BSc Biocemeg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C701
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
C701-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y Cwrs
4 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
25%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrRhowch y dechrau gorau i'ch rhagolygon gyrfa gyda'n cwrs Biocemeg newydd gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi'r cyfle gorau i chi mewn marchnad swyddi sy'n gynyddol gystadleuol. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, byddwch hefyd wedi datblygu'r sgiliau a'r cymwyseddau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Bydd y cwrs hwn yn archwilio'r technegau sydd wedi gweddnewid astudio bioleg celloedd, cemeg biolegol, metabolaeth, a geneteg foleciwlaidd. Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd sy'n ymwneud yn benodol â'r ddisgyblaeth, fel gwyddorau biofeddygol, biotechnoleg ac ymchwil fferyllol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
Ymhlith y 15 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym maes y Gwyddorau Biolegol (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Lefel A BBB-BCC with B in Chemistry
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM in Applied Science. Alternative chemistry based Level 3 courses may be considered.
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Chemistry at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Chemistry
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|