
Pam astudio Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae maes llafur y cwrs hwn gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant union yr un fath â'i chwaer gwrs, BSc Bioleg (C100).
- Rhaid i'ch profiad gwaith fod yn berthnasol i'r radd hon, ac asesir y flwyddyn a bydd yn cyfri tuag at eich gradd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr drefnu eu profiad gwaith o dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd.
- Nid oes sicrwydd y byddwch yn cael eich talu am y profiad gwaith. (os na allwch ddod o hyd i leoliad, yna bydd rhaid i chi drosglwyddo i'r chwaer gwrs, BSc Bioleg (C100).
- Yn ystod eich blwyddyn o brofiad gwaith, byddwch yn talu ffioedd dysgu gostyngol, a gellir dod o hyd i'r wybodaeth yma.
- Mae Aberystwyth wedi'i lleoli ymhlith bryniau, dyffrynnoedd coediog, gwlyptiroedd, glannau tywodlyd a chreigiog ac, wrth gwrs, dyfroedd perffaith Bae Ceredigion. Os ydych chi'n chwilio am fywyd gwyllt, mae gan Aberystwyth y cyfan i'w gynnig.
- Gallwch fod yn astudio microbioleg yn y bore, ac yn ymchwilio i fywyd mewn twyni tywod yn y prynhawn; does dim rhaid i chi gyfyngu eich hun i un maes Bioleg yn unig.
- Gallwch gadw eich opsiynau'n agored neu arbenigo mewn un maes; mae strwythur ein cwrs gradd yn caniatáu i chi wneud y naill beth neu'r llall. Byddwch yn cael eich addysgu gan staff brwdfrydig, ymroddgar a chyfeillgar sydd ag arbenigedd ar draws yr ystod lawn o bynciau Biolegol.
- Bydd eich astudiaethau academaidd yn cael eu hategu gan gyfoeth o waith labordy a dosbarthiadau maes sy'n meithrin sgiliau gwyddonol go iawn sy'n hanfodol ar gyfer eich dyfodol.
- Mae ein cyfleusterau addysgu ac E-ddysgu yn rhoi profiad dysgu rhagorol i chi gan integreiddio'r sesiynau dosbarth a storfa enfawr o adnoddau astudio.
- Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi a all eich arwain dros eich cyfnod yn Aberystwyth a'ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd yma gyntaf.
- Rydym wedi buddsoddi'n helaeth a thros nifer o flynyddoedd yn ein cyfleusterau ymchwil, a gall myfyrwyr prosiect gael cyfle i weithio yn yr unedau ymchwil ar Benglais, neu yn ein cyfleuster ymchwil pwrpasol yng Ngogerddan ar gyrion Aberystwyth.
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Pa opsiynau sydd ar gael i mi ar ôl graddio?
- Mae ein graddedigion yn ymgeiswyr cryf yn y meysydd canlynol:
- Gwyddonydd ymchwil
- Genetegydd moleciwlaidd clinigol
- Swyddog cadwraeth natur
- Addysg
Gallai myfyrwyr sydd wedi graddio mewn Bioleg fynd ymlaen hefyd i gael hyfforddiant pellach ym maes:
- Deintyddiaeth
- Meddygaeth
- Awduron gwyddoniaeth
Eich blwyddyn mewn diwydiant:
Yn ôl adroddiad Highflyers 2016, mae 32% o swyddi gwag i raddedigion yn cael eu cymryd gan y rhai sydd wedi gweithio'n flaenorol i gwmni ar leoliad neu interniaeth. Yn ddi-os, byddwch yn magu hyder, a bydd ennill profiad yn y diwydiant yn ysgogi eich brwdfrydedd am y pwnc.
Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:
- I gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith;
- I wneud cysylltiadau yn y diwydiant;
- I ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio;
- I gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio;
- I wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.
- Dylai myfyrwyr ar y cynllun hwn nodi nad oes gan yr athrofa leoliadau awtomatig ar gyfer pob ymgeisydd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r profiad gwaith. Fodd bynnag, bydd Cydlynydd Profiad Gwaith ein hathrofa yn gallu eich cynorthwyo, yn ogystal â'n cynghorydd gyrfaoedd penodedig (James Cuffe, jpc11@aber.ac.uk). Os na fyddwch yn dod o hyd i brofiad gwaith, bydd modd i chi drosi eich cwrs yn fersiwn tair blynedd o'r pwnc yn lle.
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau, o Fiocemeg i Amrywiaeth Anifeiliaid, o Amrywiaeth Microbau i Lystyfiant ac Ecosystemau. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynllunio i roi sylfaen gadarn i chi ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn, a rhoi cyfle i chi gael blas ar bynciau nad ydych chi wedi'u hystyried o'r blaen o bosib.
Cynigir amrywiaeth eang o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn, mwy nag mewn unrhyw gynllun arall a gynigiwn. Yn y blynyddoedd hyn, gallwch ddewis arbenigo, gan ddilyn llwybr i faes mwy moleciwlaidd neu amgylcheddol efallai gan ddewis modiwlau fel Bioleg Foleciwlaidd Gymhwysol a Biowybodeg neu Arolygu Ecolegol. Ar y llaw arall, gallwch gadw'ch opsiynau'n agored drwy gymysgu pynciau fel Biocemeg a Ffarmacoleg gydag Ecoleg Gymunedol a Phoblogaeth. Mae'r ail ddull yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym myd addysg. Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn byddwch hefyd yn gallu astudio ein cyrsiau maes sy'n amrywio o Swoleg Drofannol i Ymddygiad Anifeiliaid.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch hefyd yn ymgymryd â'ch traethawd hir. Diolch i'r amrywiaeth o ymchwil a wneir yn IBERS, bydd modd i chi ddod o hyd i brosiect sydd wir o ddiddordeb i chi ac sy'n adeiladu eich sgiliau gwyddonol. Gall y prosiectau fod yn rhai mewn labordy neu yn y maes, neu'n astudiaethau dadansoddi data, ond maent i gyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau dadansoddi uwch. Gallech fod yn astudio parasitiaid, bridio planhigion, ymddygiad adar, neu ganser, i enwi dim ond rhai.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Nid darlithoedd ac arholiadau yw popeth yma yn Aberystwyth. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar waith maes ac ymarferol er mwyn gadael i chi faeddu eich dwylo ac adeiladu sgiliau ymarferol a dadansoddol. Mae'r sgiliau'n hanfodol ar gyfer dilyn gyrfa ym maes Biowyddorau ac addysgu, ond maent hefyd yn gwneud graddedigion Bioleg yn bobl ddeniadol i gyflogwyr mewn llawer o sectorau eraill. Mae seminarau, tiwtorialau a chyrsiau maes preswyl hefyd yn chwarae rôl wrth addysgu yma. Mae ein hamgylchedd E-ddysgu datblygedig yn cipio pob darlith i chi eu hail-wylio yn eich amser hamdden, ac yn cynnwys amrywiaeth eang o gynnwys ym mhob fformat. Mae gennym dîm Cymorth i Fyfyrwyr ardderchog yn Aberystwyth a all helpu i drefnu adnoddau addysgu ychwanegol a dewisiadau amgen i'r myfyrwyr hynny sydd eu hangen. Ein nod yw gwneud popeth a wnawn yn gwbl hygyrch i bawb, ac mae ein staff addysgu a'n staff cymorth yn ymroddedig i hyn.
Wrth gwrs, mae'n rhaid sefyll arholiadau weithiau, ond mae gan bob modiwl fwy nag un math o asesiad. Yn y rhan fwyaf o fodiwlau, mae gwaith cwrs yn rhan sylweddol o'r marciau (hyd at 50% fel arfer, er bod rhai modiwlau sy'n cael eu hasesu'n gyfan gwbl ar waith cwrs). Mae asesiadau gwaith cwrs yn amrywio o adroddiadau ymarferol neu adroddiadau maes i ysgrifennu erthyglau sy'n gweddu i gyfnodolyn a gwneud podlediadau. Mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio nid yn unig i brofi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth, maent hefyd yn adeiladu sgiliau ar gyfer y byd go iawn, er enghraifft sgiliau gwaith tîm, cyflwyno ac ysgrifennu adroddiadau sydd eu hangen mewn unrhyw swydd raddedig. Pan fyddwn yn addysgu ac yn arholi, rydym yn anelu at greu gwyddonwyr y dyfodol a darpar gyflogeion o'r radd flaenaf ar yr un pryd.