
  • Amrywiaeth microbaidd  
  • Llystyfiant ac ecosystemau.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • Bioleg celloedd
  • Imiwnoleg
  • Cromosomau
  • Bioleg foleciwlaidd
  • Gweithdrefnau Ansoddol a Meintiol dadansoddi data

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio ac yn ymgymryd â'r canlynol:

  • Biowybodeg
  • Genomeg
  • Ffarmacoleg
  • Microbau
  • Traethawd hir gorfodol

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion. 

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • Traethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Taflenni gwaith
  • Adroddiadau
  • Ymarferion ystadegol
  • Coflenni
  • Posteri
  • Portffolios
  • Wicis
  • Dyddiaduron myfyriol
  • Adolygiadau llenyddiaeth
  • Erthyglau cylchgrawn
  • Llyfrau nodiadau maes
  • Arholiadau

Tystiolaeth Myfyrwyr

Fe wnaeth y cwrs Geneteg a Biocemeg wella fy mherfformiad proffesiynol a dylanwadu ar fy nghyflawniadau yn y dyfodol. Llwyddais i ddatblygu safbwynt gwyddonol ar fywyd wrth ddod i ddeall prosesau'r gwyddorau. Roeddwn i'n gwbl fodlon gyda fy nghwrs a byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sy'n angerddol am wyddoniaeth ac sy'n bwriadu dilyn gyrfa mewn amgylchedd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth. Zofia Slowik

Roedd cwricwlwm y cwrs Biocemeg yn llwyddo i daro cydbwysedd perffaith rhwng astudio cysyniadau ehangach sy'n allweddol i'r darlun cyflawn o wyddor bywyd a'r manylion llawer manylach ar feysydd penodol o fioleg foleciwlaidd. Roedd hi'n wych cael dysgu am bynciau arbenigol iawn mewn bioleg, a hefyd astudio ymagwedd at ymchwil sydd â chymwysiadau ehangach. Roedd astudio Biocemeg yn bleserus iawn, ac roedd yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau o ran modiwlau ac yn cadw'r pynciau a'r cysyniadau craidd wrth wraidd y cwrs bob amser. Alex Pike

Mae fy nghwrs yn cynnig ystod o opsiynau modiwl sy'n caniatáu i mi ddilyn fy niddordebau, yn ogystal â llawer o waith ymarferol i atgyfnerthu'r ddamcaniaeth. Carwyn John Evans

Mae Biocemeg yn gwrs diddorol a chystadleuol iawn sy'n fy helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth o feysydd meddygol a gwyddonol. Drwy gydol y cwrs Biocemeg rydw i wedi bod yn datblygu fy sgiliau ymarferol oherwydd fy mod i wedi treulio llawer o amser yn y labordai, yn cymryd rhan mewn llawer o arbrofion yn ystod y flwyddyn academaidd. Madalina Dragomir

Rhoddodd fy ngradd mewn Geneteg a Biocemeg sylfaen dda i mi a lwyddodd i fy mharatoi'n dda iawn ar gyfer astudio PhD. Mewn gwirionedd, ysbrydolodd un o'r cyrsiau, Mynegiant Genynnau a Geneteg Ddatblygiadol, fi i weithio ym maes Bioleg Ddatblygiadol, sef y maes rwy'n gweithio ynddo heddiw. Byddaf yn fythol ddiolchgar am y cyfle a roddwyd i fi a safon yr addysgu a dderbyniais. Roger – Athro mewn Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Copenhagen

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Cemeg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Chemistry at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Chemistry

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|