Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio'r wyddoniaeth y tu ôl i'r datblygiadau diweddaraf ym maes meddygaeth, maeth a fferylliaeth, yna rhaglen Biocemeg yn Aberystwyth yw'r radd i chi. Ar y rhaglen hon, byddwch yn archwilio'r technegau sydd wedi gweddnewid astudio bioleg celloedd, cemeg biolegol, metabolaeth, a geneteg foleciwlaidd. Bydd y radd Biocemeg yn eich cymhwyso ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd sy'n ymwneud yn benodol â'r ddisgyblaeth, fel gwyddorau biofeddygol, biotechnoleg ac ymchwil fferyllol. Yn ogystal, mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu ar y cwrs hwn yn rhai y mae galw uchel amdanynt gan gyflogwyr ym mhob maes, o addysgu i reoli.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
100% boddhad cyffredinol myfyrwyr ar ein cwrs C700 Biocemeg. (ACF 2019)
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi wrth astudio bioleg gellog, foleciwlaidd a chemegol.
Byddwn yn meithrin eich chwilfrydedd deallusol a'ch ymarfer gwyddonol cyffredinol.
Caiff y pwnc ei addysgu gan arbenigwyr ym maes Biocemeg mewn canolfan ragoriaeth sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol.
Mae gan y Brifysgol gyfleusterau addysgu modern, ac mae wedi buddsoddi dros £55 miliwn o bunnoedd ynddynt.
Mae ein staff addysgu Biocemeg yn cael eu cydnabod fel addysgwyr arbenigol ac arloesol.
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae rhai o'n graddedigion wedi dilyn llwybrau gyrfa gyda'r canlynol:
GlaxoSmithKline
Astra Zeneca
Addysg
Ymchwil
Labordai.
Beth fydda i'n ei gael o'm gradd?
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gymdeithas Fiocemegol, sy'n llwyfan gwych i fyfyrwyr rwydweithio gydag eraill yn eu disgyblaeth.
Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:
sgiliau ymchwil a dadansoddi data;
sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch;
sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth;
y gallu i weithio'n annibynnol;
sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser a'r gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a strwythuredig, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
gweithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio amrywiaeth y disgyblaethau biolegol sy'n cynnwys:
Adeiladwaith a swyddogaeth planhigion
Anifeiliaid a microbau ar lefel moleciwlau, organebau a chelloedd
Anifeiliaid fertebrat ac infertebratau mawr a fydd yn canolbwyntio ar ffisioleg, cyhyrau ac ymsymudiad, maetheg, endocrinoleg, systemau anadlu cardiofasgwlaidd a homeostasis
Amrywiaeth microbaidd
Llystyfiant ac ecosystemau.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:
Bioleg celloedd
Imiwnoleg
Cromosomau
Bioleg foleciwlaidd
Gweithdrefnau Ansoddol a Meintiol dadansoddi data
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio ac yn ymgymryd â'r canlynol:
Biowybodeg
Genomeg
Ffarmacoleg
Microbau
Traethawd hir gorfodol
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion.
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:
Traethodau
Gwaith ymarferol
Cyflwyniadau llafar
Taflenni gwaith
Adroddiadau
Ymarferion ystadegol
Coflenni
Posteri
Portffolios
Wicis
Dyddiaduron myfyriol
Adolygiadau llenyddiaeth
Erthyglau cylchgrawn
Llyfrau nodiadau maes
Arholiadau
Barn ein Myfyrwyr
Fe wnaeth y cwrs Geneteg a Biocemeg wella fy mherfformiad proffesiynol a dylanwadu ar fy nghyflawniadau yn y dyfodol. Llwyddais i ddatblygu safbwynt gwyddonol ar fywyd wrth ddod i ddeall prosesau'r gwyddorau. Roeddwn i'n gwbl fodlon gyda fy nghwrs a byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sy'n angerddol am wyddoniaeth ac sy'n bwriadu dilyn gyrfa mewn amgylchedd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth. Zofia Slowik
Roedd cwricwlwm y cwrs Biocemeg yn llwyddo i daro cydbwysedd perffaith rhwng astudio cysyniadau ehangach sy'n allweddol i'r darlun cyflawn o wyddor bywyd a'r manylion llawer manylach ar feysydd penodol o fioleg foleciwlaidd. Roedd hi'n wych cael dysgu am bynciau arbenigol iawn mewn bioleg, a hefyd astudio ymagwedd at ymchwil sydd â chymwysiadau ehangach. Roedd astudio Biocemeg yn bleserus iawn, ac roedd yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau o ran modiwlau ac yn cadw'r pynciau a'r cysyniadau craidd wrth wraidd y cwrs bob amser. Alex Pike
Mae fy nghwrs yn cynnig ystod o opsiynau modiwl sy'n caniatáu i mi ddilyn fy niddordebau, yn ogystal â llawer o waith ymarferol i atgyfnerthu'r ddamcaniaeth. Carwyn John Evans
Mae Biocemeg yn gwrs diddorol a chystadleuol iawn sy'n fy helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth o feysydd meddygol a gwyddonol. Drwy gydol y cwrs Biocemeg rydw i wedi bod yn datblygu fy sgiliau ymarferol oherwydd fy mod i wedi treulio llawer o amser yn y labordai, yn cymryd rhan mewn llawer o arbrofion yn ystod y flwyddyn academaidd. Madalina Dragomir
Rhoddodd fy ngradd mewn Geneteg a Biocemeg sylfaen dda i mi a lwyddodd i fy mharatoi'n dda iawn ar gyfer astudio PhD. Mewn gwirionedd, ysbrydolodd un o'r cyrsiau, Mynegiant Genynnau a Geneteg Ddatblygiadol, fi i weithio ym maes Bioleg Ddatblygiadol, sef y maes rwy'n gweithio ynddo heddiw. Byddaf yn fythol ddiolchgar am y cyfle a roddwyd i fi a safon yr addysgu a dderbyniais. Roger – Athro mewn Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Copenhagen